Amdanom RhCM
Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd lle mae gan fenywod, dynion, a phobl anneuaidd awdurdod a chyfle cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.
Rydym yn gweithio gyda’n clymblaid fywiog o aelodau sefydliadol ac aelodau unigol i drawsnewid cymdeithas – ni all unrhyw un sefydliad sicrhau cydraddoldeb ar eu pen eu hunain. Mae ein gwaith yn eistedd o dan dair colofn.
Byddwn yn Cysylltu, Ymgyrchu a Dathlu menywod fel bod ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu.
Ein blaenoriaethau strategol yw:
- I dyfu ac ysgogi ein clymblaid i ymgyrchu gyda ni
- Sicrhau arweinyddiaeth amrywiol a chyfartal ledled Cymru, yn y Senedd ac mewn Llywodraeth Leol
- Cryfhau hawliau menywod drwy ymgorffori hawliau CEDAW yng nghyfraith Cymru
Ein Cyllid
Rydym yn derbyn cyllid gan Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru ac ystod o arianwyr eraill, gan gynnwys y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Rosa UK a Ymddiriedolaeth Diwygio Joseph Rowntree.
Gallwch chithau hefyd gefnogi ein gwaith – un ffordd yw cyfrannu drwy DonorBox, lle gallwch chi roi rhodd untro neu sefydlu rhodd fisol i gefnogi ein gweledigaeth o Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd. Cliciwch ar y botwm gwyrdd ‘Rhowch arian’ ar frig ein gwefan.
Ymunwch â ni fel aelod am ddim a dewch yn rhan o’n mudiad dros Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd.
Mae llawer o ffyrdd eraill y gallwch chi gefnogi ein gwaith – darganfyddwch fwy ar ein tudalen Cefnogwch Ni.