Maniffesto Hawliau Menywod Cymru

Mae’r Rhwydwaith Rhywedd, sef fforwm polisïau sy’n cynnwys 80 o gynrychiolwyr y trydydd sector, ymgyrchwyr, ac academyddion sydd yn brwydro dros hawliau menywod yng Nghymru, yn galw ar bleidiau ac ymgeiswyr i roi cydraddoldeb rhywedd wrth wraidd etholiad nesaf y Senedd. Trwy dynnu ar ein harbenigedd polisi a’r gwaith rydym wedi datblygu yn annibynnol ac ar y cyd ar draws y trydydd sector, rydym ni wedi nodi chwe maes allweddol lle mae angen gweithredu pendant – ar faterion datganoledig a thrwy sicrhau bod ein pryderon yn cael sylw ac ymateb ar lefel y DU. Darllenwch y maniffesto yma.

Rydym yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i roi hawliau menywod a chydraddoldeb rhywedd wrth wraidd eu gwaith drwy ymrwymo i’r camau yma:

  • Diogelu a chorffori hawliau menywod yng nghyfraith Cymru
  • Terfynu anghydraddoldebau economaidd
  • Mynd i’r afael â’r argyfwng gofalu
  • Atal trais seiliedig ar rywedd a chefnogi goroeswyr
  • Darparu mynediad amserol i ofal iechyd
  • Sicrhau bod y Senedd newydd yn lle i fenywod

Ymwadiad: Cynhyrchwyd y maniffesto hwn gan y Rhwydwaith Rhywedd, sef fforwm polisi o 80 o gynrychiolwyr trydydd sector, gweithredwyr ac academyddion a weinyddir gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru. Er ei fod wedi’i gynhyrchu ar y cyd mewn ymgynghoriad â’r holl aelodau, nid yw aelodaeth yn y Rhwydwaith Rhywedd o reidrwydd yn gyfystyr â chymeradwyaeth o bob safbwynt polisi unigol yn y ddogfen hon.