Caffi RhCM

Mae RhCM Cymru yn cynnal ac yn cadeirio digwyddiadau ar-lein rheolaidd o’r enw Caffi RhCM, sy’n cynnig y cyfle i siaradwyr a’r rheiny sy’n bresennol i drafod thema mewn manylder, o bolisi i brofiad byw menywod.  Mae’r trafodaethau hyn yn helpu i ddylanwadu a llywio ein sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru a gwneuthurwyr polisi eraill ynghylch anghydraddoldebau y mae menywod yng Nghymru yn eu profi. Mae pob Caffi RhCM #WENCafe yn cael ei hysbysebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ein cylchlythyr ar gyfer aelodau – gallwch gofrestru yma i dderbyn hon. Mae tocynnau ar gael drwy dudalen Eventbrite RhCM Cymru.

Cofrestrwch fel aelod am ddim a byddwch hefyd yn cael mynediad i weithdai Caffi RhCM i aelodau yn unig, megis ein gweithdy gyda Rhwydwaith Amgylcheddol Merched ar y Fargen Newydd Werdd Ffeministaidd. Cliciwch y botwm gwyrdd Ymuno â Ni ar frig y dudalen.

Podlediad Caffi RhCM

Tanysgrifiwch i’r podlediad Caffi RhCM ar Spotify, Apple Podcasts, Podbean, Google Podcasts, neu Amazon Music. Gallwch hefyd wylio detholiad o ddigwyddiadau blaenorol Caffi RhCM ar ein sianel YouTube.

Digwyddiadau i ddod

Ymunwch â RhCM Cymru yn y Deml Heddwch, Caerdydd ar ddydd Gwener 8fed Mawrth ar gyfer digwyddiad Caffi RhCM Diwrnod Rhyngwladol y Menywod! Clywch straeon personol am effaith buddsoddi mewn menywod gan siaradwyr gwych sy’n cynrychioli amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys STEM, busnes, a’r celfyddydau. Arbedwch eich lle yn rhad ac am ddim fan hyn.

Galwad y Cenhedloedd Unedig am IWD eleni yw ‘buddsoddi mewn menywod: cyflymu cynnydd’ a’n nod fydd dangos, trwy lens groestoriadol, yr hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn buddsoddi mewn menywod a’r rhwystrau y mae’n rhaid inni eu chwalu.

Mae’n bleser gennym groesawu Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru i Gaffi RhCM, gyda siaradwyr pellach i’w cyhoeddi’n fuan iawn!

Cofrestru a te/coffi o 1yp

Siaradwyr a panel: 1:30yp – 2:30yp

Darganfyddwch pob digwyddiad sydd i ddod ar ein dudalen Eventbrite.

Digwyddiadau blaenorol

Mae Caffis blaenorol wedi cynnwys themâu yn ymwneud ag effaith Covid-19 ar fenywod anabl, menywod BAME, a menywod LGBT, cyfrifoldebau gofalu menywod, hawliau menywod byd-eang, Incwm Sylfaenol Cyffredinol, a mwy. Gwyliwch recordiadau o’r digwyddiadau ar ein sianel YouTube.