Amodau a Thelerau Aelodaeth
Mae’r ddogfen hon yn nodi amodau a thelerau aelodaeth RhCM Cymru.
Ein gweledigaeth
Gweledigaeth RhCM Cymru yw Cymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd, lle mae gan bob menyw, dyn a pherson anneuaidd awdurdod a chyfle cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain. Rydym wedi ymrwymo i frwydr gynhwysol dros hawliau menywod – ein nod yw cynrychioli holl fenywod Cymru a chydnabod ffurfiau croestoriadol o wahaniaethu. Mae hyn yn cynnwys menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl a menywod LHDTC+. Rydym yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau pobl drawsrywiol ac anneuaidd yng Nghymru i gymryd rhan lawn a chyfartal yng nghymdeithas Cymru.
Mae RhCM yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau aelodaeth sefydliadau nad ydynt yn rhannu’r gwerthoedd hyn.
Manteision
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ac yn darparu’s manteision a nodir isod.
Cysylltu
- Dod yn rhan o rwydwaith aelodaeth mawr, bywiog ac amrywiol lle gallwn eich cysylltu ag eraill
- Hybu eich gwaith a cynnwys eich swyddi gwag, digwyddiadau a newyddion yn ein cylchlythyr misol
- Cael eich arddangos fel aelod sefydliadol ar ein gwefan
- Cyfle i bartneru gyda ni ar ein hymgyrchoedd a gwaith polisi
Dylanwadu
- Cyfrannu’n uniongyrchol at ddylanwadu ar drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, llunio polisïau a’u rhoi ar waith
- Bwydo i mewn i’n hymatebion i ymgynghoriadau, briffiau ac adroddiadau
- Dweud eich dweud ar y materion sydd bwysicaf i chi, yn ein harolwg blynyddol o aelodau
Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth
- Derbyn ein fflachiau newyddion a’n cylchlythyr misol sy’n llawn o newyddion a digwyddiadau ar gydraddoldeb rhywedd a hawliau menywod yng Nghymru
- Mynediad cyntaf at ein hadroddiadau a’n hymchwil
- Cysylltu gyda’n tîm arbenigol
- Cyfle i ymuno ymuno â’n Rhwydwaith Rhywedd
Digwyddiadau
- Archebu blaenoriaethol ar gyfer digwyddiadau a lansiadau, gan gynnwys Caffi RhCM
- Gweithdai ar gyfer aelodau yn unig
- Gwahoddiad a phleidlais yn ein CCB blynyddol
Codi arian
- Cymerwch ran mewn heriau neu ddigwyddiadau codi arian hwyliog a gwerth chweil – eleni cymerodd ein cefnogwyr ran mewn hanner marathon, nenblymio, heriau cerdded, a mwy
RhCM Busnes
- Dewch yn bartner corfforaethol gyda RhCM Busnes
Ymuno â RhCM Cymru
Aelodau Sefydliadol
Pan fyddwch yn cyflwyno cais aelodaeth sefydliadol i ymuno â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru, caiff hwn ei adolygu gan RhCM ac efallai y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth os oes angen. Yna byddwn yn gofyn i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr asesu eich cais. Etholir y Bwrdd gan aelodau RhCM.
Os bydd y Bwrdd yn cymeradwyo eich cais, byddwch wedyn yn aelod ffurfiol o RhCM Cymru a bydd enw a logo eich sefydliad yn cael eu huwchlwytho i wefan RhCM Cymru.
Aelodau Unigol
Unwaith y byddwch wedi llenwi eich ffurflen aelodaeth unigol, cadwch olwg am e-bost i gadarnhau tanysgrifiad a chliciwch ar y ddolen sy’n dweud ‘Ie, tanysgrifiwch fi i’r rhestr hon’ i gadarnhau eich aelodaeth. Os na fyddwch yn derbyn yr e-bost, gwiriwch eich ffolder sbam/sbwriel. Bydd y cam hwn yn cwblhau’r broses gofrestru.
Newid Manylion
Os bydd eich manylion yn newid , rhowch wybod i RhCM Cymru drwy anfon e-bost at admin@wenwales.org.uk.