Aelodaeth

Mae gan clymblaid RhCM Cymru dros 36,000 o gefnogwyr sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r frwydr dros Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd – gallech chithau hefyd fod yn rhan o’n rhwydwaith bywiog ac amrywiol. Mae’n rhad ac am ddim! Cliciwch ar y botwm gwyrdd Ymunwch â Ni a chwblhewch y ffurflen fer. Gallwch ymuno â RhCM Cymru fel unigolyn neu fel sefydliad. Mae ein cefnogwyr yn cynnwys elusennau, busnesau, awdurdodau lleol, prifysgolion, unigolion angerddol, a mwy pob un ohonynt am weithio mewn clymblaid gyda ni i sicrhau cydraddoldeb rhywedd.
Pam ymuno â RhCM Cymru?
Ydych chi’n credu mewn:
- atal trais yn erbyn menywod?
- sicrhau cynrychiolaeth gyfartal ac amrywiol ym mhob agwedd ar fywyd?
- dileu anghydraddoldebau iechyd rhywedd?
- cyllid teg i bawb?
- gwaith gofal a cyfrifoldebau sy’n cael ei werthfawrogi a’i rannu?
- Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang?
Yna ymunwch â ni, oherwydd gyda’n gilydd mewn clymblaid, gallwn wneud iddo ddigwydd.
Pan fyddwch yn ymuno, byddwch yn ennill amrywiaeth eang o fuddiannau gwych sy’n eich cefnogi chi a’ch sefydliad.
Mae buddiannau aelodaeth yn cynnwys:
Cysylltu
- Dod yn rhan o rwydwaith aelodaeth mawr, bywiog ac amrywiol lle gallwn eich cysylltu ag eraill
- Hybu eich gwaith a cynnwys eich swyddi gwag, digwyddiadau a newyddion yn ein cylchlythyr misol
- Cael eich arddangos fel aelod sefydliadol ar ein gwefan
- Cyfle i bartneru gyda ni ar ein hymgyrchoedd a gwaith polisi
Dylanwadu
- Cyfrannu’n uniongyrchol at ddylanwadu ar drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, llunio polisïau a’u rhoi ar waith
- Bwydo i mewn i’n hymatebion i ymgynghoriadau, briffiau ac adroddiadau
- Dweud eich dweud ar y materion sydd bwysicaf i chi, yn ein harolwg blynyddol o aelodau
Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth
- Derbyn ein fflachiau newyddion a’n cylchlythyr misol sy’n llawn o newyddion a digwyddiadau ar gydraddoldeb rhywedd a hawliau menywod yng Nghymru
- Mynediad cyntaf at ein hadroddiadau a’n hymchwil
- Cysylltu gyda’n tîm arbenigol
- Cyfle i ymuno ymuno â’n Rhwydwaith Rhywedd
Digwyddiadau
- Archebu blaenoriaethol ar gyfer digwyddiadau a lansiadau, gan gynnwys Caffi RhCM
- Gweithdai ar gyfer aelodau yn unig
- Gwahoddiad a phleidlais yn ein CCB blynyddol
Codi arian
- Cymerwch ran mewn heriau neu ddigwyddiadau codi arian hwyliog a gwerth chweil – eleni cymerodd ein cefnogwyr ran mewn hanner marathon, nenblymio, heriau cerdded, a mwy
RhCM Busnes
- Dewch yn bartner corfforaethol gyda RhCM Busnes