Gaynor Legall
Mae Gaynor Legall o Gaerdydd yn eiriolydd dros fenywod o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru. Mae wedi bod yn gynghorydd lleol yng Nghaerdydd, yn aelod o fwrdd Diverse Excellence Cymru a Bawso ac yn Gyfarwyddwraig Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown. Mae wedi ennill gwobr Llwyddiant Oes y Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.