Gweithdai Lle i Ni

Gweithdy 1: Camau ar y Siwrnai Wleidyddol

Dechrau arni: Sut y mae democratiaeth yn effeithio ar fy mywyd?

Ai dim ond megis dechrau ar eich taith wleidyddol ydych chi, ac o ran canfod lle’r ydych yn ffitio i mewn i hyn oll? A ydych yn chwilfrydig ynghylch y modd y mae prosesau gwneud penderfyniadau yn gweithio a sut y gallwch fod yn rhan ohonynt? Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar wleidyddiaeth ar amrywiol lefelau i’ch helpu i feddwl lle’r ydych am ddechrau arni, dysgu am ddemocratiaeth, a chanfod y rôl y gallwch ei chwarae.

Ymgyrchedd yng Nghymru: Sut y Gallaf Sicrhau Bod fy Llais yn Cael ei Glywed?

Nid gwleidyddion sy’n llunio pob gwleidyddiaeth! Mae’r gweithdy hwn yn cael ei anelu at fenywod sydd – neu sydd am fod – yn ymgyrchwyr yn eu cymuned eu hunain i greu newid gwirioneddol a fydd yn para.

Pecyn Cymorth Cynrychiolaeth Gyfartal: Sut y Gallaf Wneud fy Mhlaid Wleidyddol yn Fwy Cynhwysol?

Mae’r Pecyn Cymorth Cynrychiolaeth Gyfartal mewn Gwleidyddiaeth yn set o adnoddau rhad ac am ddim, cynhwysfawr a hawdd eu defnyddio i aelodau pleidiau gwleidyddol allu asesu a gwella eu harferion cyfredol o ran hygyrchedd, amrywiaeth a chynwysoldeb. Dewch i glywed sut y gallech ei ddefnyddio yn eich plaid wleidyddol eich hun i adolygu arfer presennol a chynllunio ar gyfer gwelliant.

Os nad chi, pwy? Bywyd menyw mewn swydd etholedig

Dysgwch o brofiad bywyd cynghorwyr ac Aelodau o’r Senedd cyfredol fel y gallwch archwilio a allai bywyd mewn swydd etholedig fod yn iawn i chi, a chynllunio’r camau nesaf y byddai’n ofynnol i chi eu cymryd i gyrraedd yno.

Menywod mewn Swydd Etholedig: Newid y Diwylliant

Gwyddom fod yna heriau yn ein diwylliant gwleidyddol, felly sut y gallwn sicrhau newid cadarnhaol? Mae’r gweithdy hwn ar gyfer menywod mewn swyddi etholedig, lle y gallant siarad am le a sut y gall newid ddigwydd yn ein sefydliadau etholedig.

Gweithdy 2: Hunaniaeth a phrofiad

Dechrau arni: Sut y mae democratiaeth yn effeithio ar fy mywyd?

Ai dim ond megis dechrau ar eich taith wleidyddol ydych chi, ac o ran canfod lle’r ydych yn ffitio i mewn i hyn oll? A ydych yn chwilfrydig ynghylch y modd y mae prosesau gwneud penderfyniadau yn gweithio a sut y gallwch fod yn rhan ohonynt? Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar wleidyddiaeth ar amrywiol lefelau i’ch helpu i feddwl lle’r ydych am ddechrau arni, dysgu am ddemocratiaeth, a chanfod y rôl y gallwch ei chwarae.

Menywod Ifanc a’m Dyfodol Gwleidyddol

Dydych chi byth yn rhy ifanc – ymunwch â menywod eraill yn eu harddegau, eu hugeiniau a’u tridegau i rannu profiadau ac archwilio sut y gallwn gydweithio i greu newid gweladwy go iawn yn ein cymunedau. A all bod yn seneddwr ieuenctid fod yn un o’r camau hynny? A all ymuno â rhaglen fentora fod yn un o’r camau hynny?

Chwyldro Canol Oes: Hawlio pŵer ym mlodau’ch dyddiau

Dydych chi byth yn rhy hen – ymunwch â menywod eraill sydd yn eu pedwardegau ac yn hŷn i feithrin yr eglurder, yr hyder a’r dewrder i fynd ati ym mlodau’ch dyddiau i ddilyn eich uchelgeisiau na chawsant eu gwireddu, a chreu cynllun gweithredu ar gyfer bywyd mewn gwleidyddiaeth.

Rhieni mewn Gwleidyddiaeth: Pŵer Gofal

Ynghyd â rhieni eraill, byddwn yn archwilio’r broses o ddwyn rhieni i mewn i wleidyddiaeth i greu newid polisi cadarnhaol i bawb, ynghyd â pha newidiadau y mae’n ofynnol eu gwneud fel bod gennym system wleidyddol sy’n ystyriol o deuluoedd.

Pobl LHDTC+ mewn Gwleidyddiaeth

Nid oes gan fenywod LHDTC+ a phobl anneuaidd gynrychiolaeth ddigonol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae angen newid y naratif yng Nghymru. Byddwn yn canfod pam y dylem, fel pobl LHDTC+, ddod â’n profiad bywyd i mewn i wleidyddiaeth, a’r modd y gallwn gyrraedd yno.

Menywod Anabl mewn Gwleidyddiaeth

Yn agored i bob menyw F/fyddar neu Anabl, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd hirdymor – gyda’n gilydd byddwn yn creu gofod cefnogol fel y gallwn roi cymorth i’n gilydd a rhannu heriau, adnoddau a chyfleoedd i gysylltu ymgyrchoedd, ynghyd â gwella profiadau menywod B/byddar ac Anabl ym myd gwleidyddiaeth ac ymgyrchedd.

Sut i Ddweud Fy Stori: Canolfan Adrodd Straeon

Mae adrodd straeon yn rhan hanfodol o arweinyddiaeth. I ysgogi eraill i gymryd rhan yn eich ymgyrch, dysgwch sut i fynd ati mewn modd hyderus i rannu’r modd y mae eich profiad wedi siapio’ch diddordeb mewn arweinyddiaeth a chynrychiolaeth, gan o bosibl eich arwain at wleidyddiaeth, fel y byddwch yn barod i adrodd eich stori yn ystod y daith o’ch blaen.

Menywod o Leiafrifoedd Ethnig mewn Gwleidyddiaeth

Er mwyn i wleidyddiaeth adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru yn go iawn, rhaid i ragor o fenywod o gefndir ethnig leiafrifol gael eu cynrychioli. Dewch i glywed gan fenywod o liw a etholwyd ar lefel leol a chenedlaethol am eu teithiau i wleidyddiaeth, dewch i ganfod pa gymorth sydd ar gael i chi ar eich taith eich hun, a dewch i gael gwybod pam y mae mor hanfodol i ragor o fenywod o liw gael eu hethol ledled gwleidyddiaeth Cymru.