Rachel Lomax
Yn enedigol o Abertawe, mae Janis Rachel Lomax yn economegydd, yn fancwraig, ac yn gyn swyddog llywodraeth a fu’n Ddirprwy Lywodraethwr ar Fanc Lloegr. Bu hefyd yn ysgrifennydd parhaol yn y Swyddfa Gymreig o 1996 tan 1999 a goruchwyliodd sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.