Sian Phillips

Yn enedigol o Wauncaegurwen ym Morgannwg, mae Jane Elizabeth Ailwên Phillips, sy’n fwy adnabyddus fel Siân Phillips, yn actores ar y llwyfan a’r sgrin a hefyd yn gantores. Mae’n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Livia yn addasiad y BBC o I, Claudius ond mae’n serennu mewn rhaglenni teledu a dramâu llwyfan ers ei harddegau hwyr. Ers 2005, mae BAFTA Cymru yn cyflwyno gwobr am gyfraniad arwyddocaol sydd wedi’i henwi ar ôl Siân.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen