Rhan Dau: Denu ac Adnabod Talent Amrywiol

Diverse5050 Toolkit

Lawrlwythwch PDF digidol yma.

Mae’r broses o ddethol ymgeiswyr o fewn eich plaid yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio democratiaeth fwy amrywiol a chynrychioladol. Gall dull teg, tryloyw a hygyrch helpu i sicrhau bod unigolion o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael cyfleoedd cyfartal i sefyll ar gyfer etholiad. Yng Nghymru, mae gwahaniaethau demograffig ar draws rhanbarthau yn golygu efallai na fydd un dull sy’n addas i bawb yn effeithiol, ond dylai pleidiau gwleidyddol weithio i gael gwared ar rwystrau systemig sy’n anfantais i rai ymgeiswyr a rhoi camau cadarnhaol ar waith i feithrin ystod ehangach o gynrychiolwyr etholedig. 

Mae dethol ymgeiswyr yn cael ei ddylanwadu gan bolisïau a gweithdrefnau’r blaid, blaenoriaethau arweinyddiaeth, ac agweddau ac ymddygiadau’r rhai sy’n rhan o’r broses. Mae sicrhau system gynhwysol a theg yn gofyn am ymrwymiad i fesurau rhagweithiol sy’n cefnogi safbwyntiau amrywiol wrth wneud penderfyniadau. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan bleidiau gwleidyddol ddyletswydd hefyd i gynnal prosesau agored a chynhwysol. 

Mae’r ddogfen hon yn nodi argymhellion allweddol ar gyfer meithrin proses dethol ymgeiswyr gynhwysol, gan gynnwys: 

  • Strategaethau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ac ennyn diddordeb cronfa amrywiol o ymgeiswyr 
  • Arferion gorau ar gyfer gwerthuso ymgeiswyr yn deg a sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei hystyried 
  • Canllawiau ar gyfer creu prosesau dethol cynhwysol a thryloyw.
Gwybodaeth ac allgymorth 
Gwybodaeth Dryloyw 

Gall fod yn anodd dod o hyd i wybodaeth am ddod yn ymgeisydd. Gall hyn ddigalonni ac eithrio’r rhai nad ydynt eisoes â diddordeb mawr ac efallai y bydd pleidiau yn colli allan ar dalent amrywiol. Er mwyn annog ymgeiswyr posibl o ystod amrywiol o brofiadau bywyd a chefndiroedd, dylai pleidiau gyfleu eu prosesau, eu disgwyliadau a’u hamserlenni yn glir, yn ogystal â’u hymrwymiad i ddenu talent amrywiol. Gallai hyn gynnwys:  

  • Cyhoeddi datganiad ar eich gwefan sy’n amlygu bod eich plaid yn gwerthfawrogi ystod amrywiol o brofiadau bywyd 
  • Cael stondin mewn cynadleddau a digwyddiadau’r blaid gyda gwybodaeth am sut i ddod yn ymgeisydd, wedi’i staffio â phobl sy’n gallu ateb cwestiynau a chyfeirio at ragor o gefnogaeth a gwybodaeth 
  • Cynnal sesiynau gwybodaeth rheolaidd gan bobl sydd wedi mynd trwy’r broses eu hunain 
  • Hysbysebu dyddiadau a dyddiadau cau ar gyfer pob agwedd ar y broses asesu a dethol yn eang 
  • Sefydlu tudalen ar wefannau’r blaid yn genedlaethol ac yn lleol gyda gwybodaeth am y camau tuag at ddod yn ymgeisydd, gan gynnwys: 
    • Meini prawf cyfreithiol a phlaid-benodol ar gyfer cymhwysedd ymgeiswyr
    • Ffurflenni cais gofynnol
    • Gwiriadau fetio/diwydrwydd dyladwy
    • Y broses asesu ymgeiswyr 
    • Amserlenni perthnasol 
    • Unrhyw ffioedd y bydd angen i ddarpar ymgeiswyr eu talu 
    • Disgrifiadau rôl ar gyfer Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol a Chynghorwyr, sy’n cynnwys manylion am gyflog, oriau cyfartalog sy’n cael eu treulio ar ddyletswyddau ffurfiol, a disgwyliadau ynghylch cymryd rhan yng ngweithgareddau’r blaid
    • Dolenni i adnoddau a chefnogaeth bellach. 

Mae pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn tueddu i gael mynediad at lai o rwydweithiau ac adnoddau, a gallant elwa yn arbennig o gefnogaeth yn ystod y broses ymgeisio. Gall hyn gynnwys:    

  • Pleidiau yn rhoi adnoddau i adrannau perthnasol neu rwydweithiau cymheiriaid yn eu plaid i gefnogi a mentora ymgeiswyr posibl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol  
  • Cynnal sesiynau gwybodaeth wedi’u teilwra ar gyfer pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol  
  • Cael system cyfeillio neu gefnogaeth gan gymheiriaid gan y rhai sydd eisoes wedi mynd trwy’r broses 
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau a rhaglenni fel Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, Anabledd Cymru ac Elect Her sy’n cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid, mentora a mynediad at adnoddau i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Allgymorth Rhagweithiol 

Mae gweithgareddau allgymorth yn ffordd wych o hyrwyddo eich plaid, siarad â phleidleiswyr posibl, ac annog pobl i gymryd rhan yn eich gweithgareddau. Gall allgymorth wyneb yn wyneb fod yn arbennig o effeithiol wrth ymgysylltu â phobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a allai fod â diddordeb yn eich polisïau ond sy’n ansicr a fyddent yn teimlo bod croeso iddynt yn y blaid.   

Wrth feddwl am weithgareddau allgymorth, ceisiwch fod yn arloesol o ran ble mae eich plaid yn mynd a phwy mae eich plaid yn ymwneud â nhw. Er enghraifft, er mwyn denu mwy o bobl o gymuned ethnig leiafrifol, peidiwch â mynd at yr arweinwyr crefyddol lleol yn unig a gofyn am gyfarfod. Cynhaliwch stondin mewn canolfan gymunedol leol, grŵp chwarae, prosiect ieuenctid, neu ŵyl. Gallai eich plaid ystyried amrywio’r amseroedd rydych chi’n rhedeg y stondin. Bydd blaenoriaethu gweithgareddau allgymorth yn helpu eich plaid i recriwtio unigolion newydd, talentog a gall fod yn ffordd ddefnyddiol o hyfforddi aelodau presennol i fod yn fwy hyderus wrth gyfathrebu nodau a gwaith y blaid.   

Mae cynyddu amrywiaeth aelodaeth eich plaid yn ffordd wych o sicrhau bod eich plaid yn adlewyrchu cymdeithas Cymru ac yn aml hwn fydd y cam cyntaf ar daith eich ymgeiswyr yn y dyfodol. Dylai eich plaid ystyried recriwtio pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ymaelodi drwy:  

  • Gysylltu â phobl a nododd y byddent yn pleidleisio drosoch chi a gofyn iddyn nhw ymuno 
  • Gosod hysbysebion mewn cyhoeddiadau sy’n boblogaidd gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys hysbysebu ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol 
  • Tynnu sylw at eich polisïau cydraddoldeb.

Byddwch yn agored am yr arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth y mae eich plaid eisiau eu gwella a datgan yn glir y bydd aelodau newydd yn cael eu gwerthfawrogi wrth helpu’r blaid i gyflawni hyn. Os yw aelodau newydd yn eich helpu i wella, gwnewch yn siŵr eich bod yn cydnabod hyn. 

Asesu ymgeiswyr 

Mae’r broses asesu ymgeiswyr yn penderfynu pa ddarpar ymgeiswyr sy’n cael eu cymeradwyo i symud ymlaen i’r cam dethol, lle mae’r ymgeisydd terfynol ar gyfer etholiad yn cael ei ddewis. Mae pob plaid yn defnyddio terminoleg wahanol, ac yma rydym yn cyfeirio at y cam hwn fel fetio, asesu, neu sgrinio. Mae gweithgareddau asesu cyffredin yn cynnwys ffurflen gais, cyfweliadau, a thasgau ychwanegol fel cyflwyniadau neu brofion gwybodaeth wleidyddol, er y gall prosesau amrywio ar draws pleidiau ac etholiadau. 

Er mwyn sicrhau cynrychiolaeth gyfartal, rhaid i bleidiau gael gwared ar rwystrau a allai roi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol dan anfantais annheg. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan bleidiau ddyletswydd i sicrhau proses deg ac agored. Mae proses fetio dryloyw a chynhwysol nid yn unig yn cryfhau democratiaeth ond hefyd yn gwella’r broses o lunio polisïau trwy sicrhau bod safbwyntiau amrywiol yn cael eu cynrychioli. Mae’r cam hwn yn rhoi cyfle i bleidiau fyfyrio ar ba sgiliau a phrofiadau maen nhw’n eu gwerthfawrogi mewn ymgeiswyr ac i roi’r hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol i gynnal cydraddoldeb i’r rhai sy’n ymwneud â’r broses. Mae’r adrannau canlynol yn amlinellu’r camau y dylai eich plaid eu hystyried ym mhob cam o’r broses asesu. 

Ffurflenni Cais   

Gall ffurflen gais fod yn ffordd dda o gasglu gwybodaeth am ymgeiswyr posibl. Fodd bynnag, gall hefyd ddod yn rhwystr i gymryd rhan, a chael gwared ar ymgeiswyr rhagorol o’ch proses cyn cael cyfle i drafod eu profiadau, eu sgiliau a’u diddordebau gwleidyddol. Er mwyn gwneud y broses hon yn fwy hygyrch i bob ymgeisydd, dylai pleidiau ystyried:  

  • Cael disgrifiad rôl clir sy’n hawdd i ymgeiswyr posibl ei gael 
  • Amlinellu’r meini prawf hanfodol a dymunol y bydd ceisiadau yn cael eu hasesu yn eu herbyn 
  • Defnyddio iaith syml ac osgoi jargon  
  • Osgoi ffurflenni cais sy’n rhy hir neu’n gymhleth 
  • Bod yn glir ynghylch faint o eiriau a ddisgwylir ar gyfer pob ateb neu mewn datganiad ysgrifenedig 
  • Cyfleu y bydd ystyriaeth gyfartal yn cael ei rhoi i gyfeiriadau o’r tu allan i’r blaid 
  • Defnyddio recriwtio a dethol dienw i ddileu rhagfarn anymwybodol. 

Gan fod cyfathrebu llafar yn sgil allweddol mewn gwleidyddiaeth, efallai nad cais ysgrifenedig yw’r fformat mwyaf hygyrch ac effeithiol i nodi cryfderau ymgeiswyr nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf, neu sydd â gofynion hygyrchedd.  Dylai pleidiau ystyried cael dewis fformatau gwahanol ar gyfer y cais, fel fideos datganiad personol neu recordiadau llais. 

Paneli asesu

Er bod gan bob plaid broses wahanol ar gyfer fetio a dethol ymgeiswyr, un agwedd gyffredin yw bod ymgeiswyr posibl yn cael eu cyfweld gan banel asesu. Mae’n hanfodol ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau dethol a’u cynnal.  

Dylai fod gan eich plaid bolisi hygyrchedd i sicrhau bod y broses ddethol yn gynhwysol. Gwnewch yn siŵr fod yr wybodaeth a ddarperir i baneli dethol yn cynnwys canllawiau ar amrywiaeth a sut i adnabod a goresgyn rhagfarn anymwybodol, a cheisio cael o leiaf ddau berson sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch pwy sy’n cael eu dethol. 

Er mwyn hyrwyddo amrywiaeth, mae’n bwysig bod y panel yn gynhwysol, gydag aelodau o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau. Hysbysebwch y broses a’r amserlen ar gyfer recriwtio aelodau’r panel yn eang, ac ystyriwch gydweithio â rhwydweithiau perthnasol yn eich plaid i helpu i recriwtio panel dethol amrywiol. Mae’n hanfodol gwerthuso ymgeiswyr yn erbyn meini prawf penodol yn hytrach na gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ‘reddf.’ 

Dylai aelodau’r panel dderbyn hyfforddiant cydraddoldeb, sy’n cynnwys pynciau fel rhwystrau sy’n wynebu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, pwysigrwydd cynrychiolaeth gyfartal, rhagfarn anymwybodol, ac arfer da wrth gynnal cyfweliadau. Bydd hyfforddiant diweddaru bob tair blynedd yn helpu i sicrhau bod ymwybyddiaeth aelodau’r panel yn gyfredol. 

Cyfweliadau

Gall cyfweld ag ymgeisydd posibl fod yn ffordd dda o asesu eu sgiliau a’u haddasrwydd. Fodd bynnag, mae aelodau’r blaid o grwpiau gwarchodedig yn adrodd y gall cyfweliadau asesu greu rhwystrau rhag cael eu dethol a bod yn brofiad negyddol. Dylai pleidiau ystyried y camau canlynol i osgoi hyn.

Mae paratoi ar gyfer cyfweliadau ymlaen llaw yn rhoi cyfle i weithredu arfer gorau wrth wneud y broses yn hygyrch a chael gwared ar rwystrau. Cyn y cyfweliad, gofynnwch i bob ymgeisydd a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnynt. Mae gan bleidiau ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ystyried hygyrchedd a chynnig addasiadau rhesymol. Gallai hyn gynnwys cynnal cyfweliadau mewn adeilad cwbl hygyrch, cynnig cyfweliadau fideo, anfon cwestiynau’r cyfweliad ymlaen llaw ac addasiadau cyfathrebu, fel dehongli BSL.

Dylai pleidiau ystyried sut y gallant greu awyrgylch croesawgar a chefnogol a rhoi cyfarwyddiadau clir ar sut i gael mynediad i’r lleoliad neu’r cyfarfod ar-lein.

Ar gyfer y broses gyfweld, dylai pleidiau ystyried:

  • Datblygu fframwaith clir ar gyfer asesu ymgeiswyr, nodi meini prawf hanfodol a dymunol, ac unrhyw bwysoli a ddefnyddir 
  • Gwneud meini prawf ar gael i ymgeiswyr posibl cyn y cyfweliad 
  • Cytuno ar set o gwestiynau cyfweliad ymlaen llaw i sicrhau cysondeb a thegwch. (Weithiau gall fod yn briodol gofyn cwestiynau dilynol gwahanol i helpu i egluro gwybodaeth neu i fynd i’r afael â phwyntiau penodol a’u harchwilio ymhellach.) 
  • Canolbwyntio’r drafodaeth ar werthuso sgiliau, profiad a chymhellion ymgeisydd 
  • Gofyn cwestiynau penagored neu senario sy’n caniatáu i ymgeiswyr roi ymatebion cynhwysfawr 
  • Rhoi cyfle i ymgeiswyr ofyn cwestiynau ac amlinellu unrhyw addasiadau rhesymol neu gefnogaeth ychwanegol y gallai fod eu hangen arnynt yn ystod y broses ymgyrchu 
  • Cofnodi nodiadau ar ymatebion ymgeiswyr ar gyfer cyfeirio atynt yn y dyfodol. 

Mae rhai cwestiynau sydd bob amser yn amhriodol i’w gofyn wrth asesu addasrwydd ymgeisydd. Er enghraifft, cwestiynau am: 

  • Fywyd personol, cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, neu statws perthynas 
  • Cynlluniau ar gyfer beichiogrwydd neu deulu 
  • O ble mae rhywun ‘yn dod mewn gwirionedd’ 
  • Iechyd neu nam unigolyn, y tu hwnt i drafod unrhyw addasiadau neu gymorth y gallai fod eu hangen arnynt 
  • Unrhyw gwestiynau personol eraill na fyddai’n rhesymol eu disgwyl mewn cyfweliad ffurfiol ar gyfer swydd neu rôl wirfoddoli.

Os yw eich plaid yn gofyn i ymgeiswyr posibl gwblhau tasg ychwanegol, prawf gwybodaeth, neu gyflwyniad fel rhan o’r broses gyfweld, ystyriwch bwrpas y gofyniad hwn. Gwnewch yn siŵr ei fod yn cyd-fynd ag ymrwymiad eich plaid i ehangu cyfranogiad mewn gwleidyddiaeth ac nad yw’n creu rhwystrau’n anfwriadol.

Gwerthfawrogi profiad amrywiol  

Mewn gwleidyddiaeth, efallai y bydd gofynion nas crybwyllir y mae’n rhaid i unigolyn eu dangos cyn iddynt gael eu derbyn fel ymgeisydd posibl. Mae rolau sy’n ymwneud â’r cyhoedd a rolau ymgyrchu yn aml yn cael eu hystyried yn bwysicach na rolau sy’n fwy gweinyddol, mewnol neu ailadroddus, a rhoddir mwy o werth iddynt. Efallai y bydd ymgeiswyr posibl sydd wedi gwneud llawer o ymgyrchu dros y blaid yn flaenorol (yn enwedig gweithgareddau ‘traddodiadol’ fel mynd o ddrws i ddrws a dosbarthu taflenni) yn cael eu hystyried yn fwy ffyddlon, dibynadwy, neu haeddiannol na’r rhai sydd wedi cael profiad mewn cyd-destunau eraill.  

Er ei bod yn rhesymol disgwyl i ymgeisydd cymwys fod wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau’r blaid, mae’n bwysig cofio bod unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn fwy tebygol o brofi rhwystrau rhag cymryd rhan, e.e. oherwydd amhariad, cyfrifoldebau gofalu, neu ddibyniaeth ar waith â thâl. Mae cymryd rhan mewn gwaith ymgyrchu dros blaid yn cymryd llawer o amser ac yn aml yn achosi costau i ymgyrchwyr, ac oherwydd anghydraddoldebau strwythurol ac ystrydebau, mae pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn rolau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n llai yn draddodiadol

Yn ystod y broses asesu ymgeiswyr, mae’n bwysig cydnabod nad profiad blaenorol mewn gwaith ymgyrchu dros blaid yw’r unig ffordd i fesur ymgeisydd cryf. Bydd gan lawer o ymgeiswyr posibl brofiadau gwaith, profiadau cymunedol, neu brofiadau eraill yr un mor ddilys ag ymgyrchu’n wleidyddol dros blaid. Er mwyn adlewyrchu hyn, dylai pleidiau ystyried cynllunio cwestiynau a meini prawf cyfweliad mewn ffordd sy’n amlygu ac yn gwerthfawrogi ystod eang o brofiadau perthnasol

Rhoi adborth 

Dylai eich plaid roi gwybod ar unwaith i ddarpar ymgeiswyr a ydynt wedi llwyddo yn yr asesiad ac ystyried rhoi adborth adeiladol i ymgeiswyr aflwyddiannus. Mae cynnig adborth cefnogol ac adeiladol hefyd yn ffordd o feithrin y genhedlaeth nesaf o ymgeiswyr posibl, tra bod adborth sy’n rhy bersonol neu’n amwys yn annefnyddiol ac yn peri siom. 

Defnyddiwch y disgrifiad o’r rôl a’r cymwyseddau a aseswyd yn ystod y cyfweliad i drafod y sgiliau neu’r priodoleddau a ddangosodd neu na ddangosodd y sawl oedd yn cael ei gyfweld. Mae’n bwysig i ymgeiswyr aflwyddiannus allu gweithredu ar yr adborth. Dylai’r adborth fod yn wrthrychol, yn benodol, a phan fo’n briodol, nodi ffyrdd posibl o wella. Gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio ymgeiswyr at gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu fel rhan o’r adborth, ynghyd ag amserlen realistig ar gyfer pryd y gallent fod yn gymwys i geisio eto.  

Amserlenni a heriau 

Gall fod heriau wrth gyflawni arfer gorau yn ystod y broses asesu ymgeiswyr. Mae prosesau ymgeisio yn aml yn cael eu cynnal o dan derfynau amser tynn ac fel arfer yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr. Weithiau, mae etholiadau’n cael eu galw ar fyr rybudd, sy’n golygu y gallai fod angen cwblhau’r broses yn gyflym. Er mwyn lleihau risgiau proses a allai greu rhwystrau i unigolion mewn grwpiau gwarchodedig, gall fod yn fuddiol i’ch plaid gynllunio ymlaen llaw. Ystyriwch roi camau gweithredu ar waith sy’n blaenoriaethu cynrychiolaeth gyfartal yn eich prosesau. Er enghraifft: 

  • Cael cronfa o ymgeiswyr posibl sydd eisoes wedi’u sgrinio 
  • Cynnig cyfleoedd lluosog i ymgeiswyr gael eu fetio neu greu rhaglen dreigl o asesiadau ymgeiswyr drwy gydol y flwyddyn 
  • Hysbysebu dyddiadau asesu yn eang ymlaen llaw i ganiatáu ar gyfer y cyfranogiad mwyaf posibl. 
Dethol ymgeiswyr  
Gweithredu cadarnhaol 

Un o brif ysgogwyr y diffyg amrywiaeth mewn swyddi etholedig yw bod unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn llai tebygol o gael eu dethol fel ymgeiswyr, yn enwedig mewn seddi y gellir eu hennill. Os caiff ei gynllunio a’i weithredu’n effeithiol, gweithredu cadarnhaol wrth ddethol ymgeiswyr yw’r un mesur mwyaf effeithiol y gall eich plaid ei wneud i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. 

Mae sawl math o weithredu cadarnhaol wrth ddethol ymgeiswyr yn gyfreithlon o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi trosolwg defnyddiol. Yn dibynnu ar y nodwedd warchodedig, y system bleidleisio ac amgylchiadau eraill, gallai gwahanol fathau o weithredu cadarnhaol fod yn briodol ar gyfer gwahanol ddewisiadau.   

Gall mesurau gweithredu cadarnhaol ar gyfer menywod gynnwys: 

  • Trothwyon cwota rhywedd, lle rydych chi’n nodi bod yn rhaid i ganran benodol o’ch ymgeiswyr fod yn fenywod. 
  • Rhestrau am-yn-ail, lle rydych chi’n rhoi menywod a dynion am yn ail ar restr plaid 
  • Rhestrau byr menywod yn unig, lle dim ond menywod sy’n gymwys i sefyll mewn rhai seddi.*

*Nodwch, er bod rhestrau byr menywod yn unig yn cael eu caniatáu ar hyn o bryd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei diddymu’n awtomatig ar ddiwedd 2030.  

Mae mesurau gweithredu cadarnhaol ar gyfer menywod yn cael eu defnyddio gan bleidiau mewn dwy ran o dair o bob gwlad ledled y byd. Mae eu heffeithiolrwydd yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys: 

  • Lefel y trothwy – yr agosaf at 50% y mwyaf effeithiol 
  • Trothwyon sy’n gweithredu fel ‘llawr’ (lleiafswm) yn hytrach na ‘nenfwd’ (uchafswm) 
  • Cydymffurfio neu orfodi cyson 
  • Y defnydd o fesurau diogelu i sicrhau lleoliad mewn seddi y gellir eu hennill. Gall hyn gynnwys:
    •  Meini prawf ynglŷn â ble mae menywod yn cael eu gosod o fewn rhestr (meini prawf ‘fertigol’) 
    • Meini prawf ynghylch cyfran y wardiau neu etholaethau ledled Cymru lle mae menywod yn cael eu gosod yn y safle cyntaf neu’r unig safle (meini prawf ‘llorweddol’) 
    • Ei gwneud yn ofynnol bod menywod yn sefyll mewn cyfran o seddi y mae eich plaid yn eu nodi sy’n ‘perfformio orau’ neu ‘y gellir eu hennill.’ 

Mae camau cadarnhaol eraill y dylai eich plaid eu hystyried yn cynnwys: 

  • Rhestrau Byr Pobl Anabl yn Unig. Yn debyg i Restrau Byr Menywod yn Unig, mae rhestrau byr sy’n cynnwys ymgeiswyr anabl yn unig yn bosibl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb ac wedi cael eu defnyddio o’r blaen yn y DU.
  • Lleoedd wedi’u cadw ar restrau byr ar gyfer grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol. Er bod ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd ar restr fod â nodweddion gwarchodedig penodol ar hyn o bryd dim ond yn gyfreithiol bosibl ar gyfer menywod ac ymgeiswyr anabl (Rhestrau Byr Menywod yn Unig a Rhestrau Byr Pobl Anabl yn Unig), gall pleidiau gadw unrhyw nifer o leoedd ond nid pob un ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig eraill.
  • Targedau ar gyfer nifer yr ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Er enghraifft, os yw 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru yn anabl, gallech osod targed i 20% o’ch ymgeiswyr fod yn anabl.
  • Seddi wedi’u cadw ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Pan fydd aelod presennol yn rhoi’r gorau i’w swydd, gallai’r blaid nodi y dylai’r swydd gael ei llenwi gan rywun o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Rhyngblethedd mewn gweithredu cadarnhaol. Mae pobl sy’n profi gwahaniaethu rhyngblethol neu anfantais luosog yn wynebu rhwystrau ychwanegol ac yn tueddu i gael eu tangynrychioli fwyaf. Dylai pleidiau roi ystyriaeth arbennig i sut y gall mesurau gweithredu cadarnhaol fynd i’r afael â hyn.   
  • Cydnabod amrywiaeth rhywedd trwy gydnabod efallai na fydd rhai o’ch aelodau yn uniaethu’n llwyr fel gwryw neu fenyw. Gallai eich plaid weithredu system darged neu gwota sy’n sicrhau nad yw nifer yr ymgeiswyr sy’n uniaethu fel gwryw a menyw yn amrywio o fwy nag un, gan ganiatáu i unigolion anneuaidd gael eu dewis fel ymgeiswyr heb atal eich plaid rhag cyrraedd ei thargedau cydbwysedd rhywedd (e.e., 50% yn fenywod). 
  • Gweithredu’r camau cadarnhaol hyn yn y prosesau dethol ar gyfer eich pwyllgorau mewnol a’ch rolau uwch. 

Yn yr un modd â mesurau gweithredu cadarnhaol i fenywod, bydd effeithiolrwydd y mesurau hyn yn llwyddo neu’n methu yn unol â chydymffurfio a gorfodi effeithiol ac i ba raddau y maent yn hwyluso lleoli mewn seddi y gellir eu hennill. I gael mwy o wybodaeth am effaith cwotâu ar gyfer nodweddion heblaw rhywedd a rhyngblethedd, gweler papur briffio Cwotâu Amrywiaeth RhCM

1 Nodwch, er bod rhestrau byr menywod yn unig yn cael eu caniatáu ar hyn o bryd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei diddymu’n awtomatig ar ddiwedd 2030.