Pecyn Cymorth Cynrychiolaeth Amrywiol a Chyfartal
Datblygwyd y Pecyn Cymorth Cynrychiolaeth Amrywiol a Chyfartal gan 5050Amrywiol i gefnogi pleidiau gwleidyddol yn eu gwaith i gyflawni’r nod rydym yn ei rannu – Cymru y mae ei sefydliadau gwleidyddol yn adlewyrchu amrywiaeth lawn cymdeithas Cymru.
Mae wedi’i gynllunio i helpu pleidiau i ddod yn fannau lle mae pobl o unrhyw rywedd, nodweddion gwarchodedig a chymunedau ymylol yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu ac yn gallu llwyddo.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys tri maes sy’n ymdrin â gwahanol agweddau ar fywyd pleidiau a thaith ymgeiswyr tuag at swydd etholedig:
- Diwylliant plaid – gan gynnwys polisïau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, digwyddiadau a gweithgareddau cynhwysol, a’r cyfryngau a chyfathrebu
- Denu a chanfod talent amrywiol – gan gynnwys gwybodaeth ac allgymorth, asesu ymgeiswyr a dewis ymgeiswyr
- Meithrin a chefnogi talent amrywiol – gan gynnwys hyfforddi a datblygu, mentora a rhoi cefnogaeth gan gymheiriaid, cymorth ariannol, ac amddiffyn rhag aflonyddu a cham-drin.
Bydd rhai o’r camau gweithredu a drafodir ym mhob maes eisoes wedi’u sefydlu yn eich plaid. Mae’r Pecyn Cymorth Cynrychiolaeth Amrywiol ac Eang yn cynnig cyfle i gysylltu’r elfennau, nodi unrhyw bylchau, a datblygu set gynhwysfawr a chydlynol o fesurau wedi’u teilwra i amgylchiadau unigol eich plaid. Wrth wneud hynny, gellir defnyddio’r pecyn cymorth ochr yn ochr â chanllawiau amrywiaeth a chynhwysiant Llywodraeth Cymru ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig i lywio strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant eich plaid a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i’w gyflawni.
Mae’n bwysig bod ymrwymiad eich plaid i amrywiaeth a chynhwysiant yn cael ei ategu gan strategaeth sy’n gosod eich cenhadaeth a’ch amcanion ochr yn ochr â thargedau a chamau gweithredu mesuradwy, ac yn cael eu harddel gan arweinyddiaeth y blaid a’ch cyfansoddiad. Dylai eich plaid ystyried dynodi Cydlynydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth pwrpasol i oruchwylio gweithredu’r strategaeth hon yn effeithiol, ar draws gwahanol lefelau a changhennau o’ch plaid. Er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, dylai eich plaid ystyried paratoi adroddiad amrywiaeth a chynhwysiant i’w cyflwyno yn eich Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu Gynhadledd Flynyddol.
Wedi’i ariannu gan Ymddiriedolaeth Diwygio Joseph Rowntree
Mae Ymddiriedolaeth Diwygio Joseph Rowntree wedi cefnogi’r gwaith hwn i gydnabod pwysigrwydd y mater. Fodd bynnag, barn yr awduron yw’r ffeithiau a gyflwynir a’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid o reidrwydd barn yr Ymddiriedolaeth.
Cliciwch ar 5050Amrywiol i ddysgu mwy
Ynglŷn â 5050Amrywiol
Mae 5050Amrywiol yn glymblaid arobryn cynullwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac sy’n cael ei harwain gan Grŵp Llywio sy’n cynnwys Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Cyngor Hil Cymru, EYST Wales (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru), Age Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, Gofalwyr Cymru a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW). Ei nod yw sicrhau bod sefydliadau gwleidyddol Cymru yn gytbwys o ran rhywedd, gyda chynrychiolaeth ystyrlon gan bobl sydd â nodweddion gwarchodedig ac o gymunedau ymylol.
Ymwadiad: Cynhyrchwyd y Pecyn Cymorth Cynrychiolaeth Amrywiol ac Eang gan 5050Amrywiol. Er ei fod wedi’i ddatblygu ar y cyd mewn ymgynghoriad â’r holl aelodau, nid yw aelhttps://wenwales.org.uk/cy/rhan-un-diwylliant-plaid/odaeth o 5050Amrywiol o reidrwydd yn gyfystyr ag ategu pob safbwynt polisi unigol yn y ddogfen hon.
Darllenwch bob rhan o’r Pecyn Cymorth Cynrychiolaeth Amrywiol a Chyfartal yn unigol, neu lawrlwythwch y PDF yn llawn yma.