Datganiad Preifatrwydd
Pan fyddwch yn gofyn am wybodaeth gan RhCM Cymru, yn cofrestru i dderbyn unrhyw un o’n gwasanaethau neu’n prynu pethau gennym, gall RhCM Cymru ofyn i chi ddarparu gwybodaeth amdanoch chi’ch hun. Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut rydym yn gofalu am yr wybodaeth honno a’r hyn rydym yn ei wneud â hi.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol i atal eich gwybodaeth rhag mynd i’r dwylo anghywir. Mae’n rhaid i ni hefyd wneud popeth y gallwn i sicrhau bod y data sydd gennym amdanoch yn gywir, yn ddigonol, yn berthnasol ac nid yn eithafol.
Fel arfer, bydd yr unig wybodaeth sydd gennym yn dod yn uniongyrchol gennych chi. Pryd bynnag y byddwn yn casglu gwybodaeth gennych chi, byddwn yn ei wneud yn glir pa wybodaeth mae ei hangen er mwyn rhoi’r wybodaeth, y gwasanaeth neu’r nwyddau y mae eu hangen arnoch. Ni does rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth ychwanegol i ni oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny. Rydym yn storio’ch gwybodaeth yn ddiogel ar ein system gyfrifiadur ac rydym yn sicrhau mai’r bobl mae ei hangen yn unig sy’n gallu cael mynediad i’ch gwybodaeth. Rydym hefyd yn hyfforddi’n staff i drin yr wybodaeth yn ddiogel.
Pan fyddwch yn cofrestru i aelodaeth RhCM Cymru neu’n gwneud cais am gynllun RhCM Cymru, byddwn yn casglu’r data angenrheidiol yn unig i gwblhau’r tasgau penodol hyn ac ni fydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill nail ai’n fewnol yn RhCM Cymru neu’n allanol. Byddwn yn defnyddio’ch data at ddibenion gweinyddol ac i gyfathrebu â chi. Mae gennych yr hawl unrhyw adeg i dynnu’ch caniatâd yn ô li RhCM Cymru ddal yr wybodaeth hon a dylech gysylltu â’r Cyfarwyddwr yn RhCM Cymru, Tŷ Rhyngwladol, 10 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2DX i’n hysbysu yr hoffech i’ch data personol gael ei ddileu.
Fel rhan o’r broses gofrestru ar gyfer ein haelodaeth a’n e-gylchlythyr, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth honno am ychydig o resymau: i roi’r diweddaraf i chi am y pethau cyffrous rydym yn eu gwneud yn RhCM Cymru; i gysylltu â chi os oes angen i ni gael neu ddarparu gwybodaeth ychwanegol; i wirio bod eich cofnodion yn gywir a gwirio bob hyn a hyn eich bod yn hapus ac yn fodlon. Nid ydym yn rhentu nac yn masnachu rhestrau e-bost gyda sefydliadau a busnesau eraill.
Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, MailChimp, i gyflwyno’n cylchlythyr. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch agor e-byst a chliciau gan ddefnyddio technoleg safonol y diwylliant i’n helpu i fonitro a gwella’n e-gylchlythyr. I gael mwy o wybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd MailChimp. Gallwch dad-danysgrifio i bost cyffredinol ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod ein e-byst neu drwy e-bostio admin@wenwales.org.uk.
Pan fydd RhCM Cymru’n cynnal digwyddiadau, rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, Eventbrite, i greu e-docynnau. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad e-bost yn cael eu hychwanegu at y rhestr bresenoldeb. Cliciwch yma i weld Hysbysiad Preifatrwydd Eventbrite. Os hoffech ddileu eich gwybodaeth o’r system hon, gwnewch hynny drwy wefan Eventbrite neu drwy e-bostio admin@wenwales.org.uk.
Pan fyddwch yn rhoi data i ni, gallwn hefyd ofyn i chi os hoffech i RhCM Cymru gysylltu â chi yn y dyfodol fel y gallwn ddweud wrthych am y gwasanaethau eraill rydym y neu ddarparu, a ffyrdd efallai yr hoffech gefnogi RhCM Cymru. Mae gennych yr hawl i ofyn i beidio â chysylltu â chi yn y ffordd hon a byddwn bob tro’n darparu dull clir i chi ddewis gadael. Gallwch hefyd gysylltu â ni’n uniongyrchol unrhyw bryd i ddweud wrthym am beidio ag anfon unrhyw ddeunyddiau marchnata yn y dyfodol.
Mae gennych yr hawl i gael copi o’r holl wybodaeth sydd gennym amdanoch. I gael copi, dylech naill ai ofyn i’r ffurflen gais gael ei hanfon atoch, neu ysgrifennu at y Cyfarwyddwr yn RhCM Cymru, Tŷ Rhyngwladol, 10 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2DX.
Mae unrhyw ddata at ddibenion monitro ac adrodd i’n harianwyr yn ddienw.