Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) yn cael ei gynnal yn flynyddol ar Fawrth 8fed. Mae’n ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflawniadau menywod. Yn ogystal â dathlu, mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu ar gyfer cyflymu cynnydd tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae IWD wedi digwydd ers ymhell dros ganrif, gyda’r cyfarfod ​cyntaf ym 1911. Heddiw, mae IWD yn perthyn i bob grŵp gyda’i gilydd ym mhobman.

Pecyn Cymorth Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar gyfer Ysgolion a Grwpiau Ieuenctid

Ers 2021, mae RhCM Cymru wedi cynhyrchu pecyn cymorth Diwrnod Rhyngwladol y Menywod blynyddol ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid ar gydraddoldeb rhywedd a hawliau menywod. Hyd yn hyn, rydym wedi cyrraedd cannoedd o ysgolion ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru dros tair mlynedd gyntaf y prosiect hwn.

Unwaith eto eleni, mae RhCM Cymru yn galw ar ysgolion a grwpiau ieuenctid i gymryd rhan gyda ein pecyn cymorth Diwrnod Rhyngwladol Menywod. Rydym am estyn allan i’r genhedlaeth nesaf o weithredwyr ifanc trwy gefnogi gweithgaredd mewn ysgolion o gwmpas 8fed Mawrth. Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys gweithgareddau sy’n addas ar gyfer dysgu yn y dosbarth neu ar-lein trwy gydol ysgol Gynradd ac Uwchradd, ynghyd â dolenni i adnoddau pellach. Rydym am gefnogi ysgolion ledled Cymru i ennill mwy o wybodaeth am gydraddoldeb rhywedd, rhywiaeth a’r menywod Cymreig anhygoel sydd wedi bod yn cyfrannu at ein bywydau yng Nghymru.

Lawrlwythwch y pecyn cymorth fan hyn!

Fel rhan o broses lawrlwytho y pecyn cymorth rydym yn casglu eich enw a’ch cyfeiriad e-bost. Trwy nodi’r manylion hyn isod a chlicio ‘submit’, rydych chi’n cydsynio i hyn. Byddwn yn defnyddio’r data hwn i gyfathrebu â chi dim ond er mwyn cysylltu â chi ynghylch y pecyn cymorth. Mae gennych yr hawl ar unrhyw adeg i ymneulltio eich caniatâd i ni gadw’r wybodaeth hon. Gweler ein Datganiad Preifatrwydd.

Bydd y ddolen lawrlwytho yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost. Gwiriwch eich ffolder sbam os nad ydych yn ei dderbyn.

Adnoddau ychwanegol i gyd-fynd â’r pecyn cymorth:

Cwis: Pa swydd ydw i’n ei wneud

Powerpoint: Merched yn y gwasanaethau brys

 

Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch iwd@wenwales.org.uk

 

Y flwyddyn hon, mae’n bleser gennym gydweithio â The Girls Network, a’i genhadaeth yw ysbrydoli a grymuso merched o’r cymunedau lleiaf breintiedig. Mae hyn yn golygu, yn ogystal ag ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Cymru, y bydd merched yn eu rhwydweithiau rhanbarthol yn Lloegr hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r pecyn cymorth, dysgu am gydraddoldeb rhywedd a hawliau menywod, ac ymuno â ni i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. . Dysgwch fwy am The Girls Network a’u gwaith fan hyn.

 

Edrychwch yn ôl ar ein cyn-ddigwyddiadau.