Rydym yn recriwtio Swyddog Cyfathrebu

Dydd Gwener Mehefin 28th, 2024
Poster that reads We Are Recruiting

Swyddog Cyfathrebu

  • Lleoliad: Gweithio o bell / Swyddfa yng Nghaerdydd / Hybrid
  • Cyflog: £26 – 30k (pro rata)
  • Oriau gweithio: 22.5 awr (60%) neu 30 awr (80%) yr wythnos (yn amodol ar gyllid)
  • Math o gontract: Cyfnod penodol o 1 flwyddyn gyda’r potensial i ymestyn
  • Gweithio hyblyg

AM RHWYDWAITH CYDRADDOLDEB MENYWOD (RhCM) CYMRU

RhCM Cymru yw prif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru. Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd, lle mae gan bawb gyfle ac awdurdod cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.

Fel sefydliad aelodaeth, rydym yn gweithio mewn clymblaid â’n haelodau sefydliadol ac unigol trwy cysylltu, ymgyrchu a hyrwyddo menywod i wireddu ein gweledigaeth.

AM Y RÔL

Byddwch yn atebol i’r Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, gan chwarae rhan allweddol wrth gyfathrebu gwaith hanfodol RhCM ac ymgysylltu â’n haelodaeth amrywiol. Byddwch yn cefnogi’r Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu a chydweithwyr mewn polisi ac ymgyrchoedd i ysgogi cefnogwyr, hysbysu mewn modd hygyrch, a dylanwadu ar farn – bob amser trwy lens groestoriadol. Bydd gennych ddiddordeb mawr mewn cynrychiolaeth amrywiol a chyfartal yng ngwleidyddiaeth Cymru, mater ymgyrchu sydd o bwys i RhCM.

Bydd y rôl yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu ystod eang o gynnwys effeithiol a dylanwadol i yrru ein gweledigaeth yn ei blaen. Os ydych chi’n angerddol am gydraddoldeb rhywedd, wedi’ch cymell i wneud newid gwirioneddol i fenywod yng Nghymru, a bod gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, efallai mai dyma’r rôl i chi.

Siaradwr Cymraeg: Dymunol

Cliciwch yma i lawrlwytho’r disgrifiad swydd llawn a’r cyfarwyddiadau ymgeisio.

Dyddiad cau: 21 Gorffennaf 2024 am 5yp

Ariennir y rôl hon yn rhannol gan Ymddiriedolaeth Diwygio Joseph Rowntree (JRRT).