Staff RhCM Cymru
Mae ein tîm bach yn gweithio o gartref ac maent ar gael i siarad mewn digwyddiadau ar gais.
-
Megan Evans
Pennaeth Cyfathrebu ac YmgysylltuMae Megan wedi gweithio wedi gweithio yn sector cydraddoldebau Cymru ers graddio gydag MA o Brifysgol Lyon. Yn ei rôl flaenorol bu’n rheoli cyfathrebiadau prosiect mawr ar gyfer Anabledd Dysgu Cymru, prosiect oedd yn cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth mewn i gyflogaeth. Mae hi’n frwd dros gydraddoldeb rhywiol, ffeministiaeth groestoriadol, hawliau LGBT, a chyfiawnder hiliol.
-
Shannon Gossage
Rheolwr Partneriaethau a Codi ArianShannon yw’r Rheolwr Partneriaethau a Codi Arian; ei rôl yw datblygu ac annog llwyddiant ein hymgyrchoedd codi arian i sicrhau y gall RhCM barhau i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru. Cyn ymuno â RhCM, Shannon oedd y Codwr Arian Rhanbarthol yn Sheffield ar gyfer Hosbis Plant Bluebell Wood.
Trwy gydol ei gyrfa codi arian helaeth, mae Shannon wedi codi arian hanfodol ar gyfer datblygiad plant, gofal hosbis a thriniaeth canser. Mae ganddi BA mewn Llenyddiaeth Saesneg, ond penderfynodd hefyd astudio Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor i gefnogi siaradwyr Saesneg anfrodorol yn wirfoddol. Mae Shannon wedi gweithio a gwirfoddoli yn Lloegr, Awstralia, Canada, Mecsico ac yn fwyaf diweddar yng Nghymru! Mae hi’n frwd ac yn gefnogwr brwd o’r newid y mae RhCM Cymru yn ei gyflawni ar gyfer ffeministiaeth groestoriadol.
-
Evelyn James
Rheolwr Ymgyrch 5050AmrywiolEvelyn James yw Rheolwr Ymgyrch 5050Amrywiol Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru. Mae hi’n Ymarferydd Cyfreithiol o Nigeria. Mae ganddi MA mewn Astudiaethau Datblygu – safbwyntiau Cyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Erasmus, yr Iseldiroedd ac LLM mewn Technoleg Gyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe, Cymru.
Mae hi’n eiriol dros gyfiawnder a newid cymdeithasol, ymchwil gwrthdaro, a mecanweithiau datrys heddwch. Evelyn oedd rheolwr prosiect y Tîm Grymuso Menywod yn y Ganolfan Cyfiawnder Affricanaidd, yr Hâg, yr Iseldiroedd. Mae’n parhau i ganolbwyntio ar ei hymgyrch i sicrhau newid cadarnhaol, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, a hyrwyddo cymdeithas gyfartal a chynhwysol i bawb.
-
Jessica Laimann
Rheolwr Polisi a Materion CyhoeddusMae Jessica yn arwain ar waith polisi RhCM ac yn cydlynu gwaith ymgyrchu a dylanwadu mewn partneriaeth â’n haelodau. Mae ganddi brofiad polisi mewn llywodraeth ddatganoledig a lleol ynghyd â chefndir ymchwil cryf. Cyn dechrau yn RhCM, bu’n cydlynu gwaith partneriaeth awdurdodau lleol rhanbarthol a Chymru gyfan, cwblhaodd leoliad yng Ngwasanaeth Ymchwil y Senedd, ac enillodd PhD mewn athroniaeth. Mae hi’n frwd dros yrru newid sy’n darparu cyfle cyfartal ac awdurdod i bob merch yng Nghymru.
-
Victoria Vasey
CyfarwyddwrVictoria yw Cyfarwyddwr RhCM. Mae hi’n gyfreithiwr hawliau dynol ac yn eiriolwr angerddol dros hawliau menywod. Mae hi wedi gweithio yn y sector Cyrff Anllywodraethol ers 15 mlynedd, fel Cyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith Gogledd Kensington a Chyfarwyddwr Cyfreithiol yn y Ganolfan Hawliau Roma Ewropeaidd a’r Human Dignity Trust. Cyn hynny, roedd hi’n fargyfreithiwr troseddol. Mae ganddi MA o Brifysgol Rhydychen ac LLM o Brifysgol Paris II.
-
Katie Baskerville
Swyddog CyfathrebuKatie Baskerville yw Swyddog Cyfathrebu RhCM Cymru. Cefndir Katie fel newyddiadurwr yn ymdrin â rhyw, iechyd a pherthnasoedd gyda ffocws ar gydraddoldeb rhyw a thrais yn erbyn menywod a merched. Gallwch ddod o hyd i’w herthyglau ar hawliau Trans+ ac effeithiau cam-drin domestig ar oroeswyr yn HuffPost; yn ogystal ag erthyglau eraill ar hunaniaeth anabl, pleser, ffrwythlondeb a mwy gyda British Vogue, Cosmopolitan, Women’s Health Magazine, VICE, Refinery29, Glorious Sport a mwy. Ar hyn o bryd mae hi’n ysgrifennu ei ffilm ffeithiol gyntaf gyda Harper Collins, sydd i’w chyhoeddi yn 2025.