Eirene White
Yn enedigol o Belfast, roedd Eirene Lloyd White, y Farwnes White, yn wleidydd Llafur ac yn newyddiadurwraig. Roedd yn un o’r menywod cyntaf i’w hethol yn AS yng Nghymru a bu’n gweithio fel gohebydd gwleidyddol i’r BBC ac i’r Manchester Evening News.