Rhwydweithiau Rhyngwladol

Mae RhCM Cymru yn cynrychioli menywod a sefydliadau Cymru ar lefel ledled y DU a rhyngwladol. Rydyn ni’n rhan o Gyd-bwyllgor Merched y Deyrnas Unedig (UKJCW) gyda’n tair chwaer sefydliad yng Ngogledd Iwerddon – NIWEP, yr Alban – Engender, a Lloegr – NAWO.

Ffurfiwyd UKJCW fel ‘cydgysylltiad cenedlaethol’ fel y gallai menywod ledled y DU ymgysylltu â Lobi Merched Ewrop (EWL), y rhwydwaith Ewropeaidd fwyaf o gymdeithasau menywod.

Newidiodd EWL eu cyfansoddiad yn 2019 i sicrhau bod UKJCW yn parhau i fod yn aelod o’r lobi, waeth beth fo statws aelodaeth y DU yn yr Undeb Ewropeaidd.

Nod UKJCW yw cefnogi sefydliadau menywod a merched i fanteisio ar wybodaeth am hawliau menywod a sicrhau ein bod yn cael ein hysbysu am y camau y mae gwledydd Ewropeaidd eraill yn eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.

Mae gan UKJCW nifer o gyfrifoldebau gan gynnwys cyflwyno cynigion i Gynulliad Cyffredinol Lobi Merched Ewrop. Yn y gorffennol mae’r rhain wedi cynnwys galw ar y DU i weithredu dros hawliau erthyliad yng Ngogledd Iwerddon a chefnogi ymgyrchoedd gwledydd eraill i gadarnhau Confensiwn Istanbwl.

I gael y newyddion diweddaraf o bob rhan o’r DU ac ar waith UKJCW, cofrestrwch i gylchlythyr dwywaith y flwyddyn UKJCW yma