Caffi RhCM
Mae RhCM Cymru yn cynnal ac yn cadeirio digwyddiadau ar-lein rheolaidd o’r enw Caffi RhCM, sy’n cynnig y cyfle i siaradwyr a’r rheiny sy’n bresennol i drafod thema mewn manylder, o bolisi i brofiad byw menywod. Mae’r trafodaethau hyn yn helpu i ddylanwadu a llywio ein sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru a gwneuthurwyr polisi eraill ynghylch anghydraddoldebau y mae menywod yng Nghymru yn eu profi. Mae pob Caffi RhCM #WENCafe yn cael ei hysbysebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ein cylchlythyr ar gyfer aelodau – gallwch gofrestru yma i dderbyn hon. Mae tocynnau ar gael drwy dudalen Eventbrite RhCM Cymru.
Cofrestrwch fel aelod am ddim a byddwch hefyd yn cael mynediad i weithdai Caffi RhCM i aelodau yn unig, megis ein gweithdy gyda Rhwydwaith Amgylcheddol Merched ar y Fargen Newydd Werdd Ffeministaidd. Cliciwch y botwm gwyrdd Ymuno â Ni ar frig y dudalen.
Podlediad Caffi RhCM
Tanysgrifiwch i’r podlediad Caffi RhCM ar Spotify, Apple Podcasts, Podbean, Google Podcasts, neu Amazon Music. Gallwch hefyd wylio detholiad o ddigwyddiadau blaenorol Caffi RhCM ar ein sianel YouTube.
Digwyddiadau i ddod
Ymunwch â RhCM Cymru yn y Deml Heddwch, Caerdydd ar ddydd Gwener 8fed Mawrth ar gyfer digwyddiad Caffi RhCM Diwrnod Rhyngwladol y Menywod! Clywch straeon personol am effaith buddsoddi mewn menywod gan siaradwyr gwych sy’n cynrychioli amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys STEM, busnes, a’r celfyddydau. Arbedwch eich lle yn rhad ac am ddim fan hyn.
Galwad y Cenhedloedd Unedig am IWD eleni yw ‘buddsoddi mewn menywod: cyflymu cynnydd’ a’n nod fydd dangos, trwy lens groestoriadol, yr hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn buddsoddi mewn menywod a’r rhwystrau y mae’n rhaid inni eu chwalu.
Mae’n bleser gennym groesawu Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru i Gaffi RhCM, gyda siaradwyr pellach i’w cyhoeddi’n fuan iawn!
Cofrestru a te/coffi o 1yp
Siaradwyr a panel: 1:30yp – 2:30yp
Darganfyddwch pob digwyddiad sydd i ddod ar ein dudalen Eventbrite.
Digwyddiadau blaenorol
Mae Caffis blaenorol wedi cynnwys themâu yn ymwneud ag effaith Covid-19 ar fenywod anabl, menywod BAME, a menywod LGBT, cyfrifoldebau gofalu menywod, hawliau menywod byd-eang, Incwm Sylfaenol Cyffredinol, a mwy. Gwyliwch recordiadau o’r digwyddiadau ar ein sianel YouTube.
-
August 2021
Caffi RhCM: Hawliau menywod hŷn
Download PDF [71KB] -
June 2021
Caffi RhCM: effaith Covid-19 ar menywod niwroamrywiol
Download VND.OPENXMLFORMATS-OFFICEDOCUMENT.WORDPROCESSINGML.DOCUMENT [186KB] -
May 2021
Caffi RhCM: Menywod a'r hawl i dai digonol
Download PDF [63KB] -
April 2021
Caffi RhCM: Hystings Cydraddoldeb
Download PDF [93KB] -
March 2021
Caffi RhCM: Beth mae menywod ifanc yn edrych amdano o'r etholiadau Seneddol?
Download PDF [77KB] -
February 2021
Caffi RhCM: Cydbwyso Rhianta yn ystod Covid-19
Download PDF [66KB] -
December 2020
Caffi RhCM: Hawliau menywod byd-eang
Download PDF [62KB] -
October 2020
Caffi RhCM: Cyfraniad menywod Du i addysg yng Nghymru
Download PDF [59KB] -
September 2020
Caffi RhCM: Incwm Sylfaenol Cyffredinol
Download PDF [78KB] -
July 2020
Caffi RhCM: Cyfrifoldebau gofalu menywod
Download PDF [59KB] -
May 2020
Caffi RhCM: Effaith Covid-19 ar Hawliau LGBT +
Download PDF [64KB] -
May 2020
Caffi RhCM: Effaith Covid 19 ar Fenywod Anabl
Download PDF [67KB] -
May 2020
Caffi RhCM: Effaith Covid-19 ar fenywod Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig
Download PDF [59KB] -
May 2020
Caffi RhCM: Effaith Covid-19 ar Drais yn erbyn Menywod
Download PDF [59KB] -
April 2020
Caffi RhCM: Iechyd Atgenhedlol a Rhywiol Menywod yn yr Argyfwng Covid-19
Download PDF [56KB]