Mentora

Rydym am gael rhagor o bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl LHDT+ a phobl mewn swyddi gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Partneriaeth yw’r rhaglen mentora arobryn Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (PCLlC) rhwng Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru, a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru. Rhaglen fentora ydyw sy’n ceisio cynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru, wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol Genedlaethol y Loteri a Llywodraeth Cymru. Ewch i wefan y prosiect yma i ddarganfod mwy.

Mae’r rhaglen traws-gydraddoldeb PCLlC yn adeiladu ar gynllun mentora blaenorol RhCM, a oedd yn rhedeg o 2018 – 2020. Yn dilyn cymryd rhan yn y cynllun, mae mentoreion wedi dod yn gynghorwyr ac ASau, wedi’u penodi i fyrddau cyhoeddus, ac wedi dod yn llywodraethwyr ysgol ac yn ymddiriedolwyr elusen. Mae PCLlC bellach yn adeiladu ar y profiad a’r llwyddiant hwn, gan weithio ar y cyd â’n cyd-sefydliadau cydraddoldeb i arallgyfeirio bywyd cyhoeddus a gwleidyddol.

Mae rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (PCLlC)  wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o fywyd cyhoeddus a gwleidyddol yn ogystal â fy nghefnogi ar fy nhaith tuag at redeg fel cynghorydd lleol. Mae’r prosiect yn fy ngrymuso i ddefnyddio fy llais a llwyfan i ymgyrchu dros newid yng Nghymru, yn benodol ar gyfer menywod.

Does dim byd yn ormod o ofyn i dîm RhCM Cymru ac maen nhw bob amser yn barod i fynd gam ymhellach i wneud yn siŵr bod menywod fel fi yn cael y siawns orau o lwyddo.

Am ragor o dystebau cliciwch yma , a gwyliwch y fideo isod i glywed mwy am brofiadau menywod ar gynllun mentora gwreiddiol RhCM.