Trawsnewid Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru

Mae Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (AGPC) yng Nghymru wedi cyrraedd croesffordd. Ystyrir yn helaeth fod y system bresennol yn ddigysylltiad ac yn rhy gymhleth, gan ei gwneud hi’n anodd ei llywio i blant, rhieni a darparwyr. Mae ehangu gofal plant yn Lloegr yn ddiweddar wedi arwain at bwysau cynyddol gan y cyhoedd ar Gymru i ddilyn ei hesiampl. Ond yn hytrach na chopo’n ddall yr hyn sydd wedi’i wneud mewn mannau eraill – y gellid dadlau nad yw wedi’i wneud yn dda iawn – mae angen i lunwyr polisi yng Nghymru ystyried yn ofalus beth ddylai AGPC yng Nghymru ei gyflawni, pa elfennau o’n dull presennol sy’n ffafriol i hyn, a beth sydd angen ei newid ar gyfer system AGPC sy’n wir gyflawni i Gymru.

Er mwyn helpu i fwrw ymlaen ‘r drafodaeth hon, gwnaethom gynnal ymchwil meintiol ac ansoddol gyda dros 780 o rieni yng Nghymru, adolygiad llenyddiaeth cynhwysfawr o gynigion diweddar ar gyfer diwygio AGPC, cyfweliadau gyda rhanddeiliaid arbenigol sy’n gweithio ar ofal plant a’r blynyddoedd cynnar, tlodi a chymorth i deuluoedd o fewn awdurdodau lleol, y trydydd sector, sector y blynyddoedd cynnar ac adolygiad sylweddol o astudiaethau academaidd ac astudiaethau eraill.

Mae’r adroddiad newydd hon yn argymell y dylai Llywodraeth nesaf Cymru fuddsoddi mewn adeiladu system hyblyg, symlach a fyddai’n lleihau tlodi, yn hyrwyddo datblygiad plant, ac yn rhoi hwb i gyflogaeth. 

Costau gofal plant yng Nghymru bellach yw’r uchaf yn y DU, yn dilyn cyflwyno cynnig newydd yn Lloegr ar gyfer rhieni sy’n gweithio. Mae rhieni’n gweld y system bresennol fel un ddatgysylltiedig, gymhleth, ac anodd ei defnyddio, ac mae gofal plant wedi’i ariannu i blant dan dair oed ac i deuluoedd ar yr incwm isaf yn gyfyngedig iawn.  

Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir nad yr ateb yw i Gymru gopïo’r hyn sydd wedi’i wneud yn Lloegr – mae gan y ddwy system bresennol ddiffygion sylweddol.  Mae angen ateb unigryw Gymreig i deuluoedd a gweithlu’r blynyddoedd cynnar er mwyn iddynt gael yr hyn y maent yn ei haeddu – darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel, cynaliadwy a hyblyg, gyda chyflog ac amodau gwaith teg i staff.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ymchwil gyda thros 780 o rieni yng Nghymru a rhanddeiliaid arbenigol sy’n gweithio ar ofal plant, ac mae’n rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o sut beth fyddai system well yng Nghymru. Y cam cyntaf yw targedu buddsoddiad lle bydd yn cael yr effaith fwyaf. Mae ymchwil RhCM Cymru yn dangos mai’r rhai a fyddai’n elwa fwyaf o ddarpariaeth fforddiadwy o ansawdd uchel yw teuluoedd ar incwm isel. Gallai cyflwyno elfen gyffredinol o 15 awr yr wythnos o leiaf, gyda chymorth ychwanegol o hyd at 35 awr yr wythnos, yn ddibynnol ar brawf modd ac yn seiliedig ar incwm yr aelwyd, helpu i godi’r teuluoedd hyn allan o dlodi a rhoi dechrau gwell mewn bywyd i blant difreintiedig.

Un agwedd allweddol ar argymhelliad yr adroddiad yw y byddai’r elfen gyffredinol yn berthnasol i bob plentyn, p’un ai yw eu rhieni mewn gwaith ai peidio. Mae diffyg gofal plant fforddiadwy a hygyrch yn effeithio’n anghymesur ar fenywod, gan eu bod yn ysgwyddo cyfran anghyfartal o ofal plant. Ar gyfartaledd, mae menywod yn y DU yn treulio 45 awr yr wythnos yn gofalu am blentyn – dwywaith cymaint â dynion. Mynegodd llawer o rieni fod hyn yn cyfyngu ar eu cyfleoedd cyflogaeth. Disgrifiodd un rhiant fel roedd yn hepgor prydau bwyd yn rheolaidd oherwydd bod ganddyn nhw cyn lleied o incwm, ar ôl cael eu gorfodi i adael y gwaith i ofalu am eu plentyn. 

Mae diffyg hyblygrwydd yn y ddarpariaeth bresennol hefyd yn cyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth rhieni, ac yn ei gwneud hi’n anodd i rai teuluoedd gael mynediad at eu hawliau. Mae angen mwy o gefnogaeth i ddarparwyr allu cynnig gofal plant yn hyblyg, mewn ffordd sy’n galluogi rhieni i lwyddo yn eu bywydau gwaith a phlant i ffynnu. Mae adroddiad RhCM Cymru yn argymell darparu gwasanaethau integredig i gefnogi teuluoedd gyda phob agwedd – gydag un pwynt cyswllt, wedi’i gydleoli, ac o fewn cyrraedd cymunedau difreintiedig.  

Dylai darparwyr gael eu talu yn unol â chost gwirioneddol cyflenwi gwasanaeth, gyda chyllid addas ar gyfer darpariaeth mewn ardaloedd y gwelwyd eu bod yn cael eu tanwasanaethu – sy’n aml yn wledig neu’n ddifreintiedig – ac ar gyfer plant sy’n anabl neu sydd ag anghenion ychwanegol.

Darllenwch yr adroddiad llawn a’r crynodeb gweithredol isod.

Trawsnewid Addysg Gynnar a Gofal Plant yng Nghymru – Adroddiad Llawn

Crynodeb Gweithredol