5050Amrywiol

Mae’r ymgyrch #5050Amrywiol yn ymgyrch glymbleidiol mewn partneriaeth rhwng RhCM Cymru, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Cyngor Hil Cymru, ac EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig) Cymru. Ei nod yw sicrhau bod Cymru’n ethol gwleidyddion ar lefel leol, San Steffan a’r Senedd sy’n gytbwys o ran y rhywiau, gyda chynrychiolaeth ystyrlon gan bobl o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl, pobl LGBT+, a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill.

Roedd yr ymgyrch 5050Amrywiol, a ddechreuwyd yn 2020, yn galw’n benodol am y canlynol:

  1. Diwygio etholiadol a fydd yn darparu Senedd ehangach;
  2. Cwotâu amrywiaeth a rhywedd integredig sy’n rhwymo mewn cyfraith;
  3. Senedd a etholir gan y system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

Wrth fynd ar drywydd y nodau hyn rhwng 2020 a 2022, bu Cam 1 yr ymgyrch yn llwyddiannus:

  1. Pleidleisiodd y Senedd dros ddiwygio etholiadol ar yr 8fed o Fehefin 2022, sy’n golygu y bydd nifer yr Aelodau Seneddol yn cynyddu o 60 i 96.
  2. Roedd Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wedi cynnig yn ffurfiol y dylid gweithredu cwotâu rhywedd deddfwriaethol ym mis Mehefin 2022 – prif nod ein hymgyrch. Mae hon yn foment hanesyddol – Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i ymuno â’r 100 o wledydd ledled y byd sydd wedi defnyddio cwotâu rhywedd i ymgorffori cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn eu seneddau.

 

Cam 2 o’r Ymgyrch 5050Amrywiol yw:

  1. Sicrhau bod y ddeddfwriaeth ddrafft yn adlewyrchu’r cytundeb ar gwotâu rhywedd sy’n rhwymo mewn cyfraith, a’i bod yn cyd-fynd â chymhwystra cyfreithiol;
  2. Cynnig mesurau ar amrywiaeth ymgeiswyr i bleidiau gwleidyddol a Llywodraeth Cymru;
  3. Meithrin cefnogaeth i’r ymgyrch ar lawr gwlad

 

Mae gan yr ymgyrch gefnogaeth sefydliadau gyda tua 20,000 o aelodau. I ychwanegu eich llais fel cefnogwr yr ymgyrch 5050Amrywiol / Diverse5050, cofrestrwch fan hyn.

 

Mwy o wybodaeth:

Gwnaeth RhCM Cymru gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor.

Sesiwn briffio RhCM Cymru ar effeithiolrwydd ac effaith ar gwotâu.