Rhwydwaith Rhywedd
Mae’r Rhwydwaith Rhywedd yn fforwm polisi croestoriadol sy’n dod ynghyd dros 80 o sefydliadau gwirfoddol, academyddion ac actifyddion sy’n gweithio ar gydraddoldeb rhywedd ochr yn ochr â ffrydiau cydraddoldeb eraill.
Ariennir RhCM Cymru gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i redeg y Rhwydwaith Rhywedd hwn, fel rhan o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC). Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwarter, a dosberthir gwybodaeth i’r rhwydwaith yn wythnosol.
Rydym yn rhannu gwybodaeth, yn diweddaru ein gilydd ar ein gwaith ac yn llunio polisïau ar y cyd oherwydd gyda’n gilydd rydym yn gryfach.
Er enghraifft, fe wnaethom dynnu sylw Gweinidog a Phwyllgorau perthnasol at effaith costau byw cynyddol ar fenywod sy’n profi gwahaniaethu croestoriadol. Fe wnaethom ddarparu cyfleoedd hyfforddi ar ddeddfwriaeth hawliau dynol ac ymgysylltu â phwyllgorau. Fe wnaethom alw’n llwyddiannus am Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol penodedig yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2021, a chyhoeddwyd maniffesto ar y cyd cyn etholiadau’r Senedd yn 2021.
I ddod yn aelod o’r Rhwydwaith Rhywedd, mae angen i chi fod yn aelod o RhCM Cymru – ymunwch â ni fan hyn. Unwaith y byddwch yn aelod o RhCM Cymru, e-bostiwch admin@wenwales.org.uk i ymuno â’r Rhwydwaith Rhywedd.