Maniffesto ar gyfer Cau’r Bwlch ar Anghydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru

Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn galw ar yr holl bleidiau ac ymgeiswyr gwleidyddol i roi cydraddoldeb rhywedd a hawliau menywod wrth wraidd etholiad Senedd 2021 yn ein Maniffesto ar gyfer Cau’r Bwlch ar Anghydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru.

Yn y maniffesto hwn, byddwn yn galw am y canlynol:

  • i’r holl bleidiau ac ymgeiswyr gwleidyddol i ymrwymo i ddatblygu hawliau menywod a chyflawni cydraddoldeb rhywedd i’r holl fenywod yng Nghymru
  • am gamau gweithredu ym mhum prif faes, gan gynnwys cynrychiolaeth gyfartal, lliniaru effaith anghyfartal effaith y pandemig COVID-19 ar fywydau menywod a sicrhau bod hawliau menywod yn cael eu diogelu ar ol Brexit.

5 prif faes i weithredu arnynt:

  1. COVID-19 a hawliau menywod
  2. Darpariaeth gofal plant a gofalu o safon i bawb
  3. Cwotau rhyw sy’n ymrwymo’n gyfreithiol a chamau gweithredu cadarnhaol ar gyfer mwy o amrywiaeth
  4. Ymgorffori CEDAW yn neddfwriaeth a pholisi Cymru
  5. Diogelu hawliau menywod ar ol Brexit.

Darllenwch y maniffesto llawn yma.