Rhan Un: Diwylliant Plaid
Lawrlwythwch PDF digidol yma.
Mae diwylliant eich plaid yn fframwaith sy’n dylanwadu ar ymddygiadau, gweithredoedd ac iaith eich staff, aelodau, gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr etholedig. Gall diwylliant croesawgar a chynhwysol helpu eich plaid i ddenu aelodau o ystod amrywiol o gefndiroedd a hwyluso perthynas barchus a chydweithredol rhwng aelodau â gwahanol safbwyntiau a hunaniaethau. Bydd diwylliant lle mae ymddygiad sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl, neu’n eu heithrio, yn cael ei annog neu hyd yn oed ei oddef yn dieithrio rhannau o’ch aelodaeth bresennol a’ch darpar aelodau, yn mygu cyfraniadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac yn gallu niweidio delwedd gyhoeddus eich plaid.
Mae’r ddogfen hon yn ymdrin ag agweddau allweddol ar feithrin diwylliant plaid gynhwysol, gan gynnwys:
- Polisïau sydd eu hangen i gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
- Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith staff, aelodau a gwirfoddolwyr
- Trefnu digwyddiadau a gweithgareddau cynhwysol
- Negeseua a chyfathrebu sy’n hyrwyddo cynhwysiant
- Atal a mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a cham-drin
- Casglu a chyhoeddi data am amrywiaeth
Cliciwch ar y teitlau isod i ddatgelu’r testun
Polisïau
Y cyfansoddiad
Dylai cyfansoddiad eich plaid adlewyrchu ymrwymiad cryf i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant. Yn y cyflwyniad neu’r datganiad cenhadaeth, dylai nodi’n glir bod y blaid yn ymroddedig i feithrin cymdeithas gynhwysol, amrywiol a theg lle mae gan bob unigolyn, waeth beth yw eu nodweddion gwarchodedig neu gefndir economaidd-gymdeithasol, gyfleoedd cyfartal i gymryd rhan mewn prosesau gwleidyddol ac arweinyddiaeth. Dylai’r aelodaeth fod yn agored i bob unigolyn heb ragfarn na gwahaniaethu a dylai cyrff arweinyddiaeth a chyrff sy’n gwneud penderfyniadau ymdrechu am gydbwysedd rhywedd a chynrychiolaeth amrywiol, gan sicrhau bod gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol lais mewn prosesau llywodraethu pleidiau. Fel y ddogfen lywodraethu gyffredinol, dylai cyfansoddiad eich plaid hefyd gynnwys ymrwymiad i hyrwyddo polisïau sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau systemig ac yn cefnogi cymunedau ymylol.
Y cod ymddygiad
Mae cod ymddygiad yn nodi’n dryloyw y safonau a’r disgwyliadau ymddygiad ar gyfer aelodau, staff, gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr etholedig y blaid. Mae’n sicrhau bod pob unigolyn sy’n gysylltiedig â’r blaid yn cynnal safonau moesegol, yn trin eraill â pharch, ac yn cyfrannu at amgylchedd gwleidyddol cadarnhaol a chynhwysol. Mae cod ymddygiad cadarn sy’n cael ei gyfathrebu a’i orfodi’n effeithiol yn hyrwyddo atebolrwydd, tegwch ac uniondeb. Er y gall helpu i atal aflonyddu, rhagfarn a gwahaniaethu cyn iddynt ddigwydd, dylai hefyd ddarparu gweithdrefnau clir ar gyfer rhoi gwybod am achosion o dramgwyddo a mynd i’r afael â nhw.
Er mwyn meithrin amrywiaeth a chynhwysiant, dylai’r cod ymddygiad nodi bod rhaid i bob aelod a swyddog gadw at egwyddorion parch, tegwch a pheidio â gwahaniaethu, ac nad yw unrhyw fath o iaith casineb, aflonyddu, cam-drin neu wahaniaethu ar sail unrhyw nodwedd warchodedig neu statws economaidd-gymdeithasol yn cael ei oddef. Dylai gadarnhau ymrwymiad eich plaid i gyfle cyfartal a chyfranogiad teg, gan sicrhau bod grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi.
Polisïau mewnol
Er bod unigolion sy’n gysylltiedig â’r blaid yn aml yn chwarae rhan allweddol o ran hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, mae polisïau mewnol pwrpasol yn amhrisiadwy i sicrhau bod y gwaith hwn yn dryloyw, yn gynaliadwy ac yn gyson.
Isod mae rhestr o bolisïau mewnol allweddol y dylai pleidiau ystyried eu mabwysiadu i sicrhau eu bod yn gynhwysol o’r holl grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Dylai pob polisi nodi disgwyliadau a phrosesau clir a darparu ffordd strwythuredig o fynd i’r afael â gwneud penderfyniadau ac anghydfodau.
- Polisi Hygyrchedd – Yn cynnwys hygyrchedd mewn digwyddiadau, etholiadau, ymgyrchu, a chyfathrebu i sicrhau bod yr holl aelodau yn cymryd rhan.
- Polisi Asesu Ymgeiswyr – Yn amlinellu sut mae prosesau fetio, cyfweld ac asesu’r blaid yn sicrhau dull teg a chynhwysol, gan gynnwys defnyddio paneli amrywiol a hyfforddi aelodau’r panel.
- Polisi Cyfathrebu a’r Cyfryngau – Yn sefydlu canllawiau ar gyfer sut mae’r blaid yn cyfathrebu â’r cyhoedd a’r cyfryngau, gan sicrhau cynhwysiant a pharch.
- Polisi Diogelu Cwynion a Chwythwyr Chwiban – Yn nodi proses ddiogel a chyfrinachol ar gyfer rhoi gwybod am wahaniaethu, aflonyddu, neu bryderon sy’n gysylltiedig â rhagfarn ac yn sicrhau bod unigolion yn cael eu diogelu rhag dial ar ôl codi problemau gydag amrywiaeth a chynhwysiant.
- Polisi Gwahaniaethu ac Aflonyddu – Yn mynegi bod safbwynt dim goddefgarwch tuag at wahaniaethu ac aflonyddu yn hanfodol ar gyfer sefydliad amrywiol a chynhwysol. Mae’n diffinio ymddygiadau annerbyniol yn glir, yn darparu mecanweithiau adrodd, yn amlinellu camau disgyblu ar gyfer troseddau, ac yn nodi dull gweithredu ar gyfer atal gwahaniaethu ac aflonyddu cyn iddo ddigwydd.
- Polisi Monitro Amrywiaeth – Yn nodi prosesau’r blaid ar gyfer mesur ac olrhain eu cynnydd o ran amrywiaeth a chynhwysiant trwy asesiadau rheolaidd, cynnal arolygon ymhlith aelodau, ac adroddiadau am amrywiaeth.
- Polisi Cyfle Cyflogaeth Cyfartal – Yn amlinellu gweithdrefnau ar gyfer atal rhagfarn wrth recriwtio, gwneud gwerthusiadau perfformiad, a datblygiad gyrfa, gan gynnwys arferion cyflogi amrywiol fel cyfweliadau strwythuredig, sgrinio CVs heb fanylion personol, a phartneriaethau gyda chronfeydd talent amrywiol.
- Polisi Cyflog Cyfartal – Yn nodi polisïau ynghylch nodi bylchau cyflog, mynd i’r afael â nhw a’u hatal, gan gynnwys archwiliadau cyflog a strwythurau cyflog tryloyw.
- Polisi Gweithio Hyblyg ac Addasiadau – Mae hyblygrwydd yn y gweithle yn cefnogi gweithwyr ag anghenion gwahanol, gan gynnwys rhieni a gofalwyr di-dâl, unigolion anabl, neu’r rhai sy’n cadw at arferion crefyddol. Dylai’r polisi hwn cynnwys gweithio o bell, oriau hyblyg, ac addasiadau rhesymol.
- Polisi Absenoldeb Rhiant – Yn sefydlu darpariaethau clir ar gyfer absenoldeb rhiant, gan gynnwys mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, ac absenoldeb rhiant a rennir. Dylai’r polisi hwn amlinellu hawliau gwyliau, opsiynau hyblyg ar gyfer dychwelyd i’r gwaith, a diogelu rhag gwahaniaethu er mwyn meithrin amgylchedd sy’n gyfeillgar i deuluoedd ac sy’n gynhwysol.
- Polisi Cefnogaeth gan Gymheiriaid – Yn nodi sut mae’r blaid yn annog, cefnogi ac yn darparu adnoddau ar gyfer rhwydweithiau cefnogaeth gan gymheiriaid, sy’n darparu systemau cymorth hanfodol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn helpu i gynyddu eu lleisiau o fewn y blaid.
- Polisi Gweithredu Cadarnhaol – Yn nodi camau y mae’r blaid yn eu cymryd i sicrhau bod grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hystyried yn weithredol wrth fetio ymgeiswyr, creu rhestr hir, creu rhestr fer, a dethol.
- Polisi Ymddygiad ar y Cyfryngau Cymdeithasol ac Ar-lein – Yn nodi disgwyliadau ar gyfer ymddygiad ar-lein, gan gynnwys ymgysylltu parchus a chyfrifol ar lwyfannau digidol. Mae’n cynnwys enghreifftiau o ymddygiad na fydd yn cael ei oddef, sut y gall pobl adrodd digwyddiadau, a chwynion a gweithdrefnau disgyblu’r blaid.
- Polisi Lles a Chynhwysiant – Yn amlinellu sut mae’r blaid yn sicrhau lles, diogelwch a thriniaeth deg ar gyfer pob unigolyn, gan hyrwyddo amgylchedd cynhwysol lle nad oes gwahaniaethu. Dylai gynnwys darpariaethau ar gyfer gwasanaethau cymorth, hygyrchedd, cyfle cyfartal, a mesurau i fynd i’r afael â phryderon lles yn effeithiol.
Dylai pob polisi nodi disgwyliadau a phrosesau clir a darparu ffordd strwythuredig o fynd i’r afael â gwneud penderfyniadau ac anghydfodau.
Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
Mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn hanfodol ar gyfer meithrin diwylliant cadarnhaol, cefnogol a pharchus yn y blaid. Mae hyfforddiant yn allweddol i sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â’r blaid yn rhannu dealltwriaeth sylfaenol o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant a sut y gall eu gweithredoedd gyfrannu at amgylchedd mwy cynhwysol.
Dylai eich plaid ystyried darparu hyfforddiant yn y meysydd canlynol:
Cydraddoldeb Rhywedd: Yn ymdrin â rhwystrau strwythurol i gydraddoldeb rhywedd, gan fynd i’r afael ag anfantais ar sail rhywedd a strategaethau ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd ymhlith arweinwyr a rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y blaid.
Cydraddoldeb Hil: Yn ymdrin â’r heriau sy’n wynebu pobl o hiliau lleiafrifol ac effaith hiliaeth systemig. Mae’n addysgu aelodau’r blaid ar sut i greu amgylchedd mwy cynhwysol, cydnabod anghydraddoldeb hiliol a meithrin tegwch hiliol mewn arweinyddiaeth, polisïau a rhyngweithio beunyddiol.
Cydraddoldeb LHDTC+: Yn cynnwys heriau sy’n wynebu unigolion o’r gymuned LHDTC+, gan gynnwys gwahaniaethu LHDTC+, heteronormadedd a thrawsffobia a sut i fynd i’r afael â’r rhain o fewn y blaid.
Cydraddoldeb Anabledd: Yn cynnwys gwahaniaethu ar sail anabledd a’r model cymdeithasol o anabledd, gan gynnwys hygyrchedd corfforol ac ar-lein a sut i fynd i’r afael â’r pethau mewn cymdeithas sy’n rhwystro cydraddoldeb.
Cydraddoldeb Economaidd-Gymdeithasol: Yn cynnwys rhwystrau sy’n wynebu unigolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, gan ganolbwyntio ar effaith statws economaidd-gymdeithasol ar gyfleoedd a mynediad at adnoddau a sicrhau cyfranogiad cyfartal waeth beth yw’r cefndir economaidd-gymdeithasol.
Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol: Gan ganolbwyntio ar ddeall a pharchu cefndiroedd diwylliannol amrywiol, mae’r modiwl hwn yn ymdrin â phwysigrwydd dealltwriaeth a gallu diwylliannol, gan helpu aelodau i ryngweithio’n barchus a deall safbwyntiau diwylliannol er mwyn cefnogi amrywiaeth yn y blaid.
Cyfrifoldebau Gofalu: Yn ymdrin â’r heriau sy’n wynebu rhieni a gofalwyr di-dâl, gan gynnwys cydbwyso ymgysylltiad gwleidyddol â chyfrifoldebau gofal. Mae’r modiwl hwn yn archwilio polisïau ac arferion sy’n cefnogi gofalwyr, megis cyfranogiad hyblyg, addasiadau, a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau.
Cynhwysiant Oedran a Chydweithio rhwng Cenedlaethau: Yn mynd i’r afael â rhagfarn ac ystrydebau sy’n gysylltiedig ag oedran, gan sicrhau cyfleoedd cyfartal i unigolion o bob grŵp oedran. Mae’r modiwl hwn yn hyrwyddo cydweithredu rhwng cenedlaethau, gan gydnabod cyfraniadau aelodau iau a hŷn, a meithrin amgylchedd cynhwysol sy’n gwerthfawrogi profiad a safbwyntiau newydd fel ei gilydd.
Modiwlau trawsbynciol
Rhyngblethedd: Yn canolbwyntio ar orgyffyrddiad gwahanol fathau o wahaniaethu, mae’r modiwl hwn yn helpu aelodau i ddeall sut mae ffactorau fel hil, rhywedd, dosbarth a chyfeiriadedd rhywiol yn croestorri ac yn creu heriau unigryw i grwpiau ymylol.
Gwrth-wahaniaethu a gwrth-aflonyddu: Yn ymdrin â sut i gydnabod, atal a mynd i’r afael â gwahaniaethu ac aflonyddu. Mae’n cynnwys canllawiau ar ymdrin â chwynion yn effeithiol a meithrin gweithle diogel, cynhwysol i bawb, waeth beth yw eu cefndir neu hunaniaeth.
Gwyliwr Gweithredol: Yn grymuso aelodau i ymyrryd wrth fod yn dyst i ymddygiad gwahaniaethol neu niweidiol. Mae’n darparu strategaethau ar gyfer codi llais yn ddiogel neu gymryd camau i herio aflonyddu, rhagfarn neu eithrio pobl, gan hyrwyddo diwylliant o atebolrwydd a chefnogaeth o fewn y sefydliad.
Iaith Gynhwysol: Yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio iaith barchus a chynhwysol i herio stigma a lleihau gwahaniaethu. Yn addysgu aelodau ar effaith eu geiriau ac yn ymdrin â sut i herio iaith niweidiol wrth ddod ar eu traws.
Ymwybyddiaeth o Ragfarn Ymhlyg: Yn mynd i’r afael ag agweddau anymwybodol neu ystrydebau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau a gweithredoedd, yn aml heb i bobl fod yn ymwybodol o hynny. Mae’n annog aelodau i gydnabod eu rhagfarnau eu hunain ac yn darparu strategaethau ar gyfer lliniaru eu heffeithiau.
Ymwybyddiaeth o Microymosodiadau: Yn canolbwyntio ar ddeall, cydnabod a mynd i’r afael â microymosodiadau – sylwadau neu weithredoedd bach, yn aml yn anfwriadol, sy’n niweidio neu’n eithrio grwpiau ymylol.
Dylai pleidiau ystyried comisiynu hyfforddiant gan arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd. Dylai’r gofynion hyfforddi gael eu teilwra ar gyfer gwahanol rolau yn y blaid, megis aelodau cyffredinol y blaid, paneli recriwtio a dethol, ac uwch swyddogion gweithredol, i fynd i’r afael â’r amgylchiadau a’r cyfrifoldebau penodol.
Digwyddiadau a gweithgareddau cynhwysol
Mae digwyddiadau a gweithgareddau cynhwysol yn sicrhau bod pob unigolyn, waeth beth yw eu cefndir neu amgylchiadau, yn gallu cymryd rhan yn llawn. Er mai ychydig o sefydliadau sy’n eithrio unigolion yn fwriadol, mae hygyrchedd yn aml yn cael ei anwybyddu, gan greu rhwystrau i grwpiau penodol yn anfwriadol.
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’n ofynnol yn gyfreithiol i sefydliadau wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl mewn unrhyw ddigwyddiad, boed yn gorfforol neu ar-lein. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod amgylcheddau corfforol a digidol yn hygyrch, gan ganiatáu i bob cyfranogwr ymgysylltu’n ystyrlon. Wrth drefnu digwyddiadau, dylai dewis lleoliad fod yn seiliedig ar hygyrchedd, gan sicrhau mynediad heb risiau, parcio hygyrch, lle i gŵn cymorth, ac offer cyfathrebu fel system uchelseinydd neu feicroffonau. Ar gyfer digwyddiadau ar-lein, dylai’r trefnwyr sicrhau bod y llwyfannau’n hygyrch i gyfranogwyr anabl, megis darparu sgrindeitlo, sicrhau eu bod yn gydnaws â darllenwyr sgrin, ac yn cefnogi dehonglwyr iaith arwyddion.
Gall yr hyn sy’n cael ei ystyried yn ‘addasiad rhesymol’ amrywio yn dibynnu ar faint a natur y sefydliad. Gall y canllawiau a’r enghreifftiau o addasiadau rhesymol mewn cyd-destun gweithle, a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi ac Chyflafareddu (ACAS) a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gynnig cyfeiriad defnyddiol. Mae’n bwysig nodi nad yw pob addasiad rhesymol yn golygu costau ariannol. Dylid bodloni anghenion sylfaenol – megis mynediad heb risiau, toiledau hygyrch, system meicroffon, neu gapsiynu ar-lein – bob amser.
Er bod bodloni gofynion hygyrchedd sylfaenol yn ddechrau da, dylai eich plaid anelu at fynd y tu hwnt i’r rhain, o ran sicrhau mynediad i bobl anabl ac o ran mynd i’r afael â rhwystrau sy’n cael eu profi gan grwpiau eraill. Mae mesurau hygyrchedd pellach sy’n ystyried ystod ehangach o nodweddion gwarchodedig yn cynnwys:
- Dewis lleoliad wedi’i leoli’n ganolog gyda mynediad hawdd i drafnidiaeth gyhoeddus
- Bod yn ymwybodol o amseriad digwyddiadau, gan osgoi trefnu digwyddiadau min nos yn unig
- Darparu bathodynnau enw i’r holl gyfranogwyr a siaradwyr
- Cynnig dolen glyw neu addasiad tebyg lle bo angen
- Cyfleu’n glir a oes croeso i blant a darparu mannau perthnasol, fel cornel plant, ardaloedd sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron, neu crèche
- Sicrhau drysau awtomatig a system fynediad hygyrch
- Arwyddion clir, gan gynnwys toiledau niwtral o ran rhywedd, a llwybrau hygyrch
- Defnyddio lleoliadau gyda thoiled Changing Places (nid yw rhai defnyddwyr cadair olwyn yn gallu defnyddio toiled hygyrch safonol)
- Sicrhau bod llwyfannau digidol yn gwbl hygyrch, gan gynnwys darparu testun amgen ar gyfer delweddau, eu bod yn gydnaws â darllenwyr sgrin, a sgrindeitlo (ar gyfer digwyddiadau ar-lein)
- Darparu dogfennau print bras neu ddefnyddio ffontiau clir fel Arial
- Cynnig dehonglwyr iaith arwyddion neu gymorth arall i gyfathrebu yn ôl yr angen
- Caniatáu i gyfranogwyr gyflwyno cwestiynau trwy neges destun neu’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y rhai sy’n ei chael hi’n anodd siarad yn bersonol
- Ystyried sut i wneud cludiant a llety ar gyfer digwyddiadau yn gynhwysol ac yn fforddiadwy, e.e. trwy fwrsarïau i bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, cynlluniau rhannu ceir, ac ystyried cyfleusterau lleol
- Cynnwys digon o seibiannau
- Darparu hyfforddiant diogelu ac ymwybyddiaeth cydraddoldeb ar gyfer staff a gwirfoddolwyr y digwyddiad
- Cynnig fersiynau hawdd eu darllen o ddogfennau a deunyddiau
- Cael swyddog lles/cynhwysiant yn y digwyddiad sy’n gyfrifol am ymdrin â materion hygyrchedd a chynhwysiant
- Darparu ystafell dawel neu ystafell weddi
- Meddyliwch am amrywiaeth eich siaradwyr a’ch panelwyr. Mae rhestr siaradwyr amrywiol yn fwy cynhwysol o bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
- Dangos arwyddion sy’n nodi na fydd iaith hiliol, rhywiaethol, homoffobig, trawsffobig ac ableddol yn cael ei goddef
- Darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen fel CD sain neu braille
- Os ydych chi’n darparu bwyd, ystyriwch anghenion crefyddol neu anghenion dietegol eraill
- Os bydd digwyddiadau yn digwydd yn ystod Ramadan, darparwch gyfleoedd rhwydweithio nad ydynt yn cynnwys bwyd na diod
- Gofyn i bobl anabl yn eich plaid roi adborth ar hygyrchedd.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac efallai y bydd gan bobl sy’n mynd i ddigwyddiadau eich plaid anghenion mynediad eraill nad ydynt wedi’u rhestru uchod.
Mae’n hanfodol nad yw ystyriaethau hygyrchedd yn rhai ymatebol yn unig. Dylai pleidiau fynd ati’n rhagweithiol i gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd yn gynnar yn y broses o gynllunio digwyddiadau hygyrch a chynhwysol. Gall pleidiau hefyd ofyn i bobl pan maen nhw’n dod yn aelod neu pan fyddant yn cofrestru ar gyfer digwyddiad am unrhyw ofynion mynediad a allai fod ganddynt.
Cyfranogiad hyblyg, digidol ac o bell
Mae integreiddio cyfranogiad o bell, a chyfranogiad hyblyg a digidol, yn cynnig cyfleoedd i wneud digwyddiadau yn fwy cynhwysol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Trwy ddefnyddio platfformau digidol, gall pleidiau gwleidyddol gael gwared ar rwystrau fel lleoliadau anhygyrch ac amseroedd digwyddiadau anghyfleus a thrwy hynny ehangu’r cyfleoedd i ymgysylltu. Mae cynnig digwyddiadau ar amrywiaeth o amseroedd a lleoliadau, ochr yn ochr â llwyfannau rhithwir ar gyfer cyfarfodydd, yn cynyddu hygyrchedd, yn enwedig i aelodau mewn ardaloedd gwledig neu’r rheini â namau symudedd neu gyfrifoldebau gofalu.
Gall offer digidol ehangu cyfranogiad mewn gweithgareddau ymgyrchu, gan ddarparu dewisiadau amgen fel canfasio dros y ffôn, allgymorth digidol, tasgau gweinyddol, a chodi arian ar-lein, a thrwy hynny, ddarparu ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn canfasio o ddrws i ddrws traddodiadol.
Ar yr un pryd, mae’n bwysig cydnabod y gall cyfranogiad digidol gyflwyno heriau newydd. Gall materion fel bylchau llythrennedd digidol a mynediad anghyfartal at dechnoleg effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau, gan gynnwys bobl hŷn, menywod, lleiafrifoedd ethnig, unigolion ar incwm is ac unigolion hŷn. Felly, dylai pleidiau sicrhau bod eu hadnoddau ar-lein yn hygyrch a chyfuno ymgysylltiad corfforol a digidol i sicrhau cyfranogiad ehangach.
Er mwyn cynnal amgylchedd cynhwysol, mae’n hanfodol cynnig opsiynau i gyfranogi o bell ac yn bersonol. Mae’r dull deuol hwn yn sicrhau bod pob aelod yn gallu ymgysylltu’n llawn, waeth beth yw eu hamgylchiadau personol, ac yn hyrwyddo hinsawdd gwleidyddol mwy amrywiol, hygyrch a theg.
Negeseua a chyfathrebu
Mae dangos ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yng ngwaith cyfryngau a chyfathrebu eich plaid yn hanfodol er mwyn ymgysylltu â’ch aelodau a’ch pleidleiswyr posibl yn eu holl amrywiaeth. Mae hefyd yn dangos bod eich plaid yn cymryd ei chyfrifoldeb o ddifrif, a ddaw yn sgil cael y dylanwad a’r adnoddau i roi syniadau yn y maes cyhoeddus a chyfeirio barn y cyhoedd.
Mae rhai o’r camau gweithredu y dylai pleidiau eu hystyried yn cynnwys:
- Adolygu’r mathau o straeon sy’n cael eu hyrwyddo trwy eich sianeli cyfathrebu yn rheolaidd i wirio am ragfarn anymwybodol.
- Rhoi sylw cyfathrebu cyfartal i wahanol rannau o’ch plaid, gan gynnwys rhwydweithiau sy’n cynrychioli grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Ysgrifennu polisi cyfathrebu a chyfryngau sy’n nodi sut y bydd eich plaid yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
- Rhoi sylw digonol i faterion sy’n effeithio ar bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Ystyried sut y gallai pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gyfrannu at strategaethau cyfathrebu, a dylanwadu ar y ffordd mae materion sy’n effeithio arnynt yn cael eu cyfathrebu gan y blaid.
Siaradwyr a phaneli
Bydd cynrychiolwyr etholedig ac aelodau amlwg o’r blaid yn aml yn cael eu gwahodd gan y cyfryngau, ymgyrchoedd, a grwpiau cymunedol i siarad ar banel neu gael eu cyfweld gan y cyfryngau. Un o’r ffyrdd gorau y gallwch ddangos eich ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yw trwy anfon amrywiaeth eang o lefarwyr i ddigwyddiadau cyfryngol a chyhoeddus.
Wrth ddewis cyfranogwyr panel ar gyfer eich digwyddiadau eich hun, ystyriwch flaenoriaethu unigolion sydd â phrofiad byw o’r materion sy’n cael eu trafod, yn enwedig os yw’r pwnc yn ymwneud â chydraddoldeb neu amrywiaeth. Os nad oes unrhyw un sydd â phrofiad bywyd o bwnc ar gael neu’n teimlo’n gyfforddus i siarad, anogwch y llefarydd i gysylltu â nhw neu eu rhwydwaith cefnogaeth gan gymheiriaid ymlaen llaw. Mae hefyd yn hanfodol bod gan bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gyfle cyfartal i siarad ar bynciau sy’n cyd-fynd â’u harbenigedd a’u diddordebau, nid yn seiliedig ar eu hunaniaeth yn unig.
Er mwyn cynyddu amrywiaeth eich panelwyr, dylech ddefnyddio gweithredu cadarnhaol. Er enghraifft, dylech ystyried annog siaradwyr o grwpiau sy’n cael eu gorgynrychioli yn y blaid i ofyn bob amser pwy arall sy’n ymddangos ar y panel cyn derbyn gwahoddiad. Er enghraifft, os yw’n banel o ddynion yn unig, dylai fod gennych bolisi o awgrymu bod menyw yn y blaid yn cymryd rhan. Os nad yw’n bosibl anfon siaradwr arall, er enghraifft os oes angen ichi anfon person penodol o bwyllgor plaid, pwyllgor seneddol neu bwyllgor cyngor penodol, anogwch yr unigolyn i siarad am gydraddoldeb ac amrywiaeth yn eu datganiad.
Mae’r camau gweithredu eraill y gallech eu cymryd i gynyddu amrywiaeth y llefarwyr sydd gennych yn cynnwys:
- Cynnal hyfforddiant cyfryngau i ddatblygu sgiliau siarad cyhoeddus a sgiliau cyfryngau ymhlith eich aelodau, a chadw lleoedd i bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
- Cynnwys sesiwn mewn hyfforddiant cyfryngau am faterion y gallai pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol eu hwynebu wrth ymddangos yn y cyfryngau. Er enghraifft, technegau ar gyfer herio Islamoffobia mewn cyfweliadau i’r cyfryngau
- Neilltuo rhywfaint o adnoddau ac amser staff i hyrwyddo gwaith ac ymgyrchoedd rhwydweithiau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn eich plaid trwy ddatganiadau i’r wasg, digwyddiadau ar gyfer y wasg, derbyniadau ac ati.
Wrth drefnu dadl neu drafodaeth, dylech feddwl ymlaen llaw am yr hyn a fyddai’n gwneud i bobl deimlo’n fwy cyfforddus ac yn galluogi mwy o bobl i gyfrannu. Er enghraifft, mae pobl o grwpiau mwyafrifol yn aml yn siarad am amser hirach ac yn gallu boddi lleisiau pobl o grwpiau lleiafrifol. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, gallech ystyried camau gweithredu fel cael cyfraniadau wedi’u hamseru gan bobl yn ystod trafodaethau a sicrhau bod y cadeirydd yn dewis ystod amrywiol o bobl i gyfrannu.
Deunyddiau etholiadol cynhwysol
Nid yw pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol bob amser yn teimlo eu bod wedi’u cynrychioli mewn deunyddiau, delweddau mewn maniffestos a’r fideos ymgyrchu a gynhyrchir gan bleidiau gwleidyddol. Nid yn unig y mae hyn yn atgyfnerthu rhwystrau strwythurol i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, ond gall hefyd ddieithrio pobl sydd â diddordeb mewn ymuno â phlaid. Mae gwneud delweddau eich plaid yn rhai sy’n gynrychioliadol o boblogaeth amrywiol Cymru yn bwysig. Wrth ddewis ffotograffau ymgyrchu a chreu deunyddiau fel taflenni neu ddarllediadau etholiad ar gyfer y blaid, mae’n bwysig dangos cynrychiolaeth amrywiol sy’n adlewyrchu sbectrwm llawn cymdeithas.
Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol na ddylai’r delweddau hyn fod yn symbolaidd. Nid oes diben creu deunyddiau cynhwysol os nad ydych chi’n cymryd y camau gweithredu eraill a ddisgrifir yn y pecyn hwn. Er enghraifft, peidiwch â gofyn i aelodau ethnig leiafrifol ymddangos mewn lluniau ac yna pheidio â chymryd camau rhagweithiol i gael gwared ar rwystrau iddynt gymryd rhan yn llawn yng ngweithgareddau eich plaid.
Maniffestos
Yn aml, mae llawer o gynnwys i’w roi i mewn i faniffesto a all olygu bod pynciau fel cydraddoldeb yn cael eu torri o’r ddogfen neu nad ydyn nhw mor amlwg ag y dylen nhw fod. Wrth ysgrifennu eich maniffesto, gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried o’r dechrau sut y bydd eich ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei adlewyrchu. Gallai hyn olygu bod gennych adran benodol o’ch maniffesto wedi’i neilltuo ar gyfer eich polisïau cydraddoldeb; neu fe allech chi gynnwys ymrwymiadau perthnasol drwy gydol y ddogfen. Gallech hefyd ystyried cynhyrchu maniffestos wedi’u targedu sy’n manylu ar bolisïau sy’n berthnasol i wahanol grwpiau a’u hanghenion penodol.
Deunyddiau etholiadol hygyrch
Dylai pawb yng Nghymru allu cael gafael ar wybodaeth am weithgareddau gwleidyddol a chymryd rhan ynddynt. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n hanfodol bod eich holl aelodau a’ch darpar bleidleiswyr yn deall eich deunyddiau ymgyrchu ac aelodaeth yn hawdd.
Mae’n arfer da cynhyrchu deunyddiau ymgyrchu, maniffestos a thaflenni mewn amrywiaeth o fformatau, er enghraifft: Hawdd ei Ddeall, ar sain, BSL a Braille. Dylai pleidiau bob amser ychwanegu isdeitlau at fideos i alluogi pobl ag amhariad ar y clyw allu ymgysylltu â’r cynnwys.
Nid yw rhai pobl yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf. Mae’n bwysig bod pleidiau’n rhagweld hyn a lle bo’n briodol yn cynhyrchu deunyddiau mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg. Ochr yn ochr â Chymraeg a Saesneg, efallai yr hoffech ystyried sicrhau bod eich deunyddiau ymgyrchu ar gael yn y tair iaith a siaredir fwyaf yn yr etholaeth neu’r ardal honno. Dylai pleidiau cenedlaethol feddwl am roi cymorth ac arian ychwanegol i bartïon lleol mewn ardaloedd lle maen nhw’n gwybod bod sawl iaith heblaw Cymraeg a Saesneg yn cael ei siarad. Wrth gyfieithu deunyddiau a dogfennau, dylai pleidiau ddefnyddio cyfieithydd proffesiynol yn hytrach na gwirfoddolwr.
Bwlio ac aflonyddu
Mae bwlio yn golygu unrhyw ymddygiad digroeso sy’n gwneud i rywun deimlo ofn, wedi’i ddiraddio, wedi’i fychanu neu wedi’i sarhau. Aflonyddu yw bwlio sy’n digwydd oherwydd ailbennu rhywedd unigolyn, oedran, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu oherwydd eu bod yn anabl. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae aflonyddu yn anghyfreithlon, ac mae gan sefydliadau ddyletswydd i weithredu yn ei erbyn.
Gall bwlio neu aflonyddu fod ar ffurfiau amrywiol. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:
- Lledaenu sibrydion maleisus, neu sarhau rhywun mewn geiriau neu ymddygiad
- Anfon negeseuon e-bost sy’n feirniadol am rywun at eraill nad oes angen iddynt wybod
- Gwawdio neu fychanu rhywun – pigo arnyn nhw neu osod tasgau amhosib ar eu cyfer
- Awgrymiadau rhywiol digroeso – cyffwrdd, sefyll yn rhy agos, dangos deunyddiau sarhaus, gofyn am ffafrau rhywiol, gwneud penderfyniadau ar sail a yw awgrymiadau rhywiol yn cael eu derbyn neu eu gwrthod
- Atal unigolion rhag symud ymlaen trwy rwystro cyfleoedd am ddyrchafiad neu hyfforddi yn fwriadol.
Atal bwlio ac aflonyddu
Er mwyn helpu aelodau, staff, a swyddogion etholedig eich plaid i deimlo’n ddiogel, dylai’r blaid gynhyrchu polisi bwlio ac aflonyddu clir sy’n nodi eich agwedd o ddim goddefgarwch at fwlio ac aflonyddu gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Dylai’r polisi hwn fod ar gael yn eang ar gyfer aelodau a dylai gynnwys:
- Gwybodaeth am beth yw aflonyddu gydag enghreifftiau o’r hyn y gall ei gynnwys
- Ffyrdd y gall pobl roi gwybod am fwlio ac aflonyddu
- Sut y bydd adroddiadau am fwlio ac aflonyddu yn cael eu hymchwilio, gan gynnwys llinellau amser clir
- Y weithdrefn ddisgyblu sy’n amlinellu’r camau gweithredu a gymerir yn erbyn pobl sy’n bwlio neu’n aflonyddu
- Bod cymorth ar gael i bobl sydd am roi gwybod am achos o fwlio neu aflonyddu.
Dylai eich plaid hefyd ystyried rhoi datganiad cyhoeddus ar eich gwefan neu mewn digwyddiadau am eich ymrwymiad i gydraddoldeb sy’n dweud na fydd ymddygiad difrïol neu sarhaus yn cael ei oddef.
Er mwyn deall a yw bwlio neu aflonyddu yn broblem yn eich plaid, mae’n syniad da cofnodi nifer yr adroddiadau a’r cwynion bob blwyddyn a sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael yn eang. Gall eich plaid hefyd ddefnyddio’r wybodaeth i ymchwilio i weld a oes angen gwneud newidiadau pellach i’ch gweithdrefn gwyno.
Cefnogi pobl i roi gwybod am aflonyddu
Mae rhoi cefnogaeth dda i bobl sy’n dioddef bwlio ac aflonyddu yn bwysig er mwyn creu diwylliant lle mae pobl yn barod i roi gwybod amdanynt. Dylai staff ar bob lefel gael eu hyfforddi i ymdrin â chwynion yn sensitif ac yn empathig. Mae’n arfer da cael sawl cyswllt gwahanol y gall pobl roi gwybod iddynt am ddigwyddiadau ac i’r rhain gael eu cyhoeddi’n eang i aelodau a staff. Lle bo hynny’n bosibl, ceisiwch ddatblygu ystod o ddulliau ar gyfer rhoi gwybod am aflonyddu gan gynnwys rhoi gwybod yn ddienw, drwy e-bost, ar-lein, ac wyneb yn wyneb. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol penodi rhywun ar lefel cangen leol nad yw’n ymwneud â gweithgareddau beunyddiol y blaid ac y gall weithredu fel person ychwanegol ac annibynnol y gellir rhoi gwybod am fwlio neu aflonyddu iddynt. Dylid trin pob adroddiad a chwyn am fwlio ac aflonyddu yn gyfrinachol.
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) ganllawiau am sut i gynnal ymchwiliad teg i gwynion a beth yw eich rhwymedigaethau cyfreithiol os yw aelod o staff yn cwyno am aflonyddu. Mae’n arfer da i ymchwiliadau gael eu cynnal gan rywun sy’n annibynnol o’r digwyddiad a’r bobl dan sylw. Er mwyn cyflawni hyn, gallai eich plaid feddwl am ddefnyddio rhywun o adran arall o’r blaid i helpu i ymchwilio a chynnal y broses ddisgyblu.
Efallai ei bod yn demtasiwn delio ag achosion o fwlio ac aflonyddu o fewn y blaid a pheidio â chynnwys yr heddlu. Fodd bynnag, er nad yw bwlio ei hun yn anghyfreithlon, mae aflonyddu oherwydd hil, crefydd, amhariad, hunaniaeth rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn yn cael ei ddosbarthu fel trosedd casineb. Os yw rhywun wedi dioddef trosedd casineb, dylid helpu’r unigolyn a’i annog i roi gwybod i’r heddlu, ond yr unigolyn sydd wedi dioddef ddylai wneud y penderfyniad terfynol bob amser.
Ar ôl rhoi gwybod am achos o aflonyddu, efallai y bydd y dioddefwr yn ansicr am beth fydd yn digwydd nesaf neu’n ofni sut y byddant yn cael eu trin yn y blaid. Gallai hyfforddi rhai o’ch aelodau i roi cefnogaeth gan gymheiriaid i ddioddefwyr yn ystod y broses o wneud cwyn alluogi pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i deimlo’n fwy hyderus ynglŷn â gwneud cwyn. Gallai’r cymorth hwn gynnwys esbonio’r broses gwyno, cefnogi pobl i wneud eu hadroddiad yn gŵyn ffurfiol a rhoi cymorth eiriolaeth yn ystod y broses gwyno.
Casglu data
Mae casglu data yn hanfodol i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwleidyddiaeth. O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal arolwg safonol o gynghorwyr neu ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiadau llywodraeth leol. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithredu Adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb, gan sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd ym maes cynrychiolaeth wleidyddol.
Mae Adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi data amrywiol wedi’u dienwio ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau perthnasol, gan gynnwys etholiadau’r Senedd yn 2026. Mae’r data hwn yn cynnwys oedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, a chefndir economaidd-gymdeithasol. Bydd trefnu dulliau ar gyfer casglu, dadansoddi a chyhoeddi data cyn etholiadau’r Senedd yn 2026 yn sicrhau bod eich plaid yn gwbl barod pan gaiff y darpariaeth hon ei gweithredu.
Wrth gasglu data, dylai pleidiau gyfeirio at arolwg templed Llywodraeth Cymru, sy’n sicrhau cymharoldeb data ar draws pleidiau gwleidyddol ac etholiadau gwahanol. Mae hefyd yn hanfodol bod eich plaid wleidyddol yn parchu preifatrwydd ymgeiswyr ac yn cydymffurfio â rheoliadau diogelu data. Er bod y pwyntiau allweddol wedi’u cynnwys yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, dylai eich plaid ystyried yn ofalus sut i gasglu, rheoli a rhyddhau data yn unol â’r canllawiau.