100 o Fenywod Cymreig

Dathliad o 100 o flynyddoedd ers i fenywod gael y bleidlais

Creodd RhCM Cymru a phanel o arbenigwyr y rhestr o 100 o Fenywod Cymreig i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Roeddem am ddathlu’r cyfraniad mae’r 100 o fenywod hyn wedi’i wneud i’n bywyd cenedlaethol. Mae’r rhestr yn cynnwys 50 o ferched o’r gorffennol a gafodd effaith fawr ar fywyd Cymru a 50 o ferched ysbrydoledig sy’n siapio Cymru ar hyn o bryd.

Mae’n cynnwys gwleidyddion, swffragetiaid, ymgyrchwyr gwrth-gaethwasiaeth, hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg, beirdd ac arloeswyr gwyddoniaeth a llawer mwy ond mae pob un wedi cael effaith sylweddol a pharhaol.

Bu RhCM Cymru hefyd yn gweithio gyda’r grŵp Monumental Welsh Women i ymgyrchu dros y cerflun cyntaf o fenyw o Gymru mewn gofod awyr agored yng Nghymru. Dewisodd panel o arbenigwyr bum menyw o restr 100 o Fenywod Cymreig i’w cyflwyno ar gyfer pleidlais gyhoeddus ar gyfer eu ‘Harwres Gudd’. Cyhoeddwyd mai Betty Campbell, y fenyw BME gyntaf i fod yn brifathrawes yng Nghymru, oedd yr enillydd ym mis Ionawr 2019 a byd cerflun ohoni’n cael ei godi yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.

Mae RhCM Cymru yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod menywod yn gallu cymryd eu lle haeddiannol mewn hanes ledled Cymru a’u bod yn cael eu cydnabod yn iawn mewn enwau strydoedd, cerfluniau a gan Blatiau Piws.

Illustration of Amy Dillwyn by Molly Allen

Amy Dillwyn

Yn enedigol o’r Sgeti yn Abertawe, cafodd Amy Dillwyn ei haddysg gartref ac roedd yn fenyw ifanc wrthryfelgar yng nghylchoedd bonheddig oes Fictoria. Ysgrifennodd nofelau poblogaidd yn ymdrin â rôl menywod fel dinasyddion eilradd, nofelau fel Chloe Arguelle a Jill and Jack, ac roedd hefyd yn cyfrannu erthyglau a cholofnau’n rheolaidd i’r Spectator. Bu farw ei thad yn ifanc a gadael y teulu mewn trafferthion ariannol mawr, a bu Amy’n rheoli’r ffatri sinc yn Llansamlet yr arferai ei thad ei rhedeg, busnes oedd â dyledion mawr, ar adeg pan nad oedd fawr o groeso fel arfer i fenywod yn ystafelloedd cyfarfod byd diwydiant a masnach. Llwyddodd i adfer y busnes a’i godi’n ôl ar ei draed, ac erbyn 1904 roedd wedi gwerthu ei chyfranddaliadau i gwmni o’r Almaen. Neilltuodd weddill ei hoes i wleidyddiaeth leol.

Illustration of Angela Gidden by Molly Allen

Angela Gidden

Born November 1960

Mae Angela Gidden MBE yn ddylunydd gwobrwyol, sefydledig o’r DU. Hi yw sylfaenydd a pherchennog Angela Gidden Studio a dodrefn attic 2.

Mae hi’n Gyfarwyddwr Creadigol Ymgynghorol i nifer o’i chleientiaid gweithgynhyrchu sydd â throsiant o filiynau, ac yn datblygu eu brandiau, cynnyrch, marchnata a strategaethau creadigol ar gyfer twf yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ei phrofiad creadigol masnachol yn ymestyn dros 34 mlynedd mewn dylunio tri dimensiwn, a’i phrif ddisgyblaeth yw dylunio dodrefn cyfoes. Mae Angela wedi dylunio a chydweithio â brandiau’r DU a brandiau rhyngwladol megis Heal’s, The Conran Shop, Liberty of London, Habitat, Orangebox, Camira a llawer mwy.

Fel un o fodelau rôl entrepreneur sefydlol ar gyfer Syniadau Mawr Cymru, Llywodraeth Cymru, mae hi hefyd yn fentor addysg dylunio a busnes ac yn siaradwr cyhoeddus a diwydiant. Yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Metropolitan Caerdydd (2002), derbyniodd Angela MBE yn 2007 am wasanaethau i ddylunio a busnes yng Nghymru.

Illustration of Angharad Tomos by Molly Allen

Angharad Tomos

Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd iaith ddigyfaddawd, a’i gwreiddiau yn ddwfn yn Nyffryn Nantlle, yn un o bum chwaer,ac yn wyres i’r Sosialydd, David Thomas.
Roedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1982-84 ac fe’i carcharwyd fwy nag unwaith am ymgyrchoedd iaith. Mae’n llenor disglair ac wedi ysgrifennu a darlunio nifer helaeth o lyfrau i blant gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1983. Mae wedi ennill coron Eisteddfod yr Urdd ddwywaith, Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith. Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at lenyddiaeth plant yng Nghymru. Ysgrifennodd hanner dwsin o nofelau i oedolion, a llwyfannwyd drama o’i heiddo gan y Theatr Genedlaethol yn 2012. Yn ddiweddar, mae wedi sgwennu tair nofel i bobl ifanc yn seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol. Mae’n byw ym Mhenygroes gyda’i gŵr Ben a’i mab 15 oed, Hedydd.

Illustration of Ann Pettitt by Molly Allen

Ann Pettitt

A hithau’n fam ifanc yn magu plant bach mewn tyddyn yn Sir Gaerfyrddin, cychwynnodd Ann Pettitt fudiad a fyddai’n gweddnewid hanes modern. Hi oedd un o sylfaenwyr Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham. Gorymdeithiodd 36 o fenywod 120 o filltiroedd am 10 diwrnod o’u cartrefi i’r gwersyll awyr milwrol yn Berkshire i brotestio yn erbyn cynlluniau i gadw taflegrau Cruise yno. Ysgrifennodd Ann lyfr am ei chyfnod yn Greenham, ac mae hefyd wedi ysgrifennu am ffeministiaeth, byw’n gynaliadwy a gwleidyddiaeth Cymru i bapurau newydd cenedlaethol, cyhoeddiadau ffeministaidd, a chylchgronau eraill.

Illustration of Anne Ellis by Molly Allen

Anne Ellis

Yn enedigol o Abertawe, chwaraeodd Anne Ellis 138 o weithiau’n olynol i Gymru a 14 o weithiau i Brydain rhwng 1963 ac 1980, a tan 2017 hi oedd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau’n chwarae hoci i Gymru. Bu’n hyfforddi timau Prydain Fawr a Chymru ar ôl ymddeol o’r gamp, ac am 20 mlynedd hi oedd Llywydd Hoci Cymru. Mae’n ymroddedig i’r gamp ar bob lefel hyd heddiw, hi yw Llywydd Cyngor Gemau’r Gymanwlad Cymru, ac mae hyd yn oed yn rhoi help llaw yng nghaffi Clwb Hoci Dinas Abertawe ar benwythnosau.

Illustration of Audrey Williams by Molly Allen

Audrey Williams

Wedi’i geni a’i magu yn Ninas Powys, roedd Audrey Williams yn archeolegydd proffesiynol a fu’n cloddio ar safleoedd hanesyddol enwog ledled y DU, gan gynnwys Teml Mithras yn Llundain, y Barbican a Phalmant Rhufeinig Caergaint, ynghyd â safleoedd yn agosach at ei chartref megis Comin Fairwood yn Abertawe a Rhosili ar Benrhyn Gŵyr. Dechreuodd ymwneud ag Amgueddfa Abertawe ac Athrofa Frenhinol De Cymru ar ôl astudio Saesneg yn Rhydychen, a rhwng 1941 ac 1944 roedd yn Arolygydd Henebion Cynorthwyol i Weinyddiaeth Gwaith ac Adeiladau Llywodraeth Prydain. Ei gwaith oedd cloddio safleoedd archeolegol cyn iddynt gael eu datblygu i greu amddiffynfeydd neu safleoedd milwrol, ond er iddi weithio bob dydd ar safle Teml Mithras, yn wahanol i’w chyfarwyddwr a’i chydweithiwr yr Athro William Grimes, ei enw ef yn unig sydd i’w weld ar y safle.

Illustration of Betsi Cadwaladr by Molly Allen

Betsi Cadwaladr

Bu Elizabeth ‘Betsi’ Cadwaladr yn gweithio ochr yn ochr â Florence Nightingale yn y Crimea, ar ôl dechrau ei bywyd yn un o 16 o blant ym mhentref gwledig Llanycil ger y Bala. Bu farw ei mam pan oedd Betsi’n 5 oed. Roedd ganddi anian wrthryfelgar, a daeth hynny ag anturiaethau yn ei sgil: aeth i Lundain yn ferch ifanc er mwyn osgoi gorfod priodi, ac yna bu’n teithio’r byd yn gweithio ar longau mordeithiau lle bu’n helpu menywod i esgor ar fabanod, yn gofalu am bobl sâl, a hefyd yn perfformio mewn dramâu Shakespeare un-fenyw. Roedd ganddi ddiddordeb brwd mewn nyrsio gydol ei hoes, a bu’n ymladd yn erbyn biwrocratiaeth yn y Crimea er mwyn i filwyr wedi’u hanafu gael triniaeth briodol. Ysgrifennodd hunangofiant wedi iddi ddychwelyd i Brydain, ychydig cyn iddi farw.

Illustration of Betty Campbell by Molly Allen

Betty Campbell

Yn enedigol o Butetown, breuddwyd Betty Campbell pan oedd yn blentyn oedd cael bod yn athrawes, ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd y Fonesig Margaret i Ferched yng Nghaerdydd. Bu’n rhaid iddi ohirio ei hastudiaethau ar ôl beichiogi yn 17 oed, ond ymunodd â rhaglen ymarfer dysgu yng Ngholeg Hyfforddi Caerdydd ar ôl cael tri o blant. Wynebodd ragfarn pan benodwyd hi’n brifathrawes ddu gyntaf Cymru ym Mount Stuart yn yr 1970au, ond oherwydd ei dulliau dysgu ysbrydoledig am gaethwasiaeth, hanes pobl dduon ac apartheid yn Ne Affrica, buan iawn y magodd ei hysgol enw da. Yn ddiweddarach daeth yn aelod o’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, ac fe’i gwahoddwyd i gwrdd â Nelson Mandela ar ei unig ymweliad â Chymru yn 1998. Yn 2003, cafodd MBE am ei gwasanaeth i addysg a bywyd cymunedol.

Illustration of Brenda Chamberlain by Molly Allen

Brenda Chamberlain

Ganwyd Brenda Irene Chamberlain ym Mangor, ac roedd yn artist, yn fardd ac yn nofelydd. Ysgrifennodd am ei hatgofion o’r blynyddoedd a dreuliodd yn byw ar Ynys Enlli ac hi oedd enillydd y ddwy Fedal Aur gyntaf i’w dyfarnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol am Gelfyddyd Gain, yn 1951 ac yna yn 1953. Bu farw ym Mangor yn 1971, yn 59 mlwydd oed, ar ôl cymryd gorddos o gyffuriau tawelu. Mae ei gwaith i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn y Llyfrgell Genedlaethol, ym Mhrifysgol Bangor, yng Nghastell Cyfarthfa ac yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain.

Illustration of Bridget Bevan by Molly Allen

Bridget Bevan

Wedi ei magu mewn teulu crefyddol yng Nghwrt Derllys ger Caerfyrddin, roedd Bridget Bevan yn arloeswraig gynnar o ran darparu llythrennedd yng Nghymru drwy fudiad yr ysgolion cylchynol. Sefydlodd ei hysgolion ei hun yn Llandeilo Abercywyn a Llandybie, a rhoddwyd iddi’r dasg o barhau â’r rhaglenni a gychwynnwyd gan yr arloeswr addysgol blaenllaw o bregethwr Griffith Jones ar ôl ei farwolaeth. Gwnaeth hynny’n llwyddiannus: o dan ei goruchwyliaeth, helpodd 242 o ysgolion 13,205 o ddisgyblion i ddysgu darllen.

Illustration of Charlotte Church by Molly Allen

Charlotte Church

Yn enedigol o Gaerdydd, cafodd Charlotte Maria Church ei chyfle cerddorol mawr cyntaf yn 11 mlwydd oed pan ganodd gân Andrew Lloyd Webber ‘Pie Jesu’ dros y ffôn ar This Morning yn 1997. Pan wnaeth ei halbwm cyntaf, Voice of an Angel, hi oedd yr artist ieuengaf i fod ag albwm rhif un yn siartiau cerddoriaeth croes-glasurol Prydain. Yn ystod ei gyrfa gerddorol enillodd sawl gwobr a chynhyrchu chwe albwm. Ymddangosodd ar y teledu hefyd, ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn gwneud gwaith ymgyrchu gwleidyddol.

Illustration of Charlotte Guest by Molly Allen

Charlotte Guest

Ganwyd y Foneddiges Charlotte Guest yn Swydd Lincoln, yn un o deulu o uchelwyr yn Lloegr. Hi gyhoeddodd y cyfieithiad cyntaf o’r Mabinogion. Roedd yn wraig i un o feistri haearn Cymru a pherchennog Cwmni Haearn Dowlais, a thra bu’n byw yng Nghymru roedd yn weithgar iawn yn y gymuned. Roedd Charlotte yn arloesi o ran sefydlu ysgolion i’r gweithwyr, gosod pibellau dŵr i’w bythynnod a chynnal trafodaethau yn ystod streiciau. Roedd yn ieithydd hefyd, a daeth yn amlwg ym maes astudio llenyddiaeth Gymraeg y Dadeni.

Illustration of Charlotte Price-White by Molly Allen

Charlotte Price-White

Ganwyd Charlotte Bell yn yr Alban, a symudodd i Fangor i hyfforddi i fod yn athrawes. Hi oedd Ysgrifennydd cangen Bangor o Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau’r Bleidlais i Fenywod (NUWSS). Roedd yn un o aelodau blaenllaw mudiad Swffragyddion Gogledd Cymru, ac yn un o ddim ond dwy fenyw o’r ardal (Mildred Spencer o Fae Colwyn oedd y llall) a gerddodd yr holl ffordd i Lundain yn rhan o Bererindod NUWSS yn 1913. Ymunodd y menywod o ogledd Cymru â “Grŵp Watling Street” a chyrraedd y brifddinas ar 25 Gorffennaf mewn pryd ar gyfer y rali fawr ym Mharc Hyde ar 26 Gorffennaf. Yn 1926 hi oedd y fenyw gyntaf i’w hethol yn aelod o Gyngor Sir Gaernarfon.

Illustration of Cheryl Beer by Molly Allen

Cheryl Beer

Mae Cheryl Beer yn Ganwr / Cyfansoddwr Caneuon, Awdur ac Artist Cyfryngau Creadigol gwobrwyog. Mae hi wedi treulio ei gyrfa yn ddiflino yn arloesi buddion y Celfyddydau ac Iechyd, gan weithio gyda miloedd o bobl o bob cefndir yng Nghymru, India, Affrica a Belarus, i sicrhau newid cymdeithasol i’r rhai mwyaf anghenus.

Cheryl yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Sound Memories, sioe Radio Dementia-Gyfeillgar ac ers bod â nam ar ei chlyw yn 2017, mae wedi bod yn treialu effaith Ymwybyddiaeth Ofalgar a’r Celfyddydau, ar ôl recordio cyfres o albymau Myfyrdod, yn ogystal â chynhyrchu sioe Radio yn ymwneud â’r Ysbryd Dynol a Lles. Wedi’i disgrifio fel ‘bod ar ei gorau yng nghanol pobl’, mae hi’n gyfuniad unigryw o artist ac academydd. Cheryl oedd Cyfarwyddwr Creadigol a sylfaenydd yr Ŵyl Gerddoriaeth i Fenywod fwyaf yn Ewrop, wedi’i lleoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac mae wedi helpu cannoedd o artistiaid sydd bellach yn adnabyddus, i lansio eu gyrfaoedd.

Cyhoeddwyd ei hymchwil stori bywyd mewn cyfnodolyn rhyngwladol Storytelling Self & Society ac enillodd ei llyfrau straeon gyda phobl ifanc Wobrau Rhagoriaeth Ieuenctid gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd ei gwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar ym maes Iechyd Meddwl fel Arfer Gorau yng Nghynhadledd Ryngwladol Iechyd Meddwl Prifysgol Caergrawnt, enillodd Wobr Gofal Genedlaethol AUR am ei Phrosiectau Cyfryngau Creadigol gyda phobl Hŷn ac yn fwyaf diweddar, Cyflawniad Eithriadol yn y Cyfryngau Creadigol a gwobr Cyfraniad Sylweddol i’r Celfyddydau. Heb os, mae’n ysbrydoliaeth.

Illustration of Danusia Trotman-Dickenson by Molly Allen

Danusia Trotman-Dickenson

Wedi ymgartrefu yn y DU ar ôl gadael Gwlad Pwyl yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd Danusia Trotman-Dickenson ymddiddori mewn economeg, a bu’n astudio’r pwnc mewn sawl sefydliad ym Mhrydain, cyn ymddeol fel Athro Economeg ym Mhrifysgol Morgannwg – Prifysgol De Cymru erbyn hyn. Hi hefyd sefydlodd Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, a bu’n Gadeirydd ar y fenter am 14 mlynedd. Syr Aubrey Fiennes Trotman-Dickenson, Prifathro Prifysgol Caerdydd, oedd ei diweddar ŵr.

Illustration of Deirdre Beddoe by Molly Allen

Deirdre Beddoe

Wedi’i geni yn y Barri a’i haddysgu ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, mae Deirdre Beddoe yn hanesydd nodedig ym maes hanes menywod ym Mhrydain fodern, gyda phwyslais penodol ar Gymru. Mae wedi treulio ei bywyd yn ymchwilio i’r ymgyrch i sicrhau’r bleidlais i fenywod, bywydau menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, ac ysgrifennu gan fenywod yn yr ugeinfed ganrif ym Mhrydain. Bu’n weithgar iawn ym mudiad Rhyddid i Fenywod yn yr 1970au, yn aelod o Grŵp Gweithredu Menywod Caerdydd. Trefnodd y gynhadledd gyntaf ar hanes menywod yng Nghymru yn 1983, ac yn 1985 cyfarwyddodd y ffilm I’ll Be Here for All Time gyda Sheila Owen-Jones, ynglŷn â thraddodiad protest menywod yng Nghymru. Yn 2016 cafodd ei rhaglen i’r BBC ar fenywod o Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf ganmoliaeth haeddiannol.

Illustration of Dilys Price by Molly Allen

Dilys Price

Athrawes wedi ymddeol sy’n byw yng Nghaerdydd yw Dilys Price, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel “Daredevil Dilys”, a wnaeth ei naid gyntaf â pharasiwt yn 54 mlwydd oed. Mae bellach wedi cwblhau dros 1,139 o neidiau gan godi degau o filoedd o bunnoedd i achosion da, ac mae’n dal Record Byd Guinness ar hyn o bryd fel yr Awyr-blymwraig Hynaf yn y Byd. Tra oedd yn athrawes, bu’n gweithio gydag ysgolion arbenigol i helpu plant mewn cadeiriau olwyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a dawns, ac yn 1996, fe sefydlodd Touch Trust yn ei chegin yng Nghaerdydd. Tyfodd yr ymddiriedolaeth yn fuan iawn yn ganolfan nodedig ar gyfer addysg symud (sef ‘therapi cyffwrdd’) i bobl ag awtistiaeth, dementia ac anableddau dwys.

Illustration of Dorothy Rees by Molly Allen

Dorothy Rees

Yn enedigol o’r Barri, roedd Dorothy’n athrawes yn ne Cymru, yn aelod o Gyngor Bwrdeistref y Barri, ac yn henadur Cyngor Sir Morgannwg. Yn etholiad cyffredinol 1950, cafodd ei hethol yn AS dros etholaeth y Barri. Yn y Senedd, bu’n Ysgrifennydd Preifat Seneddol i Edith Summerskill, y Gweinidog Yswiriant Gwladol. Bu’n aelod o’r pwyllgor cynghori cenedlaethol ar Yswiriant Gwladol, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a Bwrdd Ysbytai Hyfforddi Cymru, a chafodd CBE yn 1964, a DBE yn 1975.

Illustration of Edith Picton-Turbervil by Molly Allen

Edith Picton-Turbervil

Mae Edith Picton-Turbervill yn cael ei chofio’n eang fel hyrwyddwr hawliau menywod ymroddedig. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu’n ymwneud yn weithredol ag YWCA (Cymdeithas Gristnogol Merched Ifanc) lle bu’n gweithio i ddarparu hosteli a ffreuturau i weithwyr arfau rhyfel benywaidd.

Edith oedd y fenyw gyntaf i bregethu mewn gwasanaeth statudol Eglwys Loegr (100 mlynedd yn ôl) ac yn ddiweddarach aeth ymlaen i ymgyrchu i ferched gael caniatâd i fynd i mewn i’r offeiriadaeth.

Ym 1929, hi oedd y fenyw Gymraeg gyntaf i ddod yn AS Llafur dros Salop ym 1929, a’r fenyw gyntaf i eistedd ar Bwyllgor Seneddol yr Eglwys.

Cyflwynodd y Mesur Dedfryd Marwolaeth (Mamau Beichiog), a aeth ymlaen wedyn i ddod yn gyfraith, gan ddeddfu na ddylid dienyddio unrhyw fenyw feichiog. Hefyd, fel rhan o gomisiwn gan y llywodraeth, ysgrifennodd Edith adroddiad cyhoeddedig ym 1937 ar lafur plant benywaidd ym Malaya a Hong Kong, gan eirioli ordinhadau caeth, gan arwain at lywodraethau Malaya a Hong Kong yn cytuno i fabwysiadu ei chynlluniau mewn egwyddor.

Illustration of Elaine Morgan by Molly Allen

Elaine Morgan

Magwyd Elaine Floyd ger Pontypridd ac aeth i fyw yn ddiweddarach i Aberpennar. Roedd yn awdur o fri, yn ysgrifennu ar gyfer y teledu ac am anthropoleg. Ysgrifennodd sgriptiau ar gyfer y ddrama fywgraffiadol a ddarlledwyd yn 1981 The Life and Times of David Lloyd George ac addasiadau teledu megis How Green Was My Valley yn 1975, a Testament of Youth yn 1979. Yn 1972 cyhoeddodd ei llyfr The Descent of Woman, yn herio safbwynt wrywaidd The Naked Ape Desmond Morris, er bod ei syniadau ffeministaidd yn cael eu hwfftio mewn cylchoedd academaidd ar y pryd. Mae ei damcaniaethau bellach wedi cael cryn dipyn o sylw, a chawsant eu trafod yn helaeth gan David Attenborough yn y gyfres radio The Waterside Ape yn 2016.

Illustration of Elizabeth Andrews by Molly Allen

Elizabeth Andrews

Ganwyd Elizabeth Andrews i deulu o lowyr ym Mhenderyn, a rhannai ymroddiad dwfn i’r Blaid Lafur â’i gŵr Thomas T. Andrews, un o sylfaenwyr cangen y Rhondda o’r Blaid Lafur Annibynnol. Elizabeth oedd y fenyw gyntaf i’w phenodi’n Drefnydd Menywod i’r Blaid Lafur yng Nghymru o 1919-1947. Yn 1919 rhoddodd hi a dwy wraig i lowyr dystiolaeth gerbron Comisiwn Sankey, i geisio darbwyllo perchnogion pyllau glo a’r Llywodraeth ei bod yn hanfodol gosod baddonau pen-pwll. Arwyddair Elizabeth oedd ‘addysg, corddi a threfnu’ ac yn sgil ei gweithredu agorwyd yr Ysgol Feithrin gyntaf yn y Rhondda yn yr 1930au. Yn 1949 cafodd OBE ac yn 1957 cyhoeddodd hanes ei bywyd – A Woman’s Work is Never Done.

Illustration of Emily Penn by Molly Allen

Emily Penn

Wedi’i geni yn Abertawe a’i magu ym Mhenarth, mae Emily Penn yn gweithio’n rhyngwladol i hyrwyddo moroedd glân. Trefnodd yr ymgyrch lanhau gymunedol fwyaf erioed o ynys fechan yn Tonga, mae wedi treillio am ficro-blastigau drwy Lwybr Gogledd Orllewinol yr Arctig, ac wedi mynd o amgylch y blaned ddwywaith yn y cwch bio-danwydd sydd wedi torri record byd, Earthrace. Mae’n rhannu ei hamser rhwng rhedeg eXXpedition – cyfres o deithiau i fenywod yn unig sy’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng plastigau a thocsigau ac iechyd menywod – a gweithio i ddatrys problem plastigau yn ein moroedd gyda Parley for the Oceans a chleientiaid corfforaethol eraill. Hi oedd yr ieuengaf erioed, a’r unig fenyw, i dderbyn gwobrau Hwylfeistr y Flwyddyn a Môr-feistr y Flwyddyn.

Illustration of Emily Phipps by Molly Allen

Emily Phipps

A hithau’n Brifathrawes yn Ysgol Uwchradd Abertawe ddechrau’r 1900au, llwyddodd Emily Frost Phipps, a oedd yn enedigol o Ddyfnaint, i weddnewid ei hysgol yn un o’r sefydliadau addysgol mwyaf ei fri yng Nghymru. Roedd yn swffragydd ymroddedig, a bu’n ymgyrchu’n frwd hefyd dros gyfle cyfartal i ferched mewn addysg, yn ogystal â thros gyflogau cyfartal yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Yn 1918, safodd fel ymgeisydd Annibynnol yn yr etholiad cyffredinol cyntaf yr oedd gan fenywod hawl i sefyll ynddo, gan ennill 20.9 y cant o’r bleidlais a chadw ei blaendal yn etholaeth Chelsea yn Llundain. Roedd hefyd yn cefnogi Undeb Cenedlaethol yr Athrawesau gydol ei hoes, a hi oedd golygydd cyntaf cyfnodolyn yr undeb, Woman Teacher, o 1919 tan 1930. Yn fythol agored i syniadau newydd, ailhyfforddodd fel bargyfreithwraig a hithau yn ei 60au.

Frances Hoggan

Wedi’i geni yn Aberhonddu yn ferch i gurad, aeth Frances Morgan i’r ysgol yn wyth oed, a hi oedd y fenyw gyntaf a hyfforddwyd ym Mhrydain i’w chynnwys ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol 12 mlynedd yn ddiweddarach. Bu’n rhaid iddi frwydro’n gyson i amddiffyn ei lle fel menyw yn ei phroffesiwn, a bu’n ymgyrchu’n frwd i hybu addysg glanweithdra, yn cefnogi hawl menywod i gael y bleidlais ac addysg i ferched yng Nghymru, ac yn ddiweddarach, bu’n cefnogi ymgyrchoedd hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau. Yn 2016 sefydlodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Fedal Frances Hoggan yn wobr flynyddol i gydnabod cyfraniad menywod eithriadol sydd â chysylltiad â Chymru ym meysydd gwyddoniaeth, meddygaeth, peirianneg, technoleg neu fathemateg.

Illustration of Gillian Clarke by Molly Allen

Gillian Clarke

Yn enedigol o Gaerdydd, mae Gillian Clarke wedi cyhoeddi gwaith fel bardd a dramodydd. Mae’n gyn olygydd ar The Anglo-Welsh Review ac ar hyn o bryd hi yw llywydd canolfan ysgrifennu Tŷ Newydd. Roedd hefyd yn un o’r rhai a sefydlodd y ganolfan yn 1990. Mae myfyrwyr TGAU a Safon Uwch ledled Prydain yn astudio ei barddoniaeth. Ymhlith y gwobrau y mae wedi’u hennill mae Gwobr Glyndŵr am Gyfraniad Eithriadol i’r Celfyddydau yng Nghymru (1999), Bardd Cenedlaethol Cymru (2008), yr ail berson o Gymru i ennill Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth (2010) a Gwobr Farddoniaeth Cymdeithas Wilfred Owen (2012).

Illustration of Haley Gomez by Molly Allen

Haley Gomez

Wedi’i geni yn y Barri a’i haddysgu mewn ysgolion gwladol yno, mae Haley Gomez yn arbenigwraig ryngwladol ar astroffiseg, yn gweithio i geisio deall ffurfiad ac esblygiad llwch cosmig. Yn 2014, enillodd wobr Ysbrydoli Cymru yng nghategori’r Gymraes neu’r Cymro mwyaf ysbrydoledig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, ac mae’n aelod o Bwyllgor WISE yng Nghymru, ymgyrch sy’n cydweithio â phartneriaid diwydiannol ac academaidd i annog merched yn y DU i ddilyn cyrsiau a gyrfaoedd STEM ac adeiladu.

Illustration of Hannah Mills by Molly Allen

Hannah Mills

Yn wyth mlwydd oed, dechreuodd Hannah Mills hwylio yng Nghanolfan Hwylio Llanisien yng Nghaerdydd, ei dinas enedigol, ar ôl cael blas ar y gamp ar wyliau teuluol yng Nghernyw. Enillodd ei medal aur gyntaf yn 2012 ym Mhencampwriaethau Byd 470, ac enillodd fedal arian yn y Gemau Olympaidd gyda Saskia Clark yr haf hwnnw hefyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach, enillodd y ddwy eto yng Ngemau Olympaidd Rio, er gwaetha’r profiad ofnadwy o gael eu bygwth â chyllell a chael rhywun yn dwyn oddi arnynt yn y ddinas tra oeddent yn hyfforddi. Enillodd Mills wobr Hwylwraig Ryngwladol y Flwyddyn yn 2016, a chafodd MBE yn rhestr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2017.

Illustration of Hayley Parsons by Molly Allen

Hayley Parsons

Magwyd Hayley Parsons yng Nghwmbrân. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed i weithio mewn cwmni yswiriant bach teuluol ger ei chartref. Symudodd i Admiral, cwmni cenedlaethol newydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn 1992, a llwyddo i sefydlu gwasanaeth brocera yswiriant bach i’r cwmni, ac yna’r safle cymharu yswiriant ceir, Confused.com. Gadawodd Admiral yn 2006 i sefydlu Go Compare, a ddaeth yn gyflym iawn yn gorfforaeth werth miliynau o bunnoedd, gan ennill llawer o wobrau busnes iddi. Mae bob amser wedi bod yn ymroddedig i economi fusnes Cymru, a gwerthodd weddill ei chyfrannau yn GoCompare i esure am £43.7m, ar yr amod bod y cwmni’n aros yng Nghasnewydd.

Illustration of Hester Mackenzie by Molly Allen

Hester Mackenzie

Roedd Hester Millicent Mackenzie yn feistres Normal yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, sefydliad a chanddo bolisïau goleuedig bryd hynny o ran recriwtio a chadw menywod yn fyfyrwyr ac yn staff. Gwnaeth Hughes ei marc pan benodwyd hi’n athro addysg i fenywod yn 1910, y fenyw gyntaf i’w phenodi’n athro prifysgol yng Nghymru. Roedd hefyd yn gyd-sylfaenydd Cymdeithas y Bleidlais i Fenywod yng Nghaerdydd ac yn 1918 safodd fel ymgeisydd i’r Blaid Lafur yn yr etholiadau seneddol, yr unig fenyw i wneud hynny yng Nghymru.

Illustration of Ilora Finlay by Molly Allen

Ilora Finlay

Mae Ilora Gillian Finlay yn gweithio’n ddiflino, wrth ei gwaith ac yn y senedd, i ofalu am bobl sydd â salwch angheuol ers yr 1970au. Un o Gaerdydd yw hi ac mae’n gyn Lywydd ar y Coleg Meddygaeth Brenhinol. Bellach mae’n athro meddygaeth liniarol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn Is-lywydd Hospice UK a Gofal Marie Curie, ac yn ymgynghorydd yn nghanolfan ganser Felindre yng Nghaerdydd. Hi hefyd oedd y person cyntaf i gynnig bil i wahardd ysmygu mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghymru (dair blynedd cyn iddo gael ei wireddu) a bu’n ymgyrchu’n hir i newid y drefn rhoi organau fel bod pobl yn ‘optio allan’ yn lle ‘optio i mewn’. Mae dinas Caerdydd bellach ar flaen y gad yn rhyngwladol o ran cynnig gofal lliniarol, a hynny yn sgil ei henw da hi.

Illustration of Irene Steer by Molly Allen

Irene Steer

Yn ferch i ddilledydd a gwraig tŷ o gefndir dosbarth gweithiol, dechreuodd Irene Steer ei gyrfa gystadleuol fel nofwraig yng Nghaerdydd, ei dinas enedigol, gan ymarfer yn rheolaidd yn Llyn Parc y Rhath. Er ei bod yn wahanol iawn i nofwyr proffesiynol eraill, yn ddim ond 5 troedfedd 2 fodfedd, roedd yn ddiguro yn y ras 100 llath dull rhydd ym Mhencampwriaethau Cymru am saith mlynedd o 1907 tan 1913. Yn 1912 cafodd menywod hawl i gystadlu mewn cystadlaethau nofio rhyngwladol am y tro cyntaf; enillodd fedal aur Olympaidd y flwyddyn honno, yn rhan o dîm cyfnewid 4 x 100 metr Prydain, a dorrodd record y byd hefyd. Yn yr un flwyddyn, daeth Steer yn gyfartal â record y byd yn y ras 100 llath dull rhydd.

Illustration of Jade Jones by Molly Allen

Jade Jones

Cyflwynodd tad-cu Jade Louise Jones taekwondo iddi yn wyth oed yn Sir Ddinbych, a dechreuodd ymarfer y gamp yn llawn amser yn 16 mlwydd oed. Gwta flwyddyn yn ddiweddarach, enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop, a medal aur yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, curodd Hou Yuzhou o Tsieina i ennill medal aur Olympaidd, y person cyntaf erioed o Brydain i wneud hynny yn ei disgyblaeth. Cafodd MBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2013 am ei gwasanaeth i’w champ, ac enillodd fedal aur Olympaidd eto yn 2016, yn erbyn Eva Calvo o Sbaen.

Illustration of Jan Morris by Molly Allen

Jan Morris

Hanesydd, awdur a llenor trawsryweddol oedd Jan Morris, yn adnabyddus am ei thrioleg ar yr Ymerodraeth Brydeinig, Pax Britannica, a’i phortreadau o ddinasoedd ledled y byd. Ymhlith y gwobrau y mae wedi’u hennill mae Gwobr Golden PEN gan gymdeithas PEN Lloegr am Oes o Wasanaeth Nodedig i Lenyddiaeth a Gwobr Glyndŵr am Gyfraniad Eithriadol i’r Celfyddydau yng Nghymru (1996); cafodd ei henwi yn y Times fel y 15fed llenor gorau ym Mhrydain ers y Rhyfel (2008) ac ar y Rhestr Binc o bobl LHBT flaenllaw yng Nghymru.

Illustration of Jane Hutt by Molly Allen

Jane Hutt

Wedi’i haddysgu ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Bryste, treuliodd Jane ran o’i phlentyndod yn Uganda a Kenya. Mae hi wedi byw a gweithio yng Nghymru er 1972. Daeth Jane yn Gydlynydd Cenedlaethol cyntaf Cymorth Menywod Cymru ym 1978 ac roedd yn un o sylfaenwyr Gweithdy Menywod De Morgannwg. Aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr cyntaf y Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid (TPAS Cymru) ac wedi hynny roedd yn gyfarwyddwr Fair Play (Chwarae Teg).

Rhwng 1981 a 1993 roedd Jane yn Aelod o Gyngor Sir De Morgannwg yn cynrychioli Ward Glan yr Afon yng Nghaerdydd. Safodd dros y Senedd ym 1983 yng Ngogledd Caerdydd, ac ym 1999 fe’i hetholwyd yn Aelod Cynulliad Llafur cyntaf Bro Morgannwg a symudodd i’r Barri gyda’i theulu yn 2000. Am 20 mlynedd mae Jane wedi gwasanaethu Llywodraeth Cymru fel Gweinidog Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydraddoldebau, Addysg, Cyllid, Arweinydd y Tŷ, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

Mae hi’n gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac mae hi wedi hyrwyddo hawliau menywod yn ddiflino, ar hyd ei hoes waith.

Illustration of Jemima Nicholas by Molly Allen

Jemima Nicholas

Mae Jemima Nicholas, crydd 47 oed o Sir Benfro, yn cael ei adnabod yn lleol fel “Arwres Gymreig.” Ym 1797, cofnodir bod Jemima wedi crynhoi dwsin o filwyr Ffrainc ar ei phen ei hun yn ystod Brwydr Abergwaun (a elwir yn oresgyniad olaf Prydain), a’u gorfodi i ildio eu harfau gyda dim ond picfforch. Roedd y ficer lleol ar y pryd yn cofio sut roedd Jemima yn cael ei adnabod fel “Jemima Fawr” yn sgil ei gweithredoedd arwrol a “bod â phwerau personol o’r fath fel ei bod yn gallu goresgyn y mwyafrif o ddynion mewn brwydr.” Bu farw Jemima Nicholas ym Mhrif Stryd Abergwaun ym mis Gorffennaf 1832, yn 82 mlwydd oed. Mae hi wedi ei chladdu ym mynwent Eglwys y Santes Fair, Abergwaun.

Illustration of Julie Williams by Molly Allen

Julie Williams

Ganwyd Julie Williams ym Merthyr Tudful a chafodd ei magu yng Nghefn Coed. Astudiodd Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n flaenllaw ym maes ymchwil i glefyd Alzheimer, a chyfeiriwyd yn TIME at ei gwaith ar y genynnau rhagdueddol newydd cyntaf ers 17 mlynedd fel un o ddeg darganfyddiad meddygol pwysicaf 2009. Ers hynny, mae wedi sefydlu ei Chyngor Cynghori Gwyddonol ei hun, wedi dod yn un o bedwar arweinydd consortiwm geneteg Prosiect Rhyngwladol Genomeg Clefyd Alzheimer (IGAP), ac wedi comisiynu adroddiad ar fenywod mewn gwyddoniaeth a gyhoeddwyd yn 2016 (Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus), a oedd yn canolbwyntio ar recriwtio a chadw menywod, yn ogystal â’u hannog i gymryd swyddi arwain.

Illustration of Kamila Hawthorne by Molly Allen

Kamila Hawthorne

Yr Athro Kamila Hawthorne, meddyg teulu academaidd ers 30 mlynedd (25 mlynedd yn Ne Cymru), yw Pennaeth Dros Dro’r Rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe, gyda hanes hir o ddatblygu addysg feddygol arloesol i fyfyrwyr meddygol a meddygon ifanc dan hyfforddiant.

Fel cyn Is-gadeirydd (Datblygiad Proffesiynol) yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon Teulu (2015 – 2018), mae Kamila yn arholwr ar gyfer arholiadau Aelodaeth Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu er 1997, ac yn Aelod a Etholwyd yn Genedlaethol i Gyngor Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP). Dyfarnwyd iddi Fedal Sylfaenol Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (MRCGP) yn 2007 am ei chyfraniadau i ddylunio a datblygu modiwl Asesu Sgiliau Clinigol yr MRCGP, a osododd y safon ar gyfer mynediad i feddygaeth teulu cyffredinol Prydain. Mae hi hefyd wedi datblygu Canllaw Cenedlaethol ar Addysgu Ymarfer Cyffredinol i ysgolion meddygol israddedig, sy’n cael ei ddefnyddio gan bob ysgol feddygol yn y DU.

Mae diddordebau ymchwil Kamila mewn diabetes, addysg iechyd ac anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig mewn cymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae hi wedi cael profiad eang o sefydlu prosiectau cymunedol mewn diabetes a chlefyd y galon. Mae hi wedi cael ei henwi’n ‘Meddyg Teulu’r Flwyddyn’ ddwywaith, – yn 2000 am ei gwaith gyda chymunedau BAME yn Grangetown, Caerdydd, ac eto yn 2010 – wedi’i henwebu gan un o’i chleifion.

Dyfarnwyd MBE i Kamila yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2017 am ei gwasanaethau i Feddygaeth Teulu. Mae hi ar Gomisiwn Bevan. Mae ganddi ddau o blant, y ddau ohonyn nhw ym maes Meddygaeth.

Illustration of Karen Holford by Molly Allen

Karen Holford

Wedi’i magu ger y ffin â Chymru yn Fforest y Ddena, Karen Margaret Holford oedd yr aelod cyntaf o’i theulu i fynd i sefydliad addysg uwch. Penderfynodd wneud prentisiaeth beirianneg yn groes i ddymuniadau ei chynghorydd gyrfaoedd (a ddywedodd mai gyrfa i ddyn oedd hi) a bu’n gweithio fel peiriannydd i BMW, Jaguar a Rover, cyn dechrau ar ei gyrfa academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1990. Ers hynny mae wedi arwain prosiectau ymchwil arloesol ar dechnegau allyriadau acwstig, ac fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol yn 2017.

Illustration of Kate Bosse-Griffiths by Molly Allen

Kate Bosse-Griffiths

Yn enedigol o’r Almaen, gwnaeth Kate Bosse-Griffiths gyfraniad unigryw i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif ac mae’n cael ei chofio fel Eifftolegydd o fri. Wedi dianc rhag erledigaeth y Natsïaid yn 1936, aeth siwrnai Kate â hi i’r Pentre yn y Rhondda ac yna i Abertawe. Meistrolodd y Gymraeg ac ysgrifennu nifer o gerddi a straeon yn Gymraeg. Cyfrannodd at ddarlledu cynnar yn y Gymraeg (1950au) a chafodd ei phenodi’n Guradur Amgueddfa Wellcome yn Adran y Clasuron yng Ngholeg Prifysgol Abertawe (1970au). Yno y treuliodd weddill ei hoes, yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei hoffi fwyaf: catalogio, trefnu ac ymchwilio i arteffactau o’r Aifft.

Illustration of Kirsty Wade by Molly Allen

Kirsty Wade

Magwyd Kirsty Wade yn Llandrindod, ac mae wedi ennill medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad dair gwaith. Enillodd y ras 800 metr yn Brisbane yn 1982, a’r rasys 800 metr a’r 1500 metr yng Nghaeredin yn 1986, y fenyw gyntaf erioed i gyflawni’r dwbl hanesyddol hwnnw. Mae hefyd wedi torri recordiau Prydeinig yn yr 800m a’r filltir, a hi sy’n dal record Cymru yn y ddau bellter o hyd. Ers 2015 hi yw’r ail ar restr athletwyr bob cyfnod y DU yn y cystadlaethau 800 a 1500 metr y tu ôl i’r Fonesig Kelly Holmes. Bu’n cludo’r ffagl Olympaidd yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, ac mae bellach yn byw yn Ynys Lewis yn yr Alban gyda’i gŵr a’i thri o blant, lle mae wedi ei chanmol am ei gwaith i ddatblygu chwaraeon cymunedol.

Illustration of Kirsty Williams by Molly Allen

Kirsty Williams

Cafodd Kirsty Williams ei magu yn Sir Gaerfyrddin, mae’n gyn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac yn Aelod Cynulliad ers 1999. Yn 2012 enillodd wobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn ITV a chafodd CBE yn 2013. Yn 2013 cyflwynodd ddeddfwriaeth i sicrhau bod nifer ddiogel o nyrsys yn ysbytai Cymru, y Bil Mwy o Nyrsys, a gafodd ei gymeradwyo gan y Cynulliad yn 2016, gan olygu mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno deddf o’r fath. Ar hyn o bryd Kirsty yw Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru.

Illustration of Laura Ashley by Molly Allen

Laura Ashley

Ganwyd Laura Ashley i rieni o Gymry yng nghartref ei mam-gu yn Nowlais, Merthyr Tudful, a threuliodd ei phlentyndod ym Merthyr Tudful ac yn Croydon, cyn dychwelyd i Aberdâr fel faciwî yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lle’r aeth i ysgol ysgrifenyddol. Tra oedd yn gweithio fel ysgrifenyddes ac yn magu ei dau blentyn cyntaf yn Llundain gwnaeth waith datblygu cwiltio i Sefydliad y Merched, a dechrau dylunio’r sgarffiau pen, napcynau, matiau bwrdd a llieiniau sychu llestri y byddai ei gŵr, Bernard Ashley, yn eu hargraffu gartref ar beiriant a gynlluniwyd ganddo. Creodd y ddau fusnes proffidiol yn gwerthu eu nwyddau i siopau mawrion a thrwy’r post, cyn agor siop gyntaf Laura Ashley ym Machynlleth yn 1961. Roedd y teulu, gan gynnwys eu pedwar plentyn, yn byw uwchben y siop. Bu farw Laura Ashley yn 60 oed yn 1985, ac mae wedi’i chladdu ym mynwent Sant Ioan Fedyddiwr yng Ngharno. Gwnaeth y cwmni sy’n dwyn ei henw elw o £8 miliwn yn 2017.

Illustration of Laura Tenison by Molly Allen

Laura Tenison

Yn enedigol o Bont-y-pŵl, sefydlodd Laura Tenison Jojo Maman Bébé yn 1993, ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty wedi damwain ddifrifol, a siarad â mam ifanc arall am brinder dillad mamolaeth a dillad i blant. Mae pencadlys JoJo Maman Bébé yn dal i fod yng Nghasnewydd hyd heddiw, ac mae gan y cwmni 60 o siopau ar hyd a lled Prydain sy’n cyflogi 400 o bobl. Cafodd MBE am ei gwasanaeth i fyd busnes yn 2004, ac enillodd deitl Menyw Fusnes y Flwyddyn Cymru yn 2009. Tenison yw Rheolwraig Gyfarwyddwraig y cwmni o hyd, ac mae’n rhannu ei hamser rhwng Llundain, Cymru a Ffrainc.

Illustration of Leanne Wood by Molly Allen

Leanne Wood

Yn enedigol o’r Rhondda, mae Leanne Wood yn Aelod Cynulliad ers 2003 ac mae wedi bod yn llefarydd i’w phlaid ar faterion gwyrdd, cynaliadwyedd, cyfiawnder cymdeithasol, a thai ac adfywio. Mae Leanne wedi bod yn weithgar iawn ym mudiad yr undebau llafur ac mae wedi llunio dwy ddogfen bolisi fawr i’w phlaid. Yn 2008, roedd Gwneud ein Cymunedau’n Fwy Diogel yn dadlau dros ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol i Gymru, ac yn 2011 cyhoeddwyd Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd, yn dadlau dros raglen i greu swyddi gwyrdd er mwyn adfywio hen feysydd glo’r cymoedd. Yn 2012 hi oedd y fenyw gyntaf i’w dewis yn arweinydd ar Blaid Cymru.

Illustration of Linda James by Molly Allen

Linda James

Yn enedigol o Hampshire, symudodd Linda i Gymru fel plentyn bach pan adawodd ei Thad y Lluoedd Arfog. Wrth dyfu i fyny, cafodd ei blynyddoedd ysgol ei difetha gan fwlio ac o ganlyniad, gadawodd cyn sefyll unrhyw arholiadau ffurfiol, gan ddod â’i breuddwydion o ddod yn nyrs yn y Llynges i ben. Cafodd bwlio effaith negyddol ar fywyd Linda am nifer o flynyddoedd (gan gynnwys anhwylder bwyta ac ymgais i gyflawni hunanladdiad) a’i mab ieuengaf pan gafodd o’i fwlio; gwelodd Linda nad oedd llawer o adnoddau gwrth-fwlio a chymerodd gamau pendant i sefy dlu BulliesOut.

Dros y blynyddoedd, mae Linda wedi gweithio’n ddiflino yn tyfu BulliesOut i fod yn elusen lwyddiannus, wobrywog. Mae BulliesOut yn ysgrifennu ac yn datblygu gweithdai rhyngweithiol a chreadigol, rhaglenni hyfforddi a rhaglenni ymgysylltu â phobl ifanc – pob un wedi’i anelu at herio a newid agweddau ac ymddygiadau, mentora a meithrin hyder, cynyddu ymwybyddiaeth, sgiliau a hunan-barch ac ysbrydoli newid. Yn 2019, buont yn gweithio gyda dros 7500 o blant a phobl ifanc.

O ganlyniad i’w hanhwylder bwyta, dechreuodd Linda ddioddef o osteoarthritis yn ifanc a thair blynedd yn ôl, cafodd ddiagnosis o osteoporosis ar ôl cael tri chymal newydd (dwy glun, un pen-glin), ac eto ei hangerdd am yr hyn y mae hi’n ei wneud sy’n ei chadw i fynd. Mae bwlio yn dinistrio cymaint o fywydau ac mae llawer o’r bobl ifanc hyn wedi cyrraedd pen eu tennyn ac oni bai am BulliesOut a’u mentoriaid, gallai’r canlyniad ar eu cyfer fod yn wahanol iawn.

Yn 2014, dyfarnwyd MBE i Linda am ei gwaith.

Illustration of Linda Tomos by Molly Allen

Linda Tomos

Penodwyd Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol a Phrif Weithredwraig Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 2015. Yn ei gyrfa hyd yma, mae wedi bod yn Gadeirydd Cyngor Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Gwybodaeth Cymru ac yn gyfarwyddwraig Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru, ac mae wedi sefydlu nifer o wasanaethau hanfodol i fyd addysg, gan gynnwys casgliad Astudiaethau Cymreig Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru, a’r system electronig gyntaf yn y wlad i roi gwybodaeth am yrfaoedd.

Illustration of Llinos Medi by Molly Allen

Llinos Medi

Llinos Medi yw arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Sir Ynys Môn ac arweinydd benywaidd ieuengaf yng Nghymru. Fe’i hetholwyd gyntaf yn 2013 fel Cynghorydd Plaid Cymru ar gyfer ward Talybolion, gwasanaethodd yn wrthblaid cyn dod yn arweinydd grŵp Plaid yn 2015. Yn 2017, cafodd Llinos ei hail-ethol gan ei hetholwyr a’i chymeradwyo’n ddiweddarach fel Arweinydd y Cyngor Sir yn ogystal â bod yn ddeiliad portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod.

Fel Arweinydd, ei blaenoriaethau (fel yr adlewyrchir yng Nghynllun y Cyngor) yw:

• Creu’r amodau i bawb gyflawni eu potensial tymor hir
• Cefnogi oedolion a theuluoedd bregus a’u cadw’n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosib a
• Gweithio mewn partneriaeth â’n cymunedau, i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau wrth amddiffyn ein hamgylchedd naturiol.

Mae Llinos yn cadeirio Gweithrediaeth y Cyngor ac yn dal y portffolio gwasanaethau cymdeithasol. Mae hi wedi cymryd rôl weithredol ar faterion rhanbarthol gan ganolbwyntio ar economi, iechyd a lles Gogledd Cymru. Fel mam sengl i ddau o blant ifanc, mae’n awyddus i gysylltu ac ysbrydoli pobl ifanc Ynys Môn; eu haddysgu am wasanaethau’r Cyngor a rhoi llais iddynt wrth lunio ei nodau a’i amcanion yn y dyfodol. Mae hyn wedi helpu’r awdurdod i wella ei berthynas â phobl ifanc a chael gwell dealltwriaeth o’u hanghenion. Mae Llinos bob amser yn awyddus i weld pobl ifanc yn ffynnu ac yn ddiweddar mae wedi dechrau rhannu ei sgiliau arwain a’i phrofiadau mewn gwleidyddiaeth ag arweinwyr y dyfodol. Mae hi’n gobeithio bod ei gweithdai yn ysbrydoli’r rhai sydd eisiau datblygu a llwyddo.

Illustration of Lucy Thomas by Molly Allen

Lucy Thomas

Yn enedigol o Lansamlet, lle y priododd ei gŵr, y contractwr glo Robert Thomas, yn ddiweddarach, mae Lucy Thomas yn cael ei hadnabod ers tro fel ‘mam y fasnach glo-stêm yng Nghymru’. Yn ôl pob sôn byddai llwythi o lo yn cael eu cludo i Lundain o hewl y teulu Thomas, y daeth Lucy’n gyfrifol amdani ar ôl i’w gŵr farw. Bu Thomas a’i mab William yn gweithio’r glo o dan fferm gyfagos y Graig yn ddiweddarach, ac mae’r hanesydd o Ferthyr Charles Wilkins yn rhoi disgrifiad canmoliaethus o’i bywyd yn 1888, gan ei disgrifio fel menyw fusnes ffraeth a galluog. Bu farw o dwymyn teiffoid ym Merthyr Tudful yn 1847, gan adael bron i hanner cant o dai a bythynnod rhydd-ddaliadol a lesddaliadol i’w phlant.

Illustration of Mair Russell-Jones by Molly Allen

Mair Russell-Jones

Ganwyd Mair Eluned Thomas yn 1917 ym Mhontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd ei dewis ar gyfer y gwaith datgodio tra oedd yn astudio Cerddoriaeth ac Almaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd yn un o’r sifiliaid a fu’n datrys codau i’r llywodraeth yn Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Byddai’n datgodio negeseuon drwy ddefnyddio peiriant Enigma, ond siaradodd hi ddim am y gwaith hwn tan 1998, gan ei bod wedi llofnodi’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol. Gyda chymorth ei mab, Gethin Russell-Jones, ysgrifennodd ei chofiant, My Secret Life in Hut Six, a gyhoeddwyd ar ôl ei marwolaeth.

Illustration of Margaret Mackworth by Molly Allen

Margaret Mackworth

Roedd Margaret Haig Thomas o Lan-wern yn arglwyddes ac yn swffragét brwd. Cafodd ei harestio am losgi cynnwys blwch llythyrau ac aeth ar streic newyn am bum diwrnod. Yn 1915 bu bron iddi foddi pan suddodd y Lusitania, ac ysgogodd hynny hi i fod yn ffeminydd mwyfwy radical. Wedi i’w thad (David Alfred, Is-iarll Rhondda) farw, etifeddodd 28 o’i gwmnïau, ac roedd wedi’i rhestru yn y Directory of Directors yn 1919 fel cyfarwyddwraig 33 o gwmnïau. Yn 1926 hi oedd y fenyw gyntaf i ddod yn llywydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Ymgyrchodd Margaret yn aflwyddiannus i gymryd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, ond fe ddaliodd ati i hybu hawliau i fenywod drwy ei chyhoeddiad Time and Tide, a gellid dadlau mai hi oedd un o ffeminyddion mwyaf blaenllaw ei hoes.

Illustration of Martha Musonza Holman by Molly Allen

Martha Musonza Holman

Ar ôl gorfod ffoi o’i chartref yn Zimbabwe yn 2001 wedi iddi gael ei beirniadu am ddysgu gwleidyddiaeth i fyfyrwyr, mae Martha Musonza Holman o’r Fenni’n gweithio ers 16 mlynedd i feithrin cysylltiadau rhwng ei gwlad fabwysiedig a’r gwlad enedigol. Hi yw sylfaenydd Cwmni Buddiant Cymunedol Love Zimbabwe, ac mae’n ymweld â Zimbabwe’n flynyddol i sicrhau bod cynhyrchwyr Masnach Deg yn cael cydnabyddiaeth ariannol. Yn 2016 a 2017 aeth â myfyrwyr o Adran Anthropoleg Prifysgol Llambed gyda hi i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol mawr. Yn 2017, enillodd wobr yng nghategori cymdeithasol a dyngarol Gwobrau Cydnabod Llwyddiant Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru (EMWAA) i fenywod sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i fywyd Cymru.

Illustration of Mary Wynne Warner by Molly Allen

Mary Wynne Warner

Wedi’i geni yn Sir Gaerfyrddin a’i magu yn Llanymddyfri, enillodd Mary Wynne Davies ysgoloriaeth i astudio mathemateg yn Rhydychen yn 1950, ac enillodd ddoethuriaeth yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Warsaw. Ym maes topoleg niwlog, roedd yn cael ei chydnabod yn un o’r arbenigwyr rhyngwladol pennaf. Bu’n dysgu ac yn ymchwilio yn Beijing, Rangoon a Kuala Lumpur, cyn dychwelyd i Loegr i ddysgu ac ymchwilio ym Mhrifysgol y Ddinas, Llundain yn yr 1970au, lle y daeth yn athro yn 1996, ddwy flynedd cyn ei marwolaeth.

Illustration of Meena Upadhyaya by Molly Allen

Meena Upadhyaya

Ganwyd yn India a symudodd i’r DU yn 19 oed fel gwraig tŷ. Astudiodd Meena Upadhyaya
Radd Meistr yng Nghaeredin ar ôl cael ei hannog i astudio gan ei gŵr, yna, cwblhaodd ddoethuriaeth mewn meddygaeth atgenhedlu. Yn ddiweddarach, fe ddatblygodd ei gyrfa fel gweddw ar ôl i’w gŵr farw’n ifanc, yn ei dridegau. Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd am flynyddoedd lawer, mae Upadhyaya wedi treulio ei gyrfa yn canolbwyntio ar anhwylderau genetig, gan ddatblygu profion arloesol i gynorthwyo yn y diagnosis o dros 20 o glefydau genetig. Fel sylfaenydd Welsh Asian Women Achievement Awards a’r Ethnic Minority Women in Welsh Healthcare, derbyniodd OBE yn 2016 am “wasanaethau i eneteg feddygol a chymuned Asiaidd Cymru”. Etholwyd hi yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.

Illustration of Menna Gallie by Molly Allen

Menna Gallie

Ganwyd y nofelydd Menna Gallie yn Ystradgynlais, yng Nghwm Tawe.

Yn aml yn cael ei disgrifio fel y “Dylan Thomas” benywaidd, mae Menna yn cael ei hystyried yn un o brif awduron benywaidd Cymru yn yr 20fed ganrif yn y Saesneg. Wedi’i chanmol gan Eleanor Roosevelt, mae ei gwaith bob amser wedi bod yn boblogaidd yn America ac roedd ei nofel gyntaf Strike for a Kingdom, ym 1959, yn ail am y wobr fawreddog Gold Dagger.

Ar ôl mynychu Prifysgol Abertawe, aeth ymlaen i fyw yng Ngogledd Iwerddon lle cafodd ei phrofiadau eu crisialu yn ei nofel You’re Welcome to Ulster, un o’r darnau cyntaf o ffuglen a ysgrifennwyd am Yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon a chyfrif prin gan fenyw.

Roedd Menna yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, a chyfieithodd hefyd Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard i’r Saesneg, o dan y teitl Full Moon ym 1973. Roedd Menna hefyd yn siaradwr cyhoeddus a darlledwr poblogaidd ar gyfer BBC Cymru a Gogledd Iwerddon, yn enwog am ei barn gref ar fywyd yng Nghymru, cydraddoldeb rhyw, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth; roedd eu difrifoldeb bob amser yn cael ei lefeinio gan atgofion personol a straeon ffraeth.

Gyda thwf y diddordeb yn ysgrifennu menywod, mae pedair o nofelau Menna wedi cael eu hailgyhoeddi yn ddiweddar, gyda’i henw da fel llais llenyddol unigryw a gwreiddiol wedi’i diogelu.

Illustration of Nicole Cooke by Molly Allen

Nicole Cooke

Wedi’i geni yn Abertawe a’i magu ym Mro Morgannwg, cwympodd Nicole Denise Cooke mewn cariad â beicio tra oedd ar wyliau teuluol, ac mae’r canlyniadau’n drawiadol. Yn 16 oed, enillodd ras ffordd Elite, y person ieuengaf erioed i ennill pencampwriaeth Brydeinig i seiclwyr hŷn, ac yn 20 oed enillodd Gwpan y Byd. Yn 24 oed, hi oedd y person cyntaf i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd a Chwpan y Byd mewn cystadlaethau beicio, a chafodd MBE yn 2009. Roedd yn llafar ei beirniadaeth o rywiaeth a chyffuriau yn ei champ. Ymddeolodd o gystadlu yn 2013, a flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddodd ei hunangofiant, The Breakaway, a enwyd yn Llyfr Chwaraeon y Flwyddyn gan y Sunday Times.

Illustration of Nicole Davies by Molly Allen

Nicole Davies

Wedi’i geni yn Llanelli a’i haddysgu yn Ysgol Ramadeg y Merched Pen-y-bont ar Ogwr, Nicola Davies oedd y Gymraes gyntaf i’w phenodi’n Gwnsler y Frenhines yn 1992, yn 39 mlwydd oed. Hi yw’r CF uchaf sy’n amddiffyn achosion meddygol yn y DU, a hi gynrychiolodd Harold Shipman yn ei dreial yn 2000. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o achosion cyfreithiol uchel eu proffil eraill megis yr ymchwiliad i BSE a honiadau o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Illustration of Non Stanford by Molly Allen

Non Stanford

Ers ei eni, magwyd Non wedi’i amgylchynu gan chwaraeon, ac erbyn wyth oed nododd awydd i gystadlu yn y Gemau Olympaidd un diwrnod. O glwb gymnasteg yn Abertawe, i nofio ac i redeg, archwiliodd Non ei hangerdd am chwaraeon trwy lawer o’i chlybiau cartref lleol. Pan oedd hi’n 19 oed, y Triathlon aeth a hi, ac aeth yn gyflym o driathletwr amatur i Bencampwr Elît y Byd mewn pum mlynedd.

Non oedd y fenyw gyntaf erioed i ennill teitl Dan 23 y Byd (2012) a theitl Elît Hŷn (2013) mewn blynyddoedd yn olynol ac mae’n dal i fod yn un o ddim ond dau athletwr yn y Byd, gwryw a benyw, i gyflawni’r gamp honno erioed. O’r diwedd, cyflawnodd ei huchelgais Olympaidd yn 2016 lle gorffennodd yn 4ydd yng Ngemau Rio. Yng Ngemau’r Gymanwlad 2018, bu Non yn gapten ar dîm Cymru yn ei Gemau mwyaf llwyddiannus erioed.

Illustration of Norena Shopland by Molly Allen

Norena Shopland

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae gan Norena Shopland radd meistr mewn astudiaethau treftadaeth. Mae hi wedi gweithio i’r Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban ac Amgueddfa Llundain ymhlith sefydliadau treftadaeth blaenllaw. Bellach yn arbenigo mewn ymchwilio, recordio a hyrwyddo LGBT +, hanes menywod a Chymru mae hi’n gyfrifol am nifer o brosiectau arloesol; gan gynnwys y prosiect cyntaf yng Nghymru i edrych ar roi cyfeiriadedd rhyw a hunaniaeth rhywedd yn hanes Cymru, a wnaeth arwain at Balchder Cymru, yr arddangosfa gyntaf yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar bobl, cynghreiriaid a digwyddiadau LGBT + y wlad hon.

Hi oedd yn rheoli Gender Fluidity, y prosiect trawsryweddol cyntaf a ariannwyd yng Nghymru a threfnodd i Gillian Clarke ysgrifennu’r gerdd gyntaf (a’r unig un o hyd) yn y byd gan fardd Cenedlaethol yn dathlu pobl LGBT + eu gwlad. Ei llyfr Forbidden Lives: LGBT stories from Wales yw’r gwaith cwbl hanesyddol cyntaf ar gyfeiriadedd rhyw a hunaniaeth rhywedd Cymru. Mae Norena yn darlithio’n helaeth ac mae ei gwaith wedi ymddangos yn y wasg, radio, a theledu. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio gydag amgueddfa Big Pit ar yr arddangosfa gyntaf o ferched sy’n lowyr yng Nghymru, gydag Amgueddfa Glannau Abertawe ar arddangosfa o fathodynnau botwm Cymru, a Race Council Cymru ar eu prosiect Cyllido Loteri Treftadaeth Windrush Cymru yn cofnodi bywydau pobl Affro-Caribïaidd yng Nghymru.

Mae ei llyfrau The Curious Case of the Eisteddfod Baton yn dathlu canu corawl Cymru a chloddio aur Cymru ac mae The Veronal Mystery yn archwilio trosedd hoyw bywyd go iawn. Ymhlith y gweithiau sydd i ddod mae llyfr am hanes menywod sy’n trawswisgo.

Illustration of Olwen Williams by Molly Allen

Olwen Williams

Mae Olwen Williams yn Is-lywydd Ffederasiwn Menywod mewn Meddygaeth ac yn Is-lywydd Adrannol yr NSPCC yng Nghymru, ac mae hefyd yn Ymgynghorydd Meddygaeth Genhedlol-droethol a HIV ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n gefnogwr ymroddedig i gydraddoldeb yn y GIG a gwaith cysylltiedig ym maes iechyd rhywiol. Mae hefyd wedi bod yn gynghorydd i Lywodraeth Cymru. Cafodd OBE am ei gwasanaeth i feddygaeth yng Nghymru yn 2005 a chafodd ei hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2017.

Illustration of Rabab Ghazoul by Molly Allen

Rabab Ghazoul

Yn enedigol o Mosul, Irac, mae Rabab Ghazoul yn arlunydd, curadur, arweinydd diwylliannol a chyfarwyddwr / sylfaenydd y sefydliad Gentle / Radical o Gaerdydd. Gan weithio am dros 20 mlynedd ar groesffyrdd celf, diwylliant, cydraddoldebau a chyfiawnder cymdeithasol, mae Rabab wedi hyrwyddo dadleuon beirniadol ar ddidueddoldeb, pŵer a braint yng Nghymru a sut y gall y rhain lywio modelu newid radical yng nghyd-destun cenhedloedd bach. Gan weithio gyda chymunedau amrywiol ers dros ddau ddegawd, menywod BAME yn benodol, mae Rabab wedi bod yn llais cyson wrth herio diwylliant ffitio’r blwch a chyfyngiadau polisïau amrywiaeth a chynhwysiant sydd yn rhy aml o lawer yn symbylu grwpiau ar yr ymylon ac yn gwneud gwaharddiadau hanesyddol yn fythol barhaus.

Roedd Rabab yn un o bum artist i gynrychioli Irac ym Mhafiliwn Irac yn Biennale Fenis 2015, ac fel artist mae wedi cyfrannu’n eang ledled Cymru at arfer diwylliannol wedi’i seilio ar ymagweddau cymdeithasol at gelf weledol / gyfoes, a’i ffocws ar ganoli cymunedau, lleisiau ymylol, a naratifau heb eu hadrodd.

Yn 2004 sefydlodd y Gentle / Radical Film Club, prosiect ffilm cymunedol sydd wedi’i neilltuo’n benodol i gynulleidfaoedd lleiafrifoedd ethnig. Fel cyfarwyddwr Gentle / Radical, y sefydliad a sefydlodd yn 2016, mae hi’n goruchwylio prosiectau diwylliannol sy’n cynnwys ymarferwyr cenedlaethol a rhyngwladol mewn rhaglenni sy’n mynd i’r afael â phŵer y celfyddydau, gwaith cyfiawnder cymdeithasol a gwneud yn iawn, newid yn yr hinsawdd, ffydd ac arweinyddiaeth, ac ail-fframio mynediad, tegwch a chynhwysiant. Fel Bwdhaidd gweithredol am 25 mlynedd, mae hi hefyd yn arwain rhwydwaith rhyng-ffydd sy’n canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng ysbrydoliaethau cyfoes radical, cyfiawnder cymdeithasol, ac adfywio cymunedol.

Illustration of Rachael Flanagan by Molly Allen

Rachael Flanagan

Yn enedigol o Abertawe, cychwynnodd Rachael Flanagan ei chwmni glanhau, Mrs Bucket, yn 18 oed, gyda dim ond gwerth £20 o daflenni hyrwyddo a Hwfer. Erbyn hyn mae ei chwmni’n cyflogi 300 o staff ac mae ganddo dros 250 o gleientiaid domestig a masnachol ar hyd coridor yr M4, a throsiant blynyddol o £3.5m. Yn 2016, cafodd Flanagan ei chynnwys yn ymgyrch ‘35 under 35’ Management Today, yn un o’r bobl fusnes bwysicaf yn y wlad, ochr yn ochr â phrif weithredwyr llwyddiannus ac entrepreneuriaid uchelgeisiol eraill.

Illustration of Rachel Bromwich by Molly Allen

Rachel Bromwich

Wedi’i geni yn Lloegr, cwympodd Rachel Sheldon Amos mewn cariad â ieithoedd a diwylliannau Celtaidd yr oesoedd canol tra oedd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caergrawnt, a symud i Gymru i ddatblygu ei diddordeb yn y pwnc fel myfyrwraig uwchraddedig. Ysgrifennodd yn helaeth am y Trioedd, ac mae ei llyfr Trioedd Ynys Prydein yn cynnig mynegai cynhwysfawr o draddodiadau’r Gymru gynnar. Ysgrifennodd yn helaeth hefyd am y bardd Dafydd ap Gwilym, ac yn 1996 hi oedd golygydd Medieval Welsh Literature to 1400. Ar ôl ymddeol ymgartrefodd yng Ngharneddi yng ngogledd Cymru, cyn symud i Aberystwyth cyn ei marwolaeth yn 2010.

Illustration of Rachel Rowlands by Molly Allen

Rachel Rowlands

Mae Rachel Rowlands yn dal i fyw ar y fferm organig deuluol ger y Borth yng Ngheredigion, ac yn rhedeg ei chwmni o’i chartref ers 1982. Rachel’s Dairy oedd enw’r cwmni pan gafodd ei sefydlu yn 1984, a thyfodd Rachel’s Organic yn gyflym yn yr 1990au wrth i’r diddordeb mewn cynnyrch organig gydio. Agorodd y Tywysog Charles estyniad i’r llaethdy yn 1998 a sicrhaodd lawer o swyddi i’r cwmni lleol. Mae’r busnes bellach wedi’i brynu gan gwmni Lactalis o Ffrainc, ond mae Rachel a’i gŵr Gareth yn dal i fod yn ymgynghorwyr i’r cwmni yn eu hymddeoliad.

Illustration of Rachel Williams by Molly Allen

Rachel Williams

Magwyd Rachel Williams yng Nghasnewydd yng Ngwent a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Llysweri. Ym mis Awst 2011, tra oedd yn gweithio mewn siop trin gwallt yng Nghasnewydd, daeth ei chyn ŵr i mewn i’r siop a’i saethu â dryll dau faril. Bu’n rhaid i Rachel gael llawdriniaeth a barodd am ddeg awr i achub ei choes chwith. Chwe wythnos ar ôl y digwyddiad a deuddydd ar ôl iddi adael yr ysbyty, lladdodd ei mab ieuengaf, Jack, ei hun yn yr un man ag y bu farw ei dad. Ers 2011, mae’n ymgyrchu’n daer dros sicrhau bod y rhai sy’n goroesi cam-drin domestig yn cael mwy o lais yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu trefnu ac o ran pa gymorth y dylent ei gynnig. Ers 2015 mae hefyd yn Llysgennad dros Rwydwaith Menywod Cam-drin Domestig DAWN ac i fudiad Cymorth i Fenywod Cymru, lle mae’n hyrwyddo rhaglen Mae Plant yn Bwysig y sefydliad, sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifanc y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.

Illustration of Rebecca Evans by Molly Allen

Rebecca Evans

Ganwyd y soprano operatig Rebecca Evans ym Mhontrhydyfen ger Castell-nedd ac astudiodd yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac ymhlith y gwobrau y mae wedi’u hennill mae Canwr Ifanc y Flwyddyn Cymru (1989), enillydd MOCSA (1989), Théâtre du Châtelet Paris – Prix Hélène Rochas (2001), Gwobr Grammy am y Recordiad Opera Gorau am Hansel a Gretel (2008) a Gwobr Gerddoriaeth Syr Geraint Evans (2009). Mae’n is-lywydd ar Shelter Cymru ac yn Noddwr Cerdd â Gofal Cymru. Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd.

Illustration of Rose Crawshay by Molly Allen

Rose Crawshay

Symudodd Rose Crawshay i Ferthyr Tudful ar ôl priodi i mewn i deulu diwydiannol cefnog. Roedd y briodas yn un anhapus, ac roedd hi’n eiriolwraig flaenllaw dros ddiwygio priodas, y bleidlais i fenywod a hawliau menywod yn fwy cyffredinol. A hithau’n Is-lywydd rhanbarthol Ymgyrch y Bleidlais i Fenywod yn yr ardal a oedd yn cynnwys de Cymru, siaradai mewn cyfarfodydd o blaid rhoi’r bleidlais i fenywod, gan ddadlau y byddai llwyddiant yr ymgyrch yn ddechrau, nid diwedd, ar waith i sicrhau mwy o gydraddoldeb i fenywod. Hi hefyd oedd un o’r menywod cyntaf ar fwrdd addysg ar ôl Deddf Addysg 1870, a sefydlodd saith o lyfrgelloedd cymunedol rhad ac am ddim i hybu manteision llythrennedd.

Illustration of Sarah ""Cranogwen"" Rees by Molly Allen

Sarah “Cranogwen” Rees

Cafodd Sarah Jane Rees ei geni ger Llangrannog yng nghefn gwlad Ceredigion, ac roedd yn eiriolwraig frwd gydol ei hoes dros addysg i fenywod. Gwrthododd fynd i wneud prentisiaeth fel gwniadwraig pan adawodd yr ysgol, a threuliodd ddwy flynedd ar y môr yn gweithio ar long ei thad, cyn dychwelyd i ysgol forwrol yn Llundain lle’r enillodd gymhwyster a fyddai’n caniatáu iddi fod yn bennaeth ar long yn unrhyw ran o’r byd. Wedi iddi ddychwelyd adref, cymerodd yr awenau yn yr Ysgol Brydeinig i ferched a bechgyn, ond roedd hefyd yn derbyn dynion ifanc a oedd am astudio morwriaeth. Yn sgil hynny, byddai llawer o forwyr a chapteiniaid y dyfodol yn cyhoeddi’n falch eu bod wedi cael eu hyfforddiant morwrol cyntaf gan fenyw. Roedd hefyd yn fardd nodedig yn ystod oes Fictoria, dan yr enw Cranogwen, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1865 gyda ‘Y Fodrwy Briodasol’, portread teimladwy o fywyd menyw briod. Hi oedd y fenyw gyntaf erioed i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod, Y Frythones, i fenywod ifanc o’r dosbarth gweithiol yn bennaf. Hi hefyd sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De.

Illustration of Shirley Bassey by Molly Allen

Shirley Bassey

Ganwyd Shirley Veronica Bassey yn Stryd Bute yn Tiger Bay, a daeth i’r amlwg gyntaf yn 1957 gyda ‘The Banana Boat Song’. Flwyddyn yn ddiweddarach hi oedd yr artist cyntaf o Gymru i gyrraedd rhif un gyda’i sengl ‘As I Love You’. Yn fwyaf enwog am recordio caneuon agoriadol ffilmiau James Bond, mae wedi perfformio dros y byd i gyd i deuluoedd brenhinol a phwysigion ac mae wedi codi cannoedd o filoedd drwy ei gwaith elusennol. Yn 2000, cafodd DBE am ei gwasanaeth i’r celfyddydau perfformio.

Illustration of Sian James by Molly Allen

Sian James

Siân Catherine James o Abertawe oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli Dwyrain Abertawe fel Aelod Seneddol. Bu’n AS Llafur o 2005 tan 2015. Yn ystod Streic y Glowyr yn 1984, helpodd Siân i fwydo dros 1,000 o deuluoedd mewn naw canolfan wahanol mewn tri chwm. Cafodd ei gwaith i gefnogi teuluoedd y glowyr ei bortreadu yn y ffilm Pride yn 2014. Ar ôl y streic, llwyddodd Siân i gwblhau ei harholiadau Safon Uwch a mynd yn fyfyrwraig hŷn i Brifysgol Abertawe. Bu Siân yn swyddog codi arian i Achub y Plant ac yn gyfarwyddwraig Cymorth i Fenywod Cymru cyn ennill ei sedd yn y Senedd.

Illustration of Susan Williams-Ellis by Molly Allen

Susan Williams-Ellis

Roedd Susan Caroline Williams-Ellis yn ferch i Syr Bertram Clough Williams-Ellis, pensaer a chrëwr pentref gwyliau Portmeirion. Yn 16 oed, cafodd ei hanfon i Ysgol Dartington Hall yn Nyfnaint, lle y dysgodd sut i wneud crochenwaith gan Bernard a David Leach. Taniwyd ei diddordeb mewn crochenwaith o’r newydd ar ôl gweithio’n creu mapiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Erbyn hynny roedd wedi symud yn ôl i Gymru. Gyda’i gŵr, sefydlodd fusnes Crochenwaith Portmeirion, gan ddatblygu ei chyfresi a’i dyluniadau ei hun a fyddai’n dod yn annwyl i bobl ym mhedwar ban byd. Bu hefyd yn darlunio llyfrau ac yn paentio, cyn ymddeol yn 2005.

Illustration of Suzy Davies by Molly Allen

Suzy Davies

Suzy Davies yw Aelod Cynulliad Ceidwadol Cymru dros Orllewin De Cymru. Ar ôl gyrfa ym maes marchnata a rheoli, daeth yn gyfreithiwr yn gweithio i ddechrau mewn materion trais teuluol a domestig, yna, yn ddiweddarach, mewn eiddo a phrofiant.

Ers dod yn Aelod Cynulliad, bu’n ddeiliad portffolio ei phlaid ar gyfer Diwylliant a Threftadaeth, Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae bellach yn Weinidog Cysgodol dros Addysg ac Iaith Gymraeg, ac yn Gadeirydd y grŵp Trawsbleidiol i Fenywod. Yn 2018, heriodd am arweinyddiaeth Ceidwadwyr Cymru, y fenyw gyntaf i wneud hynny.

Suzy hefyd yw Cadeirydd cyntaf Women2WinWales, sefydliad gwirfoddol a sefydlwyd i annog menywod o feddwl Ceidwadol i sefyll am swydd gyhoeddus, gan gynnwys fel cynrychiolwyr etholedig. Ar ran ei grŵp, bu’n awyddus i gysylltu â sefydliadau a grwpiau menywod yng nghymunedau BME Cymru i ddeall yn well y rhwystrau i gyfranogi – ynghyd â chymryd y profiad a’r wybodaeth honno i ymgyrchu ar gydraddoldeb o fewn ei phlaid ei hun. Roedd hi’n allweddol yn y Ceidwadwyr Cymreig gan fabwysiadu diffiniad o Islamoffobia.

Mae hi wedi hyfforddi fel mentor i droseddwyr ifanc ac wedi mentora gyda Prime Cymru. Mae hi hefyd wedi bod yn ymddiriedolwr nifer o brosiectau plant ac wedi gwirfoddoli gyda grwpiau cymorth cymunedol. Mae hi wedi ysgrifennu i amryw gyhoeddiadau ac roedd yn un o aelodau bwrdd sefydlu Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru.

Illustration of Tanni Grey-Thompson by Molly Allen

Tanni Grey-Thompson

Arferai chwaer hŷn Carys Davina Grey-Thompson, Sian, ei galw’n “Tiny” pan oedd yn ifanc, a dyna sut y daeth yn “Tanni”. Roedd wrth ei bodd â chwaraeon wrth dyfu i fyny, ac wedi i’w rhieni frwydro’n llwyddiannus i’w chadw mewn addysg brif ffrwd, dechreuodd Grey-Thompson rasio cadair olwyn yn 13 oed, ac ennill teitl y gystadleuaeth Iau Genedlaethol bedair blynedd yn ddiweddarach. Enillodd ei medal Baralympaidd gyntaf yn 19 oed, pan enillodd fedal efydd yng Ngemau Seoul yn 1988; byddai’n mynd ymlaen i ennill 11 medal aur a 3 medal arian, a thorri 30 record byd. Mae’n gyflwynydd teledu, yn aelod o fyrddau sawl sefydliad chwaraeon gan gynnwys Marathon Llundain a Sportsaid, a daeth yn aelod Annibynnol Trawsfeinciol o Dŷ’r Arglwyddi yn 2010.

Illustration of Trudy Norris-Grey by Molly Allen

Trudy Norris-Grey

Ganwyd Kathryn Trudy Norris-Grey yn Nhreforys, Abertawe, y seithfed o wyth plentyn. Ar ôl astudio ar gyfer gradd mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Polytechnig Cymru (sydd bellach yn rhan o Brifysgol De Cymru), datblygodd ei gyrfa’n gyflym wrth iddi symud i swyddi marchnata a swyddi rhyngwladol uwch. Daeth yn Llywydd ar Sun Microsystems yn 2005, ac yn 2008 fe’i penodwyd yn Gadeirydd WISE (Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg), swydd y mae’n ei dal hyd heddiw, sy’n ymgyrchu i annog mwy o ferched a menywod i ddilyn gyrfaoedd STEM. Ymunodd â Microsoft fel Rheolwraig Gyfarwyddwraig Canol a Dwyrain Ewrop yn 2012.

Illustration of Ursula Masson by Molly Allen

Ursula Masson

Yn enedigol o Ferthyr Tudful, helpodd Ursula Masson i sefydlu Honno, Gwasg Menywod Cymru, i ailargraffu gweithiau menywod o Gymru o’r 19eg a’r 20fed ganrif a oedd wedi mynd yn angof. Bu hefyd yn gweithio fel newyddiadurwraig yn ne Cymru ac yna yn Awstralia, cyn dod adref i ddysgu oedolion yn Abertawe a darlithio mewn hanes ym Mhrifysgol Morgannwg. Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr Archif Menywod Cymru yn 1998, a hyrwyddodd gyfres o Sioeau Teithiol ar Hanes Menywod Cymru, lle’r oedd pobl yn dod â deunydd ynglŷn â hanes cymdeithasol bywydau menywod. Hi hefyd sefydlodd adran Astudiaethau Rhywedd Prifysgol Morgannwg, a golygodd ddau lyfr yng nghyfres Clasuron Honno: Elizabeth Andrews, A Woman’s Work is Never Done (2006) a The Very Salt of Life: Welsh Women’s Political Writings from Chartism to Suffrage (2007).

Illustration of Uzo Iwobi by Molly Allen

Uzo Iwobi

Mae Uzo Iwobi yn Gyfreithiwr a anwyd yn Nigeria, sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i gymunedau BAME Cymru.

Gan sefydlu’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd gyntaf un yn y wlad a sefydlu Race Council Cymru, corff ymbarél sy’n herio anghydraddoldebau hiliol yng Nghymru, dyfarnwyd OBE i Uzo am ei chyfraniadau i gysylltiadau hiliol cymunedol a Chymunedau De Cymru.

Mae hi wedi cael llawer o swyddi arwain ar hil, gan gynnwys gwasanaethu fel Comisiynydd Cydraddoldeb Hiliol y DU. Gweithiodd fel cynghorydd strategol i Dîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu, y Swyddfa Gartref ac Awdurdod yr Heddlu (APA) ac mae wedi bod yn aelod o fwrdd y Groes Goch Brydeinig, Coleg yr Iwerydd ac elusennau eraill fel BAWSO.

Yn fwy diweddar, penodwyd Uzo yn Gadeirydd Rhyngwladol Amrywiaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn gydlynydd ar gyfer Cymdeithas Frenhinol Cymanwlad Cymru.

Mae Uzo wedi derbyn gwobrau gan y Prif Weinidog, Comisiwn Cenedlaethol y Merched, Menyw y Flwyddyn Abertawe (2006), Gwobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Genedlaethol Cymunedau Nigeria (NANC -UK); mae cydnabyddiaeth o gyflawniad rhagorol mewn gwaith cymunedol yng Nghymru wedi cydnabod Gwobr Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe (Cyflawniad Cymunedol) 2006 iddi; yn Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru’r Drindod St David (UWTSD). Enwyd Uzo ar restr 100 o Affricaniaid Du, Gwych a Chymraeg gan Wales Online a Chomisiynydd i’r Comisiwn Canmlwyddiant.

Ar hyn o bryd mae Uzo yn gwasanaethu fel y fenyw ddu gyntaf o Affrica i gael ei phenodi’n Gynghorydd Polisi Arbenigol ar Gydraddoldebau i Lywodraeth Cymru.

1 / 10

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen