Connect
Rydyn ni’n dwyn lleisiau merched ynghyd

Cysylltu

Rydym yn cysylltu ein rhwydwaith o aelodau sefydliadol ac unigol ac yn sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn clywed eich lleisiau a’r materion sydd o bwys i chi. Drwy ein cynllun mentora, rydym yn creu llif o arweinwyr y dyfodol ac yn sicrhau bod menywod mwy amrywiol yn cymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus. Mae ein digwyddiadau Caffi RhCM yn cysylltu menywod o bob rhan o Gymru, gan ymhelaethu ar eu lleisiau a dylanwadu ar bolisi’r llywodraeth. Mae’r Rhwydwaith Rhywedd, ein fforwm polisi croestoriadol, yn sicrhau bod ein gwaith ymgyrchu wedi’i wreiddio’n uniongyrchol ym mhrofiadau menywod ledled Cymru.