Jane Hutt

Wedi’i haddysgu ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Bryste, treuliodd Jane ran o’i phlentyndod yn Uganda a Kenya. Mae hi wedi byw a gweithio yng Nghymru er 1972. Daeth Jane yn Gydlynydd Cenedlaethol cyntaf Cymorth Menywod Cymru ym 1978 ac roedd yn un o sylfaenwyr Gweithdy Menywod De Morgannwg. Aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr cyntaf y Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid (TPAS Cymru) ac wedi hynny roedd yn gyfarwyddwr Fair Play (Chwarae Teg).

Rhwng 1981 a 1993 roedd Jane yn Aelod o Gyngor Sir De Morgannwg yn cynrychioli Ward Glan yr Afon yng Nghaerdydd. Safodd dros y Senedd ym 1983 yng Ngogledd Caerdydd, ac ym 1999 fe’i hetholwyd yn Aelod Cynulliad Llafur cyntaf Bro Morgannwg a symudodd i’r Barri gyda’i theulu yn 2000. Am 20 mlynedd mae Jane wedi gwasanaethu Llywodraeth Cymru fel Gweinidog Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydraddoldebau, Addysg, Cyllid, Arweinydd y Tŷ, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

Mae hi’n gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac mae hi wedi hyrwyddo hawliau menywod yn ddiflino, ar hyd ei hoes waith.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen