Joanna Penberthy
Wedi’i geni yn Abertawe a’i haddysgu yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, Joanna Susan Penberthy oedd y fenyw gyntaf i ddod yn esgob yn yr Eglwys yng Nghymru. Cafodd ei gorseddu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 11 Chwefror 2017. Bu Penberthy yn Rheithor yn esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, ac yn ddiacones ac yn offeiriad yn esgobaethau Llandaf, Llanelwy a Thyddewi.