Winifred Coombe-Tennant
Roedd Winifred Coombe-Tennant yn aelod blaenllaw o’r ymgyrch dros roi’r bleidlais i fenywod yn ne Cymru, a daeth yn Llywydd Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Castell-nedd ac yn Gyfarwyddwraig Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. O ran ei gwleidyddiaeth, bu’n ymgyrchu dros y Blaid Ryddfrydol a hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn aelod o ddirprwyaeth Prydain yng Ngenefa yn 1922.