Cofrestrwch i gefnogi mesurau ar gyfer Senedd sy’n gytbwys o ran rhywedd

Dydd Llun Ebrill 15th, 2024

A ydych yn credu y dylem gael Senedd sy’n gytbwys o ran rhywedd sy’n cynrychioliedig o boblogaeth Cymru? Yna ychwanegwch eich llais i gefnogi mesurau a allai helpu i gyflawni hyn.

Mae Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn gorchymyn bod:

1. Rhaid i o leiaf hanner yr ymgeiswyr ar restr plaid wleidyddol fod yn fenywod
2. Os nad yw ymgeisydd ar y rhestr yn fenyw, rhaid i’r ymgeisydd nesaf ar restr plaid wleidyddol fod yn fenyw
3. Rhaid gosod merched yn gyntaf ar o leiaf hanner rhestrau ymgeiswyr plaid wleidyddol.

Mae hwn yn bolisi mawr ei angen y mae RhCM Cymru wedi bod yn ymgyrchu’n ddiflino drosto fel rhan o ymgyrch 5050Amrywiol, ochr yn ochr â’n partneriaid clymblaid Cymdeithas Diwygio Etholiadol CymruCyngor Hil Cymru, ac EYST.

Cyflwynwyd y Bil ym mis Mawrth ac mae Pwyllgor y Bil Diwygio bellach yn craffu arno. Fel rhan o’r craffu hwn, cyflwynodd clymblaid 5050Amrywiol ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor. Mae ein hymateb yn croesawu’r ddeddfwriaeth garreg filltir hon ac yn tynnu sylw at ba gamau sydd eu hangen i sicrhau y bydd menywod â nodweddion gwarchodedig gwahanol ac o gymunedau ymylol yn elwa’n llawn ohoni – ar gyfer Senedd sy’n cynrychioli pob un ohonom.

Dangoswch eich cefnogaeth drwy gofrestru ar gyfer ein hymateb drwy’r ffurflen hon erbyn 19eg Ebrill.

Gallai eich llais fod yn hollbwysig yn hynt y ddeddfwriaeth hon a dyfodol cynrychiolaeth menywod yn y Senedd.