Catherine Zeta-Jones
Cafodd Catherine Zeta-Jones CBE ei geni a’i magu yn Abertawe. Aeth i Lundain i astudio theatr gerdd a dod i amlygrwydd yn y gyfres deledu Brydeinig, The Darling Buds of May. Mae wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith actio gan gynnwys gwobrau Academi a BAFTA am ei rhan yn y ffilm gerdd, Chicago.