Audrey Jones

Ymgartrefodd Audrey Jones o Swydd Hertford ym Mro Morgannwg yn 1960 pan gafodd ei phenodi’n ddirprwy brifathrawes ar Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth. Roedd yn frwd dros gael gwared ar rywiaeth mewn ysgolion a hybu addysg i ferched, a chafodd ei gwaddol ddylanwad mawr ar fyfyrwyr ar hyd a lled Cymru. Helpodd i sefydlu Pwyllgor Hawliau Menywod Cymru (WWRC) ac roedd yn gynrychiolydd rheolaidd i’r Pwyllgor yng Nghynadleddau’r Cenhedloedd Unedig dros y byd i gyd.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen