Cerdyn Sgorio Ffeministaidd

Mewn cydweithrediad ag Oxfam Cymru, rydym yn cyhoeddi Cerdyn Sgorio Ffeministaidd yn rheolaidd sy’n olrhain cynnydd Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb rhywedd ac yn eu dwyn i gyfrif.

Mae’r Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022 yn dangos cyfres o gipluniau o berfformiad Llywodraeth Cymru mewn chwe maes allweddol:

    • Cyllid Teg
    • Cyfrifoldebau Gofalu
    • Hawliau Menywod Byd-eang
    • Cynrychiolaeth Gyfartal ac Arweinyddiaeth
    • Mynd i’r afael ag Anghydraddoldebau Iechyd Rhywiol
    • Dod â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched i Ben

Er bod rhai camau cadarnhaol wedi’u cymryd, mae dau o’r chwe maes a ystyriwyd (Cyllid Teg a Chyfrifoldebau Gofalu) wedi mynd yn ôl o ambr i goch wrth i’r cynnydd gael ei ddadwneud gan y pandemig.

Dyna pam y bu i ni alw am Gomisiynydd Menywod, a fyddai’n hyrwyddo ac yn warcheidwad hawliau menywod yng Nghymru.

Darllenwch yr adroddiad Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022

Darllenwch adroddiadau Cerdyn Sgorio Ffeministaidd blaenorol o 2019 a  2020.