Jessie Donaldson
Ganwyd Jessie Donaldson yn Abertawe, ac roedd yn ymgyrchydd dros gael gwared ar gaethwasiaeth. Teithiodd i Cincinnati yn 1856 i redeg ‘tŷ diogel’, gan wynebu dirwyon a charchar posib am gynnig lloches a nodded i gaethweision a geisiai ffoi i Ogledd America.