Sarah “Cranogwen” Rees
Cafodd Sarah Jane Rees ei geni ger Llangrannog yng nghefn gwlad Ceredigion, ac roedd yn eiriolwraig frwd gydol ei hoes dros addysg i fenywod. Gwrthododd fynd i wneud prentisiaeth fel gwniadwraig pan adawodd yr ysgol, a threuliodd ddwy flynedd ar y môr yn gweithio ar long ei thad, cyn dychwelyd i ysgol forwrol yn Llundain lle’r enillodd gymhwyster a fyddai’n caniatáu iddi fod yn bennaeth ar long yn unrhyw ran o’r byd. Wedi iddi ddychwelyd adref, cymerodd yr awenau yn yr Ysgol Brydeinig i ferched a bechgyn, ond roedd hefyd yn derbyn dynion ifanc a oedd am astudio morwriaeth. Yn sgil hynny, byddai llawer o forwyr a chapteiniaid y dyfodol yn cyhoeddi’n falch eu bod wedi cael eu hyfforddiant morwrol cyntaf gan fenyw. Roedd hefyd yn fardd nodedig yn ystod oes Fictoria, dan yr enw Cranogwen, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1865 gyda ‘Y Fodrwy Briodasol’, portread teimladwy o fywyd menyw briod. Hi oedd y fenyw gyntaf erioed i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod, Y Frythones, i fenywod ifanc o’r dosbarth gweithiol yn bennaf. Hi hefyd sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De.