Gwenllian Morgan
Yn enedigol o Ddefynnog, Gwenllian Morgan oedd y fenyw gyntaf yng Nghymru i wasanaethu ar gyngor bwrdeistref, a dod yn Faer. Roedd ganddi ddiddordeb brwd yn hanes Cymru a chyfrannai’n aml at gyfnodolion. Dyfarnodd Prifysgol Cymru radd MA er anrhydedd iddi yn 1925.