Kate Roberts

Yn enedigol o Sir Gaernarfon, roedd Catherine ‘Kate’ Roberts yn adnabyddus fel cenedlaetholwraig a llenor, ac yn benodol am ei straeon byrion a’i nofelau, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u gosod yng ngogledd Cymru. Roedd ei gwaith yn ymdrin yn bennaf â rôl menywod yn y gymdeithas a’r anawsterau a wynebid ganddynt, yn ogystal â syniadau am fywyd a chariad.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen