Amdanom RhCM
Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae gan fenywod a dynion awdurdod a chyfle cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.
Rydym yn gweithio gyda’n clymblaid fywiog o aelodau sefydliadol ac aelodau unigol i drawsnewid cymdeithas – ni all unrhyw un sefydliad sicrhau cydraddoldeb ar eu pen eu hunain. Mae ein gwaith yn eistedd o dan dair colofn.
Byddwn yn Cysylltu, Ymgyrchu a Dathlu menywod fel bod ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu.
Ein Cyllid
Rydym yn derbyn cyllid gan Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru ac ystod o arianwyr eraill, gan gynnwys y Loteri Fawr, Rosa UK a Sefydliad Baring.
Gallwch gefnogi ein gwaith trwy ddod yn aelod neu roi rhodd.
Am beth rydyn ni’n brwydro?
Mewn partneriaeth â’n clymblaid, byddwn yn ymgyrchu dros newid mewn chwe maes:
- Arweinyddiaeth a chynrychiolaeth gyfartal;
- Rhoi’r gorau i drais yn erbyn menywod
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd rhwng y rhywiau
- Hawliau menywod byd-eang
- Cyllid teg
- Cyfrifoldebau gofalu yn cael eu gwerthfawrogi a’u rhannu