Rhan Tri: Meithrin a chefnogi talent amrywiol

Diverse5050 Toolkit

Lawrlwythwch PDF digidol yma.

Mae denu, datblygu a chadw ystod amrywiol o dalent o fewn eich plaid yn hanfodol i sicrhau bod y dirwedd wleidyddol yn adlewyrchu’r gymdeithas y mae’n ei gwasanaethu. Mae’r adran hon yn amlinellu camau ymarferol y gall eich plaid eu cymryd i sicrhau bod gan ymgeiswyr posibl ac aelodau’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan yn llawn a llwyddo mewn bywyd gwleidyddol. 

Mae’r meysydd allweddol a drafodir yn yr adran hon yn cynnwys: 

  • Darparu hyfforddiant, mentora, a chefnogaeth gan gymheiriaid i helpu aelodau i ddatblygu sgiliau a hyder 
  • Cynnig cymorth ariannol a gwybodaeth glir am gostau ymgyrchu i leddfu rhwystrau ariannol i ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Diogelu ymgeiswyr rhag aflonyddu a chamdriniaeth, gan gynnwys bygythiadau ar-lein, a darparu hyfforddiant ar sut i reoli’r heriau hyn.
Hyfforddiant a datblygu  

Mae penderfynu sefyll mewn etholiad yn benderfyniad mawr sy’n gofyn am hyder, gwybodaeth a sgiliau mewn gwahanol feysydd. Er mwyn cynyddu nifer yr ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gall eich plaid gymryd camau rhagweithiol i ddatblygu ymgeiswyr posibl drwy hyfforddiant neu rannu sgiliau.  

Dyma rai modiwlau posibl a all fod o fudd arbennig i ymgeiswyr posibl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol: 

Siarad cyhoeddus a negeseua: Mae cyfathrebu clir a hyderus yn hanfodol ar gyfer ymgysylltu â phleidleiswyr, y cyfryngau a grwpiau cymunedol. Efallai fod ymgeiswyr posibl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol wedi cael llai o gyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau hyn. Gall siarad cyhoeddus, ysgrifennu areithiau, a hyfforddiant ar ddadlau helpu ymgeiswyr i feithrin hyder a mynegi eu negeseuon yn effeithiol.  

Y cyfryngau a’r wasg: Mae ymgysylltu â’r cyfryngau yn rhan hanfodol o ymgyrchu, ond gall fod yn frawychus – yn enwedig i’r rhai sydd â llai o brofiad â’r wasg draddodiadol. Oherwydd bod y cyfryngau’n gallu creu portreadau rhagfarnllyd, gall grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol hefyd fod yn destun craffu ychwanegol neu gamliwio. Mae hyfforddiant mewn ymgysylltu â’r cyfryngau, delio â chwestiynau anodd, ac osgoi trapiau cyffredin yn helpu ymgeiswyr i gyfathrebu’n effeithiol â newyddiadurwyr a gwahanol gynulleidfaoedd ac i lywio heriau posibl. 

Codi arian a rheoli adnoddau: Mae bod yn ymgeisydd gwleidyddol yn gofyn am adnoddau ariannol, ond nid oes gan bawb yr un mynediad at rwydweithiau codi arian. Mae hyfforddiant mewn cyllidebu, ymgysylltu â rhoddwyr, a rheoliadau ariannol yn helpu ymgeiswyr i ddatblygu ymgyrchoedd cynaliadwy. Mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn aml yn wynebu rhwystrau systemig o ran cyllid, felly mae canllawiau ar ddulliau gwahanol o godi arian—fel ymgyrchoedd rhoddwyr bach, grantiau, a chefnogaeth a ysgogir gan y gymuned—yn sicrhau chwarae teg. 

Ymgysylltu â phleidleiswyr a threfnu: Mae ymgysylltu â phleidleiswyr wrth wraidd unrhyw ymgyrch, ond mae angen dulliau gwahanol ar wahanol gymunedau. Mae hyfforddiant mewn canfasio, cydlynu gwirfoddolwyr, ac allgymorth wedi’i dargedu yn helpu ymgeiswyr i gysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol. Gan fod grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn aml yn cael llai o bobl yn pleidleisio drostynt oherwydd difreiniad hanesyddol, mae rhoi strategaethau ymgysylltu wedi’u teilwra i ymgeiswyr yn helpu i sicrhau cyfranogiad a chynrychiolaeth ehangach. 

Diogelwch personol ac ar-lein: Mae rolau sy’n ymwneud â’r cyhoedd yn dod â risgiau, gan gynnwys aflonyddu a bygythiadau, yn enwedig i bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’n hanfodol eu bod wedi’u paratoi i adnabod a rheoli risgiau a gwybod sut i gael mynediad at gymorth. Mae hyfforddiant ar ddiogelwch personol, preifatrwydd ar-lein, diogelwch digidol ac asesu risg yn helpu ymgeiswyr i adnabod, ymateb i, ac adrodd am fygythiadau yn effeithiol. Mae gwybodaeth am rwydweithiau cymorth perthnasol, amddiffyniadau cyfreithiol, ac adnoddau iechyd meddwl yn sicrhau bod pob ymgeisydd yn gallu ymgyrchu gyda hyder a diogelwch. 

Cyfryngau cymdeithasol a llythrennedd digidol: Mae llwyfannau ar-lein yn offer pwerus ar gyfer cyrraedd pleidleiswyr, ymgasglu cefnogwyr, a llunio trafodaeth gyhoeddus. Mae hyfforddiant ar strategaeth ddigidol, ymgysylltu â chynulleidfaoedd, a chreu cynnwys yn helpu ymgeiswyr i adeiladu presenoldeb ar-lein effeithiol. Fodd bynnag, gall mannau digidol fod yn heriol, yn enwedig i rai pobl o grwpiau heb sgiliau llythrennedd digidol. Er mwyn gwneud gweithgareddau digidol yn fwy cynhwysol, ystyriwch gynnig hyfforddiant a rhannu canllawiau ‘sut i’. 

Er mwyn sicrhau bod llawer o ymgeiswyr posibl yn gallu cael mynediad at y cyfleoedd hyfforddi hyn, ystyriwch hyblygrwydd yn y ffordd y mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu. Gall cynnig sesiynau ar-lein, cynnwys wedi’i recordio ar gyfer dysgu ar eich cyflymder eich hun, a gweithdai wyneb yn wyneb ar wahanol adegau fodloni amserlenni unigolion ag ymrwymiadau personol a phroffesiynol amrywiol. Yn ogystal, gall rhoi cymorth fel gwasanaethau gofal plant, ariantal teithio, neu sicrhau bod lleoliadau yn hygyrch helpu i chwalu rhwystrau i ymgeiswyr â chyfrifoldebau gofalu neu ymgeiswyr anabl.  

Mentora, cysgodi a choetsio

Mae pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn aml yn wynebu rhwystrau strwythurol wrth fynd i mewn i wleidyddiaeth, gan gynnwys diffyg rhwydweithiau, patrymau ymddwyn, a mynediad at wybodaeth fewnol. Gall cyfleoedd mentora, cysgodi a choetsio helpu i chwalu’r rhwystrau hyn.

Sut i greu cynllun mentora 

Mae cynllun mentora yn rhaglen strwythuredig lle mae unigolion profiadol yn rhoi arweiniad, cefnogaeth a chyngor i unigolion llai profiadol i’w helpu i ddatblygu’n broffesiynol. Er mwyn sefydlu cynllun mentora effeithiol, dylai pleidiau: 

Nodi mentoriaid posibl. Annog gwleidyddion, gweithredwyr ac ymgyrchwyr profiadol i wirfoddoli fel mentoriaid, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiadau bywyd perthnasol ac yn deall yr heriau sy’n wynebu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. 

Diffinio amcanion clir. Penderfynu ar y nodau, megis meithrin sgiliau, datblygu hyder a theilwra mentora ar gyfer gwahanol anghenion, gan gynnwys ymgeiswyr newydd, ymgyrchwyr llawr gwlad, a’r rhai sydd â diddordeb mewn rolau arweinyddiaeth. 

Paru mentoriaid a’r bobl maent yn eu mentora yn ystyriol. Ystyried ffactorau fel cefndir, profiad, a dyheadau gyrfa wrth baru cyfranogwyr. Rhoi’r opsiwn i’r bobl sy’n cael eu mentora i ofyn am fentor o gefndir neu brofiad bywyd tebyg. 

Strwythuro’r rhaglen. Gosod amserlen glir (e.e., chwe mis i flwyddyn) gyda chyfleoedd i gyfarfod yn rheolaidd. Darparu hyfforddiant i fentoriaid ar sut i arwain a chefnogi’r bobl sy’n cael eu mentora yn effeithiol. Sefydlu cod ymddygiad i sicrhau amgylchedd mentora parchus a chynhwysol. 

Monitro a gwerthuso. Casglu adborth gan fentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora i asesu effeithiolrwydd y cynllun. Olrhain y canlyniadau, megis faint o bobl a gafodd eu mentora sy’n mynd ymlaen i sefyll mewn etholiad neu ymgymryd â rolau arweinyddiaeth. Addasu’r rhaglen yn seiliedig ar brofiadau ac anghenion cyfranogwyr. 

Sut i greu cyfleoedd cysgodi 

Mae cysgodi yn caniatáu i ddarpar wleidyddion arsylwi a phrofi gwaith dyddiol swyddogion etholedig. Er mwyn gweithredu menter cysgodi: 

Parwch â swyddogion etholedig. Anogwch Aelodau Seneddol, cynghorwyr, a chynrychiolwyr eraill i gynnig cyfleoedd cysgodi. Hyrwyddwch y cynllun o fewn y blaid er mwyn cynyddu cyfranogiad. 

Datblygwch strwythur hyblyg. Cynigwch leoliadau cysgodi tymor byr (undydd) a hirdymor (wythnosau/misoedd). Caniatewch y bobl sy’n cael eu mentora i fynychu cyfarfodydd cyhoeddus, arsylwi ymgyrchu, a chymryd rhan mewn gwaith etholaethol. 

Sicrhewch hygyrchedd. Rhowch gymorth ariannol ar gyfer anghenion teithio a hygyrchedd. Cynigwch opsiynau cysgodi o bell (e.e., cyfarfodydd rhithwir, gweithgareddau ymgyrchu ar-lein). 

Crëwch amgylchedd cefnogol. Rhowch friffiau cyn y cysgodi i helpu cyfranogwyr i ddeall disgwyliadau. Neilltuwch bwynt cyswllt i gyfranogwyr ofyn cwestiynau a cheisio arweiniad. 

Anogwch ymgysylltiad hirdymor. Helpwch gyfranogwyr i drosglwyddo o gysgodi i rolau gwleidyddol gweithredol, fel ymuno â thimau ymgyrchu neu sefyll am swyddi mewnol yn y blaid. Cysylltwch nhw â chyfleoedd hyfforddi a datblygu pellach yn y blaid. 

Mae ystyriaethau tebyg yn berthnasol i sefydlu cynlluniau coetsio. Yn ogystal â chefnogi a dod o hyd i adnoddau ar gyfer cynlluniau eich hun, dylai eich plaid ystyried rhannu gwybodaeth yn rheolaidd am raglenni annibynnol sy’n agored i unigolion o bob plaid, gan gynnwys Rhaglen Mentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth a rhwydweithiau Elect Her.  

Buddsoddi mewn cefnogaeth gan gymheiriaid 

Cefnogaeth gan gymheiriaid yw pan fydd pobl yn defnyddio eu profiad personol i roi gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth emosiynol neu ymarferol i’w gilydd. Gall cefnogaeth gan gymheiriaid alluogi unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ddatblygu sgiliau, meithrin hyder, a dilyn rolau sydd o ddiddordeb iddynt.  

Mae rhai mathau o gefnogaeth gan gymheiriaid y gallai eich plaid ystyried eu sefydlu yn cynnwys:  

  • Cynlluniau cyfeillio  
  • Mentora gan gymheiriaid neu gysgodi  
  • Rhwydweithiau cymheiriaid neu grwpiau cynrychioliadol  
  • Fforymau ar-lein  
  • Cynlluniau hyfforddi cymheiriaid 

Yn ddelfrydol, dylai cynlluniau cefnogaeth gan gymheiriaid gael eu harwain gan unigolion sydd â phrofiad bywyd perthnasol gyda chefnogaeth ac adnoddau digonol gan eich plaid. Gan fod pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn debygol o gael llai o amser, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill, mae cefnogaeth a chael adnoddau yn arbennig o bwysig. Dylai eich plaid flaenoriaethu grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu hystyried fel rhan yr un mor werthfawr o’ch plaid. Er enghraifft, dylai eich plaid ymgynghori â rhwydweithiau cefnogaeth gan gymheiriaid ar gynigion polisi sy’n berthnasol i’w grŵp, dyrannu amser mewn cynadleddau, a rhoi cyfleoedd i rwydweithiau cymheiriaid roi adborth ar eu gweithgareddau yng nghyfarfodydd lleol y blaid.   

Cymorth ariannol a gwybodaeth am gostau ymgyrchu 

Mae ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn aml yn wynebu rhwystrau ariannol sylweddol wrth ymgeisio mewn etholiad. Oherwydd anghydraddoldebau strwythurol, mae pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn tueddu i fod â chynilion ac incwm is a chyfleoedd dilyniant gyrfa mwy cyfyngedig.  

Mae bod â llai o gynilion ac asedau ariannol yn cynyddu’r risg sy’n gysylltiedig â chynnal ymgyrch, gan y gallai fod angen i ymgeiswyr gymryd gwyliau di-dâl neu fuddsoddi arian personol mewn ymgyrch efallai na fyddant yn ei hennill. Gall y risgiau ariannol hyn atal unigolion talentog rhag sefyll ar gyfer etholiad. Efallai y bydd gan ymgeiswyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol lai o gysylltiadau â rhoddwyr gwleidyddol a rhwydweithiau codi arian, gan ei gwneud hi’n anoddach ariannu eu hymgyrchoedd. 

Y tu hwnt i gostau ymgyrchu cyffredinol, mae ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn aml yn wynebu costau ychwanegol, megis: 

  • Treuliau sy’n gysylltiedig â mynediad – Efallai y bydd ymgeiswyr anabl angen cyllid ar gyfer trafnidiaeth, technoleg gynorthwyol, cynorthwywyr personol, neu ddeunyddiau ymgyrchu hygyrch. 
  • Cyfrifoldebau gofal plant a gofal di-dâl – Efallai y bydd angen cymorth ariannol ar ymgeiswyr sydd â phlant neu sydd â rhwymedigaethau gofal teuluol i dalu costau gofal wrth ymgyrchu. 
  • Costau sy’n gysylltiedig ag ymddangosiad – Mae menywod, yn arbennig, yn wynebu mwy o graffu cyhoeddus dros eu hymddangosiad, yn aml yn gofyn am wariant uwch ar ddillad proffesiynol, ymbincio, neu steilio gwallt. 
  • Treuliau sy’n gysylltiedig â diogelwch – Efallai y bydd angen i’r rhai sydd â risg uwch o ddioddef aflonyddu, cam-drin neu drais fuddsoddi mewn mesurau diogelwch personol, megis uwchraddio diogelwch yn y cartref, darpariaethau diogelwch wrth deithio, neu wasanaethau diogelu ar-lein. 

Er mwyn mynd i’r afael â’r rhwystrau ariannol hyn a hyrwyddo mynediad cyfartal i gyfranogiad gwleidyddol, dylai eich plaid ystyried:  

  • Rhoi cymorth ariannol uniongyrchol. Cynnig bwrsariaethau, grantiau, neu arian penodol i dalu treuliau hanfodol fel gofal plant, costau sy’n gysylltiedig â mynediad, a mesurau diogelwch. 
  • Sicrhau gwybodaeth dryloyw am gostau ymgyrchu. Rhoi dadansoddiad manwl o gostau ymgyrchu disgwyliedig i ymgeiswyr. Rhoi gwybodaeth glir am ba gostau fydd yn cael eu talu gan y blaid a rhannu gwybodaeth am unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael, gan gynnwys bwrsariaethau mewnol y blaid yn ogystal â chynlluniau annibynnol fel Y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig.  
  • Egluro eithriadau rhag terfynau gwariant ymgyrchu. Darparu canllawiau ar ba gostau (e.e., costau mynediad i ymgeiswyr anabl) nad ydynt yn cael eu cyfrif tuag at derfynau gwariant swyddogol, gan helpu ymgeiswyr i ddyrannu arian yn effeithiol. Sylwch fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu eithrio treuliau sy’n gysylltiedig â diogelwch rhag terfynau gwariant ymgeiswyr a phleidiau mewn pryd ar gyfer etholiad 2026, yn dilyn argymhelliad gan adroddiad Comisiwn Jo Cox ar Foesgarwch
  • Ehangu mynediad at gyfleoedd codi arian. Hwyluso cysylltiadau rhwng ymgeiswyr heb gynrychiolaeth ddigonol a rhoddwyr posibl, yn ogystal â rhoi hyfforddiant ar strategaethau codi arian. 

Datblygu strategaeth cymorth ariannol gynhwysol. Adolygu polisïau cymorth ariannol eich plaid i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion ymgeiswyr amrywiol, e.e. sicrhau ad-daliad amserol, a pheidio â disgwyl i ymgeiswyr dalu treuliau mawr y gellir eu had-dalu ymlaen llaw. 

Aflonyddu a cham-drin  

Mae ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn tueddu i wynebu lefelau sylweddol uwch o aflonyddu a cham-drin, a all fod yn rhwystr mawr rhag sefyll ar gyfer etholiadau. Mae’r adran hon yn amlinellu sawl cam y gall eich plaid eu cymryd i gefnogi ymgeiswyr posibl sy’n profi aflonyddu a cham-drin yn y parth cyhoeddus.  

Rhoi cymorth i unigolion sydd wedi’u heffeithio 

Pan fydd ymgeiswyr yn gwybod bod ganddynt system gefnogaeth gref o fewn eich plaid, maen nhw’n fwy tebygol o deimlo’n ddiogel ac wedi’u grymuso i barhau â’u taith wleidyddol. Mae safiad cyhoeddus a mewnol cryf yn erbyn aflonyddu a cham-drin yn hanfodol wrth greu amgylchedd gwleidyddol diogel. Dylai eich plaid gondemnio yn agored unrhyw fath o fygythiad neu drais yn erbyn ymgeiswyr.

Yn fewnol, gall eich plaid sicrhau bod gan ymgeiswyr sy’n wynebu aflonyddu neu gam-drin fynediad at gefnogaeth gyfreithiol ac emosiynol i’w helpu i lywio’r heriau hyn. Gallai hyn gynnwys cymorth wrth gyflwyno adroddiadau ar gyfer yr heddlu, cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth wrth fynd ar drywydd camau cyfreithiol yn erbyn camdrinwyr neu ymateb i honiadau ffug. Yn ogystal, mae cymorth iechyd meddwl yn hanfodol, gan y gall aflonyddu parhaus achosi niwed emosiynol sylweddol. Dylai pleidiau gynnig mynediad at wasanaethau cwnsela, grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid, neu weithwyr proffesiynol iechyd meddwl i sicrhau bod gan ymgeiswyr y gwydnwch emosiynol i barhau â’u hymgyrchoedd. Dylai eich plaid ddarparu hyfforddiant amserol ar ddiogelwch personol a diogelwch ar-lein i sicrhau bod ymgeiswyr yn barod i gadw eu hunain yn ddiogel. 

Yn ogystal, gall pleidiau roi cefnogaeth uniongyrchol trwy sicrhau bod staff neu aelodau’r pwyllgor yn monitro presenoldeb ar-lein ymgeiswyr, eu helpu i adnabod a rhoi gwybod am gynnwys niweidiol, a sicrhau bod camau cyflym yn cael eu cymryd yn erbyn aflonyddu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Gall fod yn flinedig ac yn drawmatig i ddioddefwyr weld cynnwys sarhaus ac adrodd am gam-drin i ddarparwyr platfform oherwydd bod llawer yn gofyn i bob neges unigol gael ei hadrodd ar wahân.

Mae cam-drin ar-lein yn fwy tebygol o ddigwydd neu gynyddu ar ôl ymddangosiad yn y cyfryngau, dadl neu ddigwyddiad.  Dylai pleidiau ragweld digwyddiadau a allai arwain at gam-drin ar-lein ac ystyried rhoi cymorth rhagweithiol. Dylai eich plaid hefyd ystyried recriwtio ‘tîm sgrinio’ i weld, creu sgrin lun, a didoli negeseuon sarhaus, naill ai i roi gwybod i’r cwmni cyfryngau cymdeithasol neu’r heddlu.  

Hunan-ofal digidol ac ymgysylltu cadarnhaol ar-lein 

Mae ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig yn arbennig o debygol o brofi bwlio a cham-drin ar-lein oherwydd eu rôl sy’n wynebu’r cyhoedd ac oherwydd eu bod yn aml yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phleidleiswyr ac aelodau. Mae hunan-ofal digidol yn strategaeth i osod ffiniau digidol, grymuso dioddefwyr a lleihau’r niwed a achosir gan gam-drin ar-lein. Mae’r camau y gall pleidiau eu cymryd i hyrwyddo hunan-ofal digidol yn cynnwys rhoi gwybodaeth a hyfforddiant i unigolion ar y canlynol: 

  • Rheolaethau blocio a phreifatrwydd: Sut i flocio cyfrifon sarhaus, addasu gosodiadau preifatrwydd, analluogi olrhain lleoliad, a thewi hysbysiadau. 
  • Polisïau platfformau ac adrodd: Deall y telerau defnyddio ar gyfer llwyfannau digidol a gwybod sut i roi gwybod am negeseuon sarhaus yn effeithiol. 
  • Diogelwch cyfrif: Defnyddio cyfrineiriau hir, cryf ac unigryw, yn ogystal â galluogi dilysiad dau ffactor ar gyfer diogelwch ychwanegol. 
  • Diogelu gwybodaeth bersonol: Sut i bylu cefndiroedd a chael gwared ar fanylion adnabod neu dagiau a allai beryglu preifatrwydd. 

Gallai timau cyfathrebu plaid ystyried cyfyngu ar faint o weithiau maen nhw’n tagio ymgeiswyr a chynrychiolwyr unigol yn negeseuon cyfryngau cymdeithasol y blaid neu dderbyn caniatâd penodol cyn iddynt wneud hynny. Gall hyn helpu i gyfyngu ar nifer y negeseuon sarhaus a dderbynnir.   

Mae bodolaeth platfformau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol wedi golygu y gall dadlau a gweithgareddau gwleidyddol ddigwydd mewn unrhyw le ar unrhyw adeg o’r dydd. Er bod gan hyn lawer o fanteision, gall greu diwylliant o ‘bresenoldeb ar-lein’, lle mae pobl yn teimlo y byddant ond yn cael eu gwobrwyo neu’n dringo’n uwch yn y blaid os ydyn nhw’n treulio mwy o amser ar-lein neu’n ymateb yn gyson ac yn gyflym i negeseuon neu erthyglau newyddion.   

Gall presenoldeb ar-lein fod yn arbennig o niweidiol i unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gwleidyddiaeth, gan gynnwys y rhai sy’n anabl neu sydd â chyfrifoldebau gofalu. Er mwyn hyrwyddo diwylliant plaid gadarnhaol, gall fod yn ddefnyddiol trafod disgwyliadau ymgeiswyr ar gyfer gweithgareddau ar-lein cyn i ymgyrch etholiadol ddechrau. Gallai’r blaid hefyd ystyried annog ymgeiswyr i osod eu ffiniau eu hunain i sicrhau amgylchedd digidol iach a pharchus. Er enghraifft, efallai y bydd yn well gan ymgeiswyr bostio negeseuon cyfryngau cymdeithasol eu hunain yn ystod yr wythnos waith neu yn ystod oriau penodol o’r dydd, neu gallent ofyn nad yw lluniau ohonynt mewn digwyddiadau yn cael eu postio nes eu bod yn gadael lleoliad i gynyddu eu diogelwch.  

Ni ddylai pleidiau ddisgwyl yn awtomatig i ymgeiswyr neu ymgyrchwyr sydd â rolau blaenllaw mewn plaid ddefnyddio eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol personol i hyrwyddo eu rôl yn y blaid neu yn ystod etholiad. Ystyriwch gael strwythurau ar gyfer ymgeiswyr a chynrychiolwyr sy’n eu cefnogi gydag ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein, yn enwedig yn ystod prosesau dethol mewnol neu ymgyrchoedd etholiadol. Efallai y bydd eich plaid hefyd eisiau ystyried cefnogi staff neu wirfoddolwyr i alluogi ymgeiswyr i gymryd seibiannau o’r cyfryngau cymdeithasol.