Cefnogwch Ni
Mae RhCM yn falch o fod yn cymryd camau cadarnhaol a phendant i roi llais cryfach i fenywod ac i ddylanwadu ar y pethau sy’n bwysig iddynt. Byddwn yn parhau i gysylltu, ymgyrchu a dathlu ar ran pob menyw, a gyda’ch cymorth chi byddwn yn sicrhau newid trawsnewidiol yng Nghymru.
Cyfrannu
Cyfrannwch trwy DonorBox isod, lle gallwch roi rhodd untro neu sefydlu rhodd fisol i gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd.
RhCM Busnes
Dewch yn bartner corfforaethol trwy gefnogi RhCM am lai na £1 y dydd yn eich gweithle. Ymunwch ag aelodau megis Eversheds Sutherland i ddathlu cydraddoldeb rhwng y rhywiau â balchder.
Work For Good
A ydych yn fusnes bach neu ganolig sy’n chwilio am ffyrdd o gefnogi achos sy’n agos at eich calon? Beth am geisio rhoi % fach neu ychydig o £ o’ch elw i RhCM trwy Work for Good – chi sy’n penderfynu faint i’w roi a bydd eich cleientiaid, eich cwsmeriaid a’ch defnyddwyr gwasanaethau yn gwybod bod rhywfaint o’u taliad yn mynd i elusen.
EasyFundraising
Rydym bellach wedi ein cofrestru gydag easyfundraising, sy’n golygu y gallwch ein helpu yn RHAD AC AM DDIM. Bydd dros 7,000 o frandiau yn rhoi i ni pan fyddwch yn defnyddio easyfundraising i siopa gyda nhw – heb unrhyw gost ychwanegol i chi eich hun! Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cofrestru a chofio defnyddio easyfundraising pryd bynnag y byddwch yn siopa ar-lein. Mae’n hawdd ac yn RHAD AC AM DDIM! Mae’r rhoddion hyn wir yn gwneud gwahaniaeth, felly cofrestrwch i’n cefnogi trwy gofrestru yma.
Rhodd mewn Ewyllys
Mae rhodd mewn ewyllys, a elwir hefyd yn gymynrodd, yn swm o arian, yn ganran o ystad, neu’n eitem benodol a adawir yn ewyllys rhywun. Mae rhodd mewn ewyllys yn ffordd arbennig i bobl sicrhau bod y pethau sydd o bwys iddynt yma i genedlaethau’r dyfodol eu profi a’u mwynhau.