Y Celfyddydau

Illustration of Charlotte Guest by Molly Allen

Charlotte Guest

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Ganwyd y Foneddiges Charlotte Guest yn Swydd Lincoln, yn un o deulu o uchelwyr yn Lloegr. Hi gyhoeddodd y cyfieithiad cyntaf o’r Mabinogion. Roedd yn wraig i un o feistri haearn Cymru a pherchennog Cwmni Haearn Dowlais, a thra bu’n byw yng Nghymru roedd yn weithgar iawn yn y gymuned. Roedd Charlotte yn arloesi o ran sefydlu ysgolion i’r gweithwyr, gosod pibellau dŵr i’w bythynnod a chynnal trafodaethau yn ystod streiciau. Roedd yn ieithydd hefyd, a daeth yn amlwg ym maes astudio llenyddiaeth Gymraeg y Dadeni.

Illustration of Brenda Chamberlain by Molly Allen

Brenda Chamberlain

Y Celfyddydau

Ganwyd Brenda Irene Chamberlain ym Mangor, ac roedd yn artist, yn fardd ac yn nofelydd. Ysgrifennodd am ei hatgofion o’r blynyddoedd a dreuliodd yn byw ar Ynys Enlli ac hi oedd enillydd y ddwy Fedal Aur gyntaf i’w dyfarnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol am Gelfyddyd Gain, yn 1951 ac yna yn 1953. Bu farw ym Mangor yn 1971, yn 59 mlwydd oed, ar ôl cymryd gorddos o gyffuriau tawelu. Mae ei gwaith i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn y Llyfrgell Genedlaethol, ym Mhrifysgol Bangor, yng Nghastell Cyfarthfa ac yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain.

Illustration of Audrey Williams by Molly Allen

Audrey Williams

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Wedi’i geni a’i magu yn Ninas Powys, roedd Audrey Williams yn archeolegydd proffesiynol a fu’n cloddio ar safleoedd hanesyddol enwog ledled y DU, gan gynnwys Teml Mithras yn Llundain, y Barbican a Phalmant Rhufeinig Caergaint, ynghyd â safleoedd yn agosach at ei chartref megis Comin Fairwood yn Abertawe a Rhosili ar Benrhyn Gŵyr. Dechreuodd ymwneud ag Amgueddfa Abertawe ac Athrofa Frenhinol De Cymru ar ôl astudio Saesneg yn Rhydychen, a rhwng 1941 ac 1944 roedd yn Arolygydd Henebion Cynorthwyol i Weinyddiaeth Gwaith ac Adeiladau Llywodraeth Prydain. Ei gwaith oedd cloddio safleoedd archeolegol cyn iddynt gael eu datblygu i greu amddiffynfeydd neu safleoedd milwrol, ond er iddi weithio bob dydd ar safle Teml Mithras, yn wahanol i’w chyfarwyddwr a’i chydweithiwr yr Athro William Grimes, ei enw ef yn unig sydd i’w weld ar y safle.

Illustration of Angharad Tomos by Molly Allen

Angharad Tomos

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd iaith ddigyfaddawd, a’i gwreiddiau yn ddwfn yn Nyffryn Nantlle, yn un o bum chwaer,ac yn wyres i’r Sosialydd, David Thomas.
Roedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1982-84 ac fe’i carcharwyd fwy nag unwaith am ymgyrchoedd iaith. Mae’n llenor disglair ac wedi ysgrifennu a darlunio nifer helaeth o lyfrau i blant gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1983. Mae wedi ennill coron Eisteddfod yr Urdd ddwywaith, Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith. Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at lenyddiaeth plant yng Nghymru. Ysgrifennodd hanner dwsin o nofelau i oedolion, a llwyfannwyd drama o’i heiddo gan y Theatr Genedlaethol yn 2012. Yn ddiweddar, mae wedi sgwennu tair nofel i bobl ifanc yn seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol. Mae’n byw ym Mhenygroes gyda’i gŵr Ben a’i mab 15 oed, Hedydd.

Illustration of Amy Dillwyn by Molly Allen

Amy Dillwyn

Twymder Cymdeithasol & Gweithrediad Y Celfyddydau

Yn enedigol o’r Sgeti yn Abertawe, cafodd Amy Dillwyn ei haddysg gartref ac roedd yn fenyw ifanc wrthryfelgar yng nghylchoedd bonheddig oes Fictoria. Ysgrifennodd nofelau poblogaidd yn ymdrin â rôl menywod fel dinasyddion eilradd, nofelau fel Chloe Arguelle a Jill and Jack, ac roedd hefyd yn cyfrannu erthyglau a cholofnau’n rheolaidd i’r Spectator. Bu farw ei thad yn ifanc a gadael y teulu mewn trafferthion ariannol mawr, a bu Amy’n rheoli’r ffatri sinc yn Llansamlet yr arferai ei thad ei rhedeg, busnes oedd â dyledion mawr, ar adeg pan nad oedd fawr o groeso fel arfer i fenywod yn ystafelloedd cyfarfod byd diwydiant a masnach. Llwyddodd i adfer y busnes a’i godi’n ôl ar ei draed, ac erbyn 1904 roedd wedi gwerthu ei chyfranddaliadau i gwmni o’r Almaen. Neilltuodd weddill ei hoes i wleidyddiaeth leol.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen