Gwendoline Davies

Creodd y chwiorydd Gwen a Margaret Davies un o gasgliadau preifat mawr celf argraffiadol a chelf fodern yr 20fed ganrif ym Mhrydain. Daeth eu cyfoeth gan eu tad-cu, y diwydiannwr David Davies. Prynodd y chwiorydd blasty Gregynog ger y Drenewydd ychydig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yno y buont yn weithgar ym myd y celfyddydau a cherddoriaeth tan eu marwolaeth. Ar ôl iddynt farw, gadawodd y ddwy eu 260 a mwy o weithiau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen