Lle i Ni: Diwrnod Menywod yn y Senedd

Wedi’i gynnal gan Gomisiwn y Senedd a’i drefnu gan RhCM Cymru ac Elect Her, roedd y digwyddiad undydd cyffrous hwn ar 21 Hydref 2023 wedi’i anelu at ddod â menywod Cymru at eu gilydd i gysylltu, ysgogi a hyrwyddo eu rôl yn nemocratiaeth Cymru. Darllenwch y blog fan hyn, a ffeindiwch luniau o’r digwyddiad fan hyn.

Rydym eisiau cynrychiolaeth gyfartal ac amrywiol i fenywod yng ngwleidyddiaeth Cymru – yn enwedig menywod o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod LHDTC+, menywod anabl, a menywod â nodweddion gwarchodedig eraill. I’r perwyl hwn, nod y digwyddiad hwn yw sicrhau bod ystod eang ac amrywiol o fenywod yng Nghymru:

  • Yn gallu cyfarfod a chydweithio i ystyried y cynnydd a wnaed hyd yma tuag at gynrychiolaeth gyfartal mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru a’r DU.
  • Ymgysylltu ag uwch gynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus perthnasol yng Nghymru, gan gynnwys y Senedd, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac eraill.
  • Yn gallu dysgu mwy am y camau sydd ynghlwm wrth sefyll am swydd etholedig ac archwilio eu potensial eu hunain fel ymgeiswyr.
  • Yn gallu cyfarfod ag arweinwyr gwleidyddol mewn llywodraeth genedlaethol a lleol i archwilio a dysgu am rolau, realiti, cyfleoedd, heriau, ac effeithiau posibl sefyll am swydd etholedig a’i chyflawni.

Gwelodd mynychwyr groeso cynnes ac ystafell yn llawn menywod anhygoel, o’r un anian. Cymerasant rhan mewn gweithdai a gweithgareddau rhad ac am ddim wrth i ni archwilio cyfranogiad democrataidd mewn gofod diogel a chynhwysol. I ychwanegu ato, clywsant straeon cadarnhaol ac ysbrydoledig menywod mewn swyddi etholedig, yn bersonol ac yn cael eu ffrydio’n fyw o’n digwyddiad Lle i Ni yn Senedd Cymru.

Roedd sesiwn y Siambr, dan arweiniad y Llywydd Elin Jones AS, yn cynnwys gwleidyddion o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol mewn trafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb, a chynhelir areithiau cyweirnod gan y Dirprwy Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, Natasha Asghar AS, ac RhCM Cymru.

Os ydym am gael cymdeithas wirioneddol ffeministaidd a theg, mae angen eich persbectif arnom i newid y sgwrs. Mae menywod ledled Cymru yn cael eu tangynrychioli ar bob lefel o wleidyddiaeth. Nid ydym yn brin o fenywod sy’n malio ac yn gweithio dros newid yng Nghymru, a’r menywod hyn y mae angen i ni gael eu cynrychioli yng nghoridorau pŵer. Er mwyn i wleidyddiaeth adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru yn wirioneddol, mae angen bod ag Aelodau Seneddol sy’n fenywod, gan gynnwys menywod anabl, menywod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, menywod LHDTC+ a menywod â nodweddion gwarchodedig.

Os hoffech chi archwilio dod yn arweinydd, deddfwr a hyrwyddwr llywodraethu gwleidyddol Cymru, rydyn ni yma i’ch helpu chi i gymryd y camau hynny. Mae’r amser nawr – fe allech chi fod yr un i wneud gwahaniaeth.

Darllenwch fwy am dewis o weithdai’r diwrnod yma.