Ymgyrchu
Rydyn ni’n gweithio gyda’n clymblaid o aelodau i Ymgyrchu dros weddnewid i sicrhau bod Cymru’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhyw. Rydym yn uno lleisiau ein haelodau i gael effaith fwy – er enghraifft gyda’n partneriaid fe wnaethom lunio Maniffesto Hawliau Menywod arloesol sy’n dangos yr hyn mae angen i Lywodraeth Cymru a gweithredwyr eraill ei wneud mewn chwe maes allweddol i sicrhau cydraddoldeb yn ein hoes.