Annie Powell

Yn enedigol o’r Rhondda, roedd Annie Powell yn wleidydd Comiwnyddol a hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Faer Comiwnyddol ym Mhrydain. Athrawes oedd hi yn anad dim, ac yn ystod ei gyrfa a barodd 40 mlynedd bu’n weithgar gydag Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Taniwyd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth tra oedd yn dysgu yn ystod Streic Gyffredinol 1926 a gwasanaethodd am fwy nag ugain mlynedd ar gyngor y Rhondda.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen