Hilary Lappin-Scott
Mae Hilary Lappin-Scott yn arbenigwraig ryngwladol ar ecoleg ficrobaidd a hi oedd yr ail fenyw i ddod yn Llywydd ar y Gymdeithas Microbioleg Gyffredinol yn 2009. Mae’n ymgyrchu’n ddiflino i annog mwy o ferched a menywod i weithio ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg. Yn 2016 traddododd ddarlith TEDx Move Over, Boys: Why we need more girls/women in STEM Careers, ac ennill gwobr Arwyr WISE y flwyddyn honno hefyd, a gwobr arall gan elusen Chwarae Teg yn 2017.