Valerie Latham
Yn enedigol o Gaerdydd, enillodd Elizabeth Valerie Davies, a oedd yn cael ei hadnabod yn ddiweddarach fel Valerie Latham, ei henw ar ôl priodi, fedal aur yn 15 oed yng Ngemau Nofio Ewropeaidd 1927 yn rhan o dîm cyfnewid 400 metr Prydain Fawr. Enillodd ddwy fedal efydd i Brydain hefyd mewn cystadlaethau unigol yng Ngemau Olympaidd 1932, ac ennill cyfanswm o 11 o fedalau mawr mewn cystadlaethau rhyngwladol.