Val Feld
Yn enedigol o Fangor, Val Feld oedd sylfaenydd a Chyfarwyddwraig Shelter Cymru o 1981 tan 1989. Yn ogystal â’i gwaith fel Aelod Cynulliad Llafur dros Ddwyrain Abertawe, bu hefyd yn Gyfarwyddwraig Comisiwn Cyfle Cyfartal Cymru, yn gweithio i hybu hawliau menywod a grwpiau lleiafrifol. Er mwyn cydnabod ei llwyddiannau, Val oedd y fenyw gyntaf i gael ei hanrhydeddu â phlac porffor Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gan ALWG.