Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2020

Dydd Mawrth Chwefror 25th, 2020

Bydd RhCM Cymru’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2020 mewn pedwar digwyddiad ledled Cymru.

O weithdai i actifyddion benywaidd yn brwydro yn erbyn llygredd plastig, mae rhywbeth i bawb, felly nodwch y dyddiadau hyn yn eich dyddiaduron nawr!

Mae ein pecyn cymorth IWD 2020 bellach ar gael. O ddathlu eich merch ysbrydoledig bersonol eich hun, i wneud adduned neu drefnu trafodaeth panel, gall y pecyn cymorth hwn eich helpu i gymryd rhan.

Mae gennym ddau ddewis-ar gyfer y rhai sydd ag ychydig o amser ac ar gyfer y rhai sydd eisiau gwneud mwy.

IWD 2020 Pecyn Cymorth

Dydd Gwener 6 Mawrth 2020
Theatr Byd Bychan, Bath House Road, Aberteifi, Ceredigion SA43 1JY
Arddangosiad: 100 Fenywod Cymreig
14:00 – 20:00, Am ddim
Mae RhCM Cymru wedi creu rhestr o 100oFenywodCymreig i gofnodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Dewch i ddathlu eu cyfraniad at ein bywyd cenedlaethol a’n menywod ysbrydolgar sy’n llunio dyfodol Cymru ar hyn o bryd.

Gweithdy Zine
15:30 – 17:45
Am ddim, galw heibio unrhyw bryd o 15:30
Wedi’i ysbrydoli gan Cranogwen (Sarah Jane Rees), ymunwch â’r bard, yr artist a’r cyhoeddwr Nicky Arscott wrth archwilio hunanfynegiant drwy ddiwylliant zine arloesol a bod yn ymarferol wrth greu eich zine DIY eich hun.

Daeth Cranogwen y fenyw gyntaf i ennill gwobr gerdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a hi oedd golygydd Y Frythones, “llwyfan ar gyfer ysgolheigesau a rhag-swffragetiaid Cymreig”. Nicky yw sylfaenydd Mother Mary Press , cyhoeddwr comig annibynnol a Chyfarwyddwr Ennyn CIC –sy’n hyrwyddo celf a chreadigrwydd mewn ysgolion a chymunedau.

Her yr Hinsawdd a Hawliau Menywod
Home-grown Playback Theatre Company / Cwmni Theatr Tyfu-Gartref Playback  
18:00 – 20:00
£8 / £5 consesiynau, rhaid archebu tocyn
Theatr gymunedol ryngweithiol yw Playback, sy’n gwneud gwaith byrfyfyr â thamaid o hyd; weithiau’n emosiynol, weithiau’n ddoniol. Bydd hon yn noson unigryw, untro’n unig, lle gallwch rannu eich straeon am fywyd, mwy o gydraddoldeb a hawliau menywod a’n hamgylchedd sy’n newid o hyd yn hinsawdd heriol heddiw.

Ffurfiwyd Cwmni Theatr Home-Grown / Tyfu-gartref Playback gan grŵp o artistiaid, beirdd, actifyddion, garddwyr, cerddorion a pherfformwyr lleol sy’n frwd dros ein perthnasoedd amrywiol gyda’n gilydd a chyda’r ddaear.

Archebwch Nawr.

Ein Lleisiau, Ein Bywydau
Dydd Sadwrn 7 Mawrth 2020
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Ceredigion SY23 3DE

Dewch i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyda diwrnod o weithdai a noswaith fywiog ac ysbrydolgar llawn sgyrsiau, trafodaethau a cherddoriaeth fyw. Croeso i bawb.

Gweithdai’r prynhawn (o 12:30pm)

Dewiswch weithdy i fynegi eich hun! Rhyddhewch eich seren roc fewnol gyda gweithdy cerddoriaeth wedi’i gynnal gan The Rock Project; neu dewch i actio gyda Theatr Forum; neu wneud eich zine eich hun. Am ddim neu roddion. I weld y rhaglen lawn ac i gadw lle, ewch i www.aberration.org.uk

Noson i ddathlu
Tocynnau: £7 / £5
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
01970 62 32 32
6pm Speak Up – trafodaeth banel gydag actifyddion benywaidd
8pm Cerddoriaeth, sgwrs a dawns gan unigolion dawnus lleol, gan gynnwys ein canwr ein hunain, Magda o Aberystwyth, Shroukie o Gaerdydd a Fingersmith, y band o Leeds sy’n perfformio caneuon cŵl, jazz y mae’n hawdd dawnsio iddynt.

Archebwch Nawr.

Gwyddoniaeth Wych Abertawe
Dydd Sul 8 Mawrth 2020
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Heol Ystumllwynarth, yr Ardal Forol, Abertawe SA1 3RD
Ymunwch â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Oriel Science, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, drwy gwrdd â menywod anhygoel y mae eu bywydau a’u gyrfaoedd wedi’u llunio gan wyddoniaeth.

Arddangosfa: 100oFenywodCymreig
Am ddim

Mae RhCM Cymru wedi llunio rhestr o 100oFenywodCymreig i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Dewch i ddathlu eu cyfraniad at ein bywyd cenedlaethol a’n menywod ysbrydolgar sy’n llunio dyfodol Cymru ar hyn o bryd.

O’r sbwriel i’r arian parod: gweithdy rhyngweithiol sy’n trawsnewid gwastraff plastig a charbon deuocsid yn gynnyrch defnyddiol
12:00 – 13:00
Am ddim, rhaid archebu tocyn
Bydd Dr Jennifer Rudd , Ailgylchu Carbon a Martin Paley , Precious Fantastic Lancaster yn cynnal cyflwyniad a gweithdy byw rhyngweithiol am leihau ein gwastraff plastig drwy drawsnewid hen wrthrychau’n rhywbeth newydd yn fyw ar y llwyfan. Byddant hefyd yn mynd i’r afael â rhywbeth llawer yn fwy anodd, sut rydym yn lleihau ein hallyriadau carbon? Dewch i ddarganfod sut! Gwyddoniaeth Ddinasyddion: atal llygredd plastig – Lauren Eyles

13:30 – 14:30
Am ddim, rhaid archebu tocyn
Bydd Lauren Eyles yn myfyrio ar 10 mlynedd o ymrwymiad i astudio effaith llygredd plastig ar ein moroedd a’n tirweddau cefn gwlad. Fel y dywedodd Gillian Burke o BBC Springwatch, “Rydym newydd ddeffro i’r rôl hanfodol y mae ein moroedd yn ei chwarae mewn sefydlu ein
hinsawdd a chefnogi bywyd ar y ddaear. Mae Lauren yn eiriolwr gwych a brwdfrydig sy’n helpu i ledaenu’r neges hon er mwyn i ni gwympo mewn cariad â’r blaned las.” Mae Lauren yn cyfrannu’n rheolaidd at y teledu cenedlaethol gan gynnwys ymddangos ar Blue
Planet UK, BBC Coast, Blue Peter, Newsround, Springwatch a Countryfile.

Plastigion, podlediadau a dysglau petri
Actifyddion Benywaidd mewn Gwyddoniaeth: Trafodaeth Banel
14:45 – 15:30
Am ddim, rhaid archebu tocyn
Bydd Dr Kamila Hawthorne, un o 100OFenywodCymreig RhCM Cymru a Phennaeth Meddygaeth Lefel Radd ym Mhrifysgol Abertawe’n cynnal trafodaeth banel gyda Lauren Eyles, Biolegydd Morol a chadwraethwr moroedd; Alice Gray, STEMinydd ac ysgrifennwr gwyddoniaeth; Dr Jennifer Rudd, Cymrawd Ymchwil yn ESRI, Prifysgol Abertawe; a chyfraniad fideo byr gan Emily Penn, Cyfarwyddwr
Exxpedition, eiriolwr rhyngwladol dros foroedd glân, a’r unigolyn ieuengaf a’r unig fenyw i ennill y wobr Yachtmaster of the Year.

Archebwch Nawr.

Hyrwyddo menywod hynod mewn iechyd ac arloesedd
Dydd Iau 2 Ebrill 2020
Pontio , Prifysgol Bangor, Heol Deiniol, Bangor LL57 2TQ
Am ddim (croeso i chi roi rhodd), rhaid archebu tocyn
Ymunwch â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru am noson i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched drwy gwrdd â menywod hynod mewn iechyd a thechnoleg. Bydd cyfle i rwydweithio a chwrdd â siaradwyr ar ddechrau’r sesiwn dros deisen a phaned yn y dderbynfa.

Rhwydweithio a Byrbryd
18:00 – 18:30
Cwrdd ag arloeswr: Dr Elin Haf Davies (Aparito)
18:30 – 19:30
Mae gan Dr Elin Haf Davies , ugain mlynedd o brofiad clinigol yn gweithio i ddatblygu triniaethau cyffuriau newydd ar gyfer afiechydon plentyndod. Bydd yn siarad am yr hyn a’i harweiniodd i fod yn CEO Aparito – cwmni iechyd digidol sy’n datblygu technoleg wisgadwy i gleifion ag afiechydon prin.
Mae Elin hefyd yn Anturiaethwr Morol medrus, ac mae wedi rhwyfo ar draws yr Iwerydd (y fenyw gyntaf yng Nghymru i wneud hynny) a Chefnfor yr India, a hwylio ar draws y Môr Tawel a’r Iwerydd – gan dreulio cyfanswm o 204 o ddiwrnodau ar y môr. Yn awdur llwyddiannus ac yn siaradwr ysbrydolgar, bydd hi’n rhannu’r hyn mae’n ei gymryd i gyflawni’r heriau hyn, ac o ble y daw ei hysgogiad.

Arloeswyr Benywaidd: Trafodaeth Banel
19:30 – 20:15
Bydd sesiwn banel yn dilyn, a fydd yn cynnwys menywod arloesol sydd ar flaen y gad o ran arloesi mewn iechyd a thechnoleg gan gynnwys Yasmine Boudiaf , Technolegydd Creadigol a sylfaenydd Serious Datum, a’i chadeirio gan Dr Olwen Williams OBE , Ffisegydd Ymgynghorol a Llywydd y Gymdeithas Brydeinig dros Iechyd Rhywiol ac HIV.

Archebwch Nawr.