Ymgyrch Gwneud Gofal yn Deg

Mae’r pandemig wedi dangos i ni mai gwaith gofal – am dâl ac yn ddi-dâl – yw asgwrn cefn ein heconomi. Mae pobl sy’n darparu gofal a chymorth i eraill, gan gynnwys rhieni, gofalwyr di-dâl a’r gweithlu gofal plant a gofal cymdeithasol, yn ffurfio rhwydwaith anweledig sy’n dal ein cymdeithas ynghyd.

 

Ond mae dri broblem fawr:

Diffyg gofal plant

Nid oes yna ddigon o ofal plant wedi’i ariannu. Dim ond i blant o dair oed y mae’r Cynnig Gofal Plant ar gael, ac mae rhywfaint o gymorth cyfyngedig iawn ar gael i blant dwy oed mewn ardaloedd Dechrau’n Deg. Mae hyn yn gadael llawer o rieni, yn enwedig mamau, yn methu dychwelyd i’r gwaith neu gynyddu eu horiau ac yn gyrru teuluoedd i dlodi. 

Heriau’r gweithlu

Mae’r sector gofal mewn argyfwng. Ar draws gofal plant a gofal cymdeithasol, mae cyflogau ac amodau yn wael ac nid ydynt yn adlewyrchu gwerth y rolau hyn. Mae staff medrus yn gadael am swyddi â chyflog gwell mewn mannau eraill, sy’n gadael anghenion gofal a chymorth llawer o bobl heb eu diwallu.

Gofalwyr di-dâl yn llenwi’r bylchau

Mae prinder staff yn cael effaith ddifrifol ar ofalwyr di-dâl yng Nghymru, y mae’n rhaid iddynt gamu i’r adwy yn aml heb gefnogaeth neu seibiannau digonol. Mae llawer yn ei chael hi’n anodd yn ariannol a gydag iechyd corfforol a meddyliol, sy’n effeithio ar eu gallu i ddarparu gofal a chymorth i’w hanwyliaid.

 

Mae’n rhaid i hyn newid! Rydym eisiauGwneud Gofal yn Degdrwy ymgyrchu am: 

  • Buddsoddi mewn gofal i leihau tlodi ac anghydraddoldeb a rhoi hwb i’r economi 
  • Ehangu’r Cynnig Gofal Plant i bob plentyn o 6 mis oed ymlaen, a ddarperir gan weithlu cynaliadwy ac amrywiol 
  • Cyflog byw gwirioneddol ar waith ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, ochr yn ochr â chyfleoedd gwell ar gyfer camu ymlaen yn eu gyrfaoedd 
  • Gwaith gofal di-dâl ar gyfer pob oedran yn cael ei gydnabod a’i gefnogi’n briodol. 

Helpwch ni i ymgyrchu dros newid:

Pan fydd gofalwyr cyflogedig a di-dâl yn cael eu trin yn deg, rydym i gyd yn elwa. Cymerwch ran yn ein hymgyrch a fydd yn dechrau yn 2023, a gyda’n gilydd gallwn newid bywydau gofalwyr cyflogedig a di-dâl yng Nghymru.

Cofrestrwch i gefnogi’r ymgyrch a rhannwch eich stori fan hyn.

Cyfrannwch i RhCM

Cofrestrwch ar gyfer ein hymgyrch fel sefydliad trwy anfon neges e-bost at jessica@wenwales.org.uk

Cyhoeddiadau

Papur briffio Gwneud Gofal yn Deg (RhCM Cymru)

Camau bach, brwydrau mawr (Oxfam Cymru)

Clymblaid ein hymgyrch

Mae clymblaid yr ymgyrch ofalu yn dod â sefydliadau sy’n ymwneud â gwaith gofal yng Nghymru ynghyd:

Grŵp Llywio:

 

Cefnogwyr:

 

Ymunwch â’n rhestr o gefnogwyr trwy anfon neges e-bost at jessica@wenwales.org.uk.